Croeso cynnes i las-fyfyrwyr yn y Sbri Siopa | Freshers welcomed at Student Take Over Event

0
814

Croeso cynnes i las-fyfyrwyr yn y Sbri Siopa

 

COFRESTRODD cannoedd o fyfyrwyr ar gyfer digwyddiad Sbri Siopa i Fyfyrwyr yng Nghaerfyrddin, sef digwyddiad siopa unigryw sy’n cynnig gostyngiadau enfawr i fyfyrwyr mewn siopau.

Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer y drydydd digwyddiad wedi cychwyn eisoes ac mae’r dyddiad wedi’i bennu ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd Sbri Siopa i Fyfyrwyr 2018 yn digwydd ar 27 Medi 2018.

Bydd tĂŽm datblygu economaidd y Cyngor Sir yn cydweithio unwaith eto â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Yr Atom, Cyngor Tref Caerfyrddin ac Undeb y Myfyrwyr er mwyn dod â’r Sbri Siopa i Fyfyrwyr yn Ă´l i Gaerfyrddin.

Cymerodd dros 40 o fusnesau ar draws canol tref Caerfyrddin ran yn y digwyddiad eleni gan gynnwys siopau cadwyn cenedlaethol, siopau lleol, bwytai a chaffis.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus dros ben ac ein rĂ´l oedd helpu i roi hwb i’r diwydiant siopa yn lleol a chyflwyno cwsmeriaid newydd i’r masnachwyr yma yng Nghaerfyrddin. Mae’r adborth gan y busnesau a gymerodd ran wedi bod yn gadarnhaol iawn. Ein gobaith yw y bydd cyhoeddi’r dyddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gynnar yn annog mwy fyth o fusnesau i gymryd rhan, gyda’r nod o wneud digwyddiad blwyddyn nesaf yn fwy a hyd yn oed yn well.”

Dywedodd Rob Simkins, Llywydd GrĹľp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Roedd y Sbri Siopa i Fyfyrwyr yn bendant yn un o uchafbwyntiau’r rhaglen FRESHtival ar gyfer ein myfyrwyr ar draws pob un o’n safleoedd ac roedd myfyrwyr yn bresennol o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe, yn ogystal â myfyrwyr 6ed dosbarth lleol a cholegau Addysg Bellach.

“Roedd cynnal y digwyddiad mor gynnar yn y calendr yn fuddiol iawn i’n myfyrwyr ac yn eu cyflwyno i’r ardal leol, a hynny am y tro cyntaf i nifer ohonynt. Roedd hi’n galonogol iawn gweld cymaint o fyfyrwyr yn bresennol yn y digwyddiad, ac yn gwneud y gorau o’r adloniant stryd a’r gostyngiadau a oedd ar gael! Rydym eisoes wedi cychwyn ar y gwaith cynllunio ar gyfer yr un nesaf ac rydym yn edrych ymlaen ato yn fawr!”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Wyn Maskell, WMaskell@sirgar.gov.uk

 

 

Freshers welcomed at Student Take Over event

 

HUNDREDS of students signed up to Carmarthen’s Student Take Over Event – a unique shopping event offering students huge retail discounts.

Event planning for the third event has already began and a date for next year’s event has been secured. The 2018 Student Take Over will take place on 27 September 2018.

The county council’s economic development team will again team up with the University of Wales Trinity St David (UWTSD), Yr Atom, Carmarthen Town Council and the Students’ Union to bring the Student Take Over event back to Carmarthen.

This year’s event saw over 40 businesses across Carmarthen town centre take part, from national chains to local shops, restaurants and cafes.

Council Leader Cllr Emlyn Dole said: “The event was a fantastic success, our part was to help boost local shopping trade and introduce new customers to the retailers here in Carmarthen. The feedback from businesses which took part has been very positive. We hope that announcing the date early for next year will encourage even more businesses to take part, we aim to make next year’s event bigger and better.”

UWTSD Group President Rob Simkins said: “The Student Takeover was definitely one of the highlights of the FRESHtival programme for our students across all of our locations and was attended by students from UWTSD Carmarthen, Lampeter & Swansea as well as local FE Colleges and 6th Forms.

“Having the Takeover so early on in the calendar for our students was highly beneficial at introducing our students to the local area, for the first time for many of them.  It was really encouraging to see so many students attending the event, making the most of the street entertainment and discounts on offer! We’ve already started planning the next one, so here’s looking forward to that one too!”

For further information contact Wyn Maskell, WMaskell@carmarthenshire.gov.uk

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle