New Gorslas school plans to be unveiled | Datgelu cynlluniau ar gyfer Ysgol newydd Gors-las

0
812

New Gorslas school plans to be unveiled

 

PLANS for a new school in Gorslas will be unveiled at a drop-in consultation event in the village.

Carmarthenshire County Council wants to build a new school to replace the current building, creating more spaces for primary aged children, and including space for an external nursery.

Proposals include a multi-use games area, sports field and a school hall that can be shared with the local community.

A new building would help meet the demand for Welsh medium education places within the area and would cater for the rising number of pupils wanting to attend the school.

It is planned as part of a £250million Modernising Education Programme (MEP), funded by the council with support from the Welsh Government’s 21st Century Schools initiative.

A drop-in consultation session will be held at St Lleian’s Church Hall, Church Road, on Wednesday October 18, from 3-7pm.

People will be able to view the plans, take part in discussions with officers, ask questions and provide comments on the proposed development.

Cllr Glynog Davies, executive board member for education, said: “The community of Gorslas needs a new school and we’re pleased to be able to present plans to show people how we’d like to invest in new, modern, facilities for local children.

“We want to be able to provide an environment that supports the highest quality of teaching and learning, and at Gorslas we are also keen to address the current and projected demand for Welsh medium education.”

 Datgelu cynlluniau ar gyfer Ysgol newydd Gors-las

 

BYDD cynlluniau ar gyfer ysgol newydd yng Ngors-las yn cael eu datgelu mewn digwyddiad ymgynghori galw heibio yn y pentref.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin eisiau adeiladu ysgol newydd yn lle’r adeilad presennol er mwyn creu mwy o lefydd ar gyfer plant oed cynradd gan gynnwys lle ar gyfer meithrinfa allanol.

Mae’r cynigion yn cynnwys llecyn chwarae aml-ddefnydd, cae chwaraeon a neuadd ysgol y gellir ei rhannu â’r gymuned leol.

Byddai adeilad newydd yn helpu i fodloni’r galw am lefydd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal ac yn darparu ar gyfer y nifer cynyddol o ddisgyblion sydd eisiau mynychu’r ysgol.

Mae’r cynlluniau hyn yn rhan o Raglen Moderneiddio Addysg gwerth £250 miliwn, sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor gyda chymorth menter Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Cynhelir sesiwn ymgynghori galw heibio yn Neuadd yr Eglwys – Sant Lleian, Heol yr Eglwys ddydd Mercher, 18 Hydref rhwng 3 a 7pm.

Bydd pobl yn gallu cael golwg ar y cynlluniau, cymryd rhan mewn trafodaethau gyda swyddogion, gofyn cwestiynau a rhoi sylwadau ynghylch y datblygiad arfaethedig.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Mae angen ysgol newydd ar gymuned Gors-las ac rydym yn falch o allu cyflwyno cynlluniau er mwyn dangos i bobl sut y byddem ni’n hoffi buddsoddi mewn cyfleusterau newydd, modern i blant lleol.

“Rydym ni eisiau gallu darparu amgylchedd sy’n cefnogi dysgu ac addysgu o’r safon uchaf ac yng Ngors-las rydym hefyd yn awyddus i fynd i’r afael â’r galw cyfredol a rhagamcanol am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle