“Vaccination is the best way to protect against influenza” Message from experts as national flu vaccination campaign launches in Wales / “Brechu yw’r ffordd orau o warchod rhag y ffliw” Neges gan arbenigwyr wrth i ymgyrch genedlaethol brechiad y ffliw lansio yng Nghymru

0
816

Mae’r ymgyrch genedlaethol i annog pobl mewn grwpiau cymwys ledled Cymru i gael brechiad i’w gwarchod rhag y ffliw yn cael ei lansio heddiw (Dydd Llun, 2 Hydref).

Mae’r ymgyrch Curwch Ffliw, o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn annog y rhai sydd ei angen fwyaf i gael eu gwarchod bob blwyddyn rhag y ffliw, sy’n afiechyd sy’n gallu bod yn beryglus.

Yn y grwpiau cymwys mae merched beichiog, pobl â chyflyrau iechyd tymor hir cronig, a phawb 65 oed a hyn.

Mae plant rhwng dwy ac wyth oed yn gymwys hefyd wrth i’r rhaglen frechu ar gyfer plant gael ei hymestyn eto eleni. Pigiad bach yw’r brechiad ar gyfer oedolion, ond i blant chwistrell trwyn syml yw’r brechiad. Gall plant rhwng dwy a thair oed dderbyn y brechiad drwy chwistrell trwyn yn eu meddygfa a bydd y rhai yn y dosbarth derbyn ac ym mlynyddoedd ysgol 1, 2, 3 a 4 yn gallu ei gael yn yr ysgol. Mae’r Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar gyfer (nodwch y bwrdd iechyd), yn annog pawb cymwys i gael brechiad y ffliw.

Pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans AC, a fydd yn lansio’r ymgyrch heddiw, ei bod yn hanfodol bod y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf yn manteisio ar y brechiad am ddim: “Mae ffliw yn gallu bod yn salwch sy’n peryglu bywyd i rai pobl sy’n wynebu risg oherwydd eu hoedran, problem iechyd sylfaenol, neu am eu bod yn feichiog. Yn anffodus, mae ffliw yn lladd pobl yng Nghymru bob blwyddyn.

“Mae ffliw yn lledaenu’n rhwydd iawn. Bydd ymestyn y rhaglen i gynnwys mwy o blant eleni’n helpu i’w gwarchod rhag dal y ffliw, a bydd hefyd yn eu hatal rhag ei ledaenu i eraill yn y gymuned sy’n agored iawn i niwed efallai. Y llynedd, roedd y
brechiad i blant yn effeithiol iawn ac mae’n braf gwybod bod cymaint o bobl ifanc wedi cael eu gwarchod.

“Mae pobl yn gallu bod yn ddifrifol wael gyda’r ffliw a brechiad y ffliw yw’r ffordd orau o warchod rhagddo, felly gwnewch yn siwr eich bod yn cael eich gwarchod yn fuan, er eich lles chi a phobl eraill.”

Mae feirysau’r ffliw sydd yn yr aer ac yn achosi salwch bob gaeaf yn newid ac felly mae brechiad y ffliw yn cael ei newid bob blwyddyn, i geisio cyfateb y straen yn yr aer, er mwyn rhoi’r warchodaeth orau. Er bod y rhan fwyaf o frechiadau ffliw y GIG yn cael eu rhoi mewn meddygfeydd, mae brechiadau i oedolion ar gael mewn llawer o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru.

Hefyd mae gan ofalwyr, gwirfoddolwyr sy’n darparu cymorth cyntaf mewn argyfwng ac Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol hawl i gael y brechiad. Mae hefyd yn cael ei argymell i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, i’w gwarchod hwy a’r rhai yn eu gofal. Gallant siarad â’u hadran iechyd galwedigaethol neu eu cyflogwr am ble a phryd allant gael eu brechiad.

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Bob blwyddyn mae feirysau’r ffliw yn yr aer, gan wneud llawer o bobl yn sâl a bydd rhai’n wynebu sefyllfaoedd sy’n peryglu eu bywydau. Y llynedd cadarnhawyd bod gan 74 o gleifion yn unedau gofal dwys Cymru y ffliw.

“Mae feirws y ffliw’n gallu newid yn rheolaidd ac mae gwarchodaeth y brechiad yn gwanio gydag amser, felly os ydych chi mewn grwp risg ac wedi cael y brechiad y llynedd, mae dal yn bwysig cael eich brechu eleni, fel eich bod wedi’ch gwarchod dros y gaeaf yma.

“Cael eich brechu rhag y ffliw bob blwyddyn yw’r ffordd unigol orau o warchod rhag dal neu ledaenu salwch sy’n gallu bod yn niweidiol iawn. Mae ffliw yn gallu bod yn ddifrifol iawn, hyd yn oed gyda thriniaeth – ond cael eich brechu sy’n cynnig y warchodaeth orau, felly gwnewch yn siwr ei fod ar dop eich rhestr o bethau i’w gwneud yr hydref yma.”

Salwch anadlol yw ffliw sy’n cael ei achosi gan feirws sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r llwybrau anadlu. Mae’r symptomau’n ymddangos yn sydyn yn gyffredinol ac maen nhw’n gallu cynnwys tymheredd uchel, oerfel, cur pen, peswch, y corff yn brifo a blinder.

Mae feirws y ffliw yn cael ei ledaenu mewn dafnau sy’n cael eu chwistrellu i’r aer pan fydd person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian. Hefyd gall cyswllt â dwylo neu arwynebau sydd wedi’u llygru ledaenu haint. Gall ledu’n gyflym, yn enwedig mewn cymunedau caeedig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion.

Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy fynd i www.curwchffliw.org neu www.beatflu.org neu drwy chwilio am ‘Curwch Ffliw’ neu ‘Beat Flu’ ar Twitter a Facebook

“Vaccination is the best way to protect against influenza” Message from experts as national flu vaccination campaign launches in Wales

The annual campaign to encourage people in eligible groups across Wales to have a vaccination to protect themselves from influenza (flu) is being launched today (Monday, 2 October ).

The Beat Flu campaign, led by Public Health Wales, encourages those who need it most to get protection each year against influenza, a potentially dangerous disease.

Included in the eligible groups are pregnant women, people with certain chronic long term health conditions, and everyone aged 65 and over.

Children aged between two to eight years are also eligible as the vaccine programme for children is being extended again this year. The vaccine for adults is a small injection, but for children it is a simple nasal spray. Children aged between two and three years can receive the nasal vaccine at their GP surgery while those in reception class and school years 1, 2, 3 and 4 can get it at school.

Public Health Minister, Rebecca Evans AM, who will be launching the campaign today, reiterated it is vital that those most at risk take advantage of the free vaccine: “Influenza can be a life-threatening illness for people who are at risk due to their age, an underlying health problem, or because they are pregnant. Sadly, influenza kills people in Wales every year.

“Influenza spreads very easily. Extending the programme to more children this year will help protect them from catching flu, and will also prevent them spreading it to others in the community who may be very vulnerable. Last year’s children’s vaccine was very effective and it’s good to know that so many young people were protected.

“People can be seriously ill with influenza, and a flu vaccination is the best way to protect against it, so make sure you get protected soon, for your own and other people’s sake.”

The influenza viruses that circulate and cause illness each winter change and therefore each year the flu vaccine is changed to try and match the circulating
strains, in order to give best protection.

While most NHS flu vaccines are given in GP surgeries, vaccination is also available for adults in many community pharmacies across Wales. Carers, volunteers providing planned emergency first aid and Community First Responders are also entitled to the vaccine. It’s also recommended that frontline health and social care workers have the vaccine to protect themselves and those they care for. They can talk to their occupational health department or employer about where and when they can get their vaccine.

Influenza is a respiratory illness caused by a virus that affects the lungs and airways. Symptoms generally come on suddenly, and can include fever, chills, headache, cough, body aches and fatigue.

The influenza virus is spread via droplets which are sprayed into the air when an infected person coughs or sneezes. Direct contact with contaminated hands or surfaces can also spread infection. It can spread rapidly, especially in closed communities such as hospitals, residential homes and schools.

Find out more by visiting www.beatflu.org or www.curwchffliw.org or finding Beat Flu or Curwch Ffliw on Twitter and Facebook.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle