Scarily good events at Pembrey Country Park/Digwyddiadau arswydus o dda ym Marc Gwledig Pen-bre

0
1623

Scarily good events at Pembrey Country Park
Pembrey Country Park welcomes you to its dark and scary side on Halloween.
Celebrate the spookiest day of the year with a day full of spine tingling activities alongside wizards, witches, ghosts, ghouls, zombie runs and bats on Tuesday, October 31
There will be a witches and wizards trail at 10am for the under 6s. During the two hours you will make wands before embarking on a bug hunt to find some scary bugs and finally stopping off for a story about the spooks of Pembrey.
If you’re brave enough to go on a ghost hunt deep into the woods, build a den, listen to the myths and legends of Pembrey including the “Hatchet Man” and make magic potions in the cauldron of Doom and aged between 7 and 12 then make sure you book the ghosts and ghouls event at 1.30-3.30pm.
Run through the woods and try and stop the zombies from catching you on the Zombie Run at 5-7pm for ages 12 plus. If you survive there will be devils fingers as a reward.
The head witch will give out best dressed prizes at the end of each event at each event.
For families we will be holding a bat and night time walk for 7pm. One of our rangers will be show you the hidden gems of Pembrey but don’t forget you will need to be quiet or you won’t see anything.
Event prices start from ÂŁ1 and booking is essential. Usual car parking charges apply. Call the visitor centre on 01554 742424 option 1 or email ortevents@carmathenshire.gov.uk

Digwyddiadau arswydus o dda ym Marc Gwledig Pen-bre
Mae Parc Gwledig Pen-bre yn eich croesawu i fentro i’w ochr arswydus a thywyll ar Noson Calan Gaeaf.
Dathlwch ddiwrnod mwyaf arswydus y flwyddyn drwy ddod i ddiwrnod llawn gweithgareddau a fydd yn gyrru ias i lawr eich cefn yng nghwmni dewiniaid, gwrachod, ysbrydion, sombis ac ystlumod, ddydd Mawrth, 31 Hydref.
Bydd llwybr gwrachod a dewiniaid am 10am ar gyfer plant dan 6 oed. Yn ystod y ddwy awr, byddwch yn creu hudlathau cyn hela pryfed arswydus ac yna’n gorffen gyda stori am ysbrydion Pen-bre.
Os ydych yn ddigon dewr i fentro ar helfa ysbrydion drwy’r goedwig, adeiladu cuddfan, gwrando ar fythau a chwedlau Pen-bre fel yr “Hatchet Man”, creu diodydd hud yn y crochan arswydus, a’ch bod rhwng 7 a 12 oed, yna archebwch eich lle ar gyfer y digwyddiad ysbrydion am 1.30-3.30pm.
Os ydych yn 12 oed a hšn, gallwch redeg drwy’r goedwig a cheisio atal y sombis rhag eich dal wrth gymryd rhan yn y Ras Sombis rhwng 5pm a 7pm. Bydd byrbrydau Calan Gaeaf yn wobr i’r rhai sy’n goroesi.
Bydd y brif wrach yn rhoi gwobrau am y wisg orau ar ddiwedd pob digwyddiad.
Gall teuluoedd fwynhau taith gerdded gyda’r nos i weld ystlumod am 7pm. Bydd un o’n parcmyn yn dangos trysorau cudd Pen-bre, ond bydd angen i chi fod yn ddistaw neu ni fyddwch yn gweld dim.
Mae prisiau’r digwyddiadau yn dechrau o ÂŁ1 ac mae rhaid archebu lle ymlaen llaw. Bydd y taliadau parcio arferol yn berthnasol. Cysylltwch â’r ganolfan ymwelwyr drwy ffonio 01554 742424 dewis 1 neu drwy anfon e-bost at ortevents@sirgar.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle