Survey calls for more LGBT support groups/Arolwg yn galw am fwy o grwpiau cymorth LGBT

0
976

Survey calls for more LGBT support groups

Carmarthenshire’s Lesbian, Gay, Bisexual and Transgender (LGBT) community would like to see more support groups as well as gender neutral toilets, a recent survey has revealed.
It comes after Supportive Councils – including 10 authorities across Wales – asked the LGBT community at this year’s Pride Cymru event for feedback to help improve council services now and in the future.
The survey also showed that lack of understanding of LGBT needs was amongst the barriers faced by people accessing public services.
Those who responded to the survey called for more support in the form of community groups, events to help raise public awareness, and more education in schools. 
Many cited that fear of criticism or judgement was another issue they face.
The full survey results will now be discussed with community groups, through Equality Carmarthenshire, a Forum which brings together a range of groups who represent the protected characteristics. Feedback will also be given to services within the council.
Cllr Linda Evans, executive board member for equalities for Carmarthenshire County Council, said: “We are always looking at ways to improve our services. This survey together with speaking to people face to face at the Pride Cymru event, has given us an insight into some of the challenges faced by the LGBT community and how as a council we can help.
“We would like to thank everyone who gave us feedback as part of our surveys, and once again look forward to next year’s Pride Cymru event.”
Supportive Councils have committed to promote equalities in public services and remove the barriers faced by LGBT people.

Arolwg yn galw am fwy o grwpiau cymorth LGBT

Byddai cymuned Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) Sir Gaerfyrddin yn hoffi gweld mwy o grwpiau cymorth, yn ogystal â thoiledau niwtral o ran y rhywiau, yn ôl arolwg diweddar.
Daw hyn ar ôl i’r Cynghorau Cefnogol – gan gynnwys 10 o awdurdodau Cymru – ofyn i’r gymuned LGBT yn nigwyddiad Pride Cymru eleni am adborth i helpu i wella gwasanaethau’r cynghorau nawr ac yn y dyfodol.
Hefyd, dangosodd yr arolwg fod diffyg dealltwriaeth o anghenion pobl LGBT ymhlith y rhwystrau sy’n wynebu pobl wrth gael gwasanaethau cyhoeddus.
Roedd y rheiny a ymatebodd i’r arolwg yn galw am fwy o gymorth ar ffurf grwpiau cymunedol, digwyddiadau i helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a mwy o addysg mewn ysgolion. 
Nododd nifer ohonynt fod ofn cael eu beirniadu neu’u barnu yn fater arall sy’n eu hwynebu.
Bellach, bydd canlyniadau llawn yr arolwg yn cael eu trafod gyda grwpiau cymunedol, drwy Cydraddoldeb Sir Gaerfyrddin, sef fforwm sy’n dod ag amrywiaeth o grwpiau sy’n cynrychioli’r nodweddion gwarchodedig at ei gilydd. Hefyd, rhoddir adborth i wasanaethau yn y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, yr aelod o fwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros gydraddoldeb: “Rydym bob amser yn ystyried ffyrdd o wella ein gwasanaethau. Mae’r arolwg hwn, yn ogystal â siarad gyda phobl wyneb yn wyneb yn nigwyddiad Pride Cymru, wedi rhoi cipolwg inni ar rai o’r heriau sy’n wynebu’r gymuned LGBT a sut y gallwn helpu fel cyngor.
“Hoffem ddiolch i bawb a roddodd adborth inni fel rhan o’r arolwg, ac edrychwn ymlaen at ddigwyddiad Pride Cymru y flwyddyn nesaf.”
Mae’r Cynghorau Cefnogol wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb yn y gwasanaethau cyhoeddus a dileu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl LGBT.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle