Be safe, be seen/Hawdd eich Gweld – Haws eich Osgoi

0
2002

Be safe, be seen

Be safe and be seen this Halloween, is the message from Carmarthenshire County Council’s road safety team.
To coincide with the clocks going back on Sunday, October 29 the prevention team is launching its annual ‘Be Seen’ campaign
As the evenings become dark earlier and it becomes more difficult for drivers to see pedestrians, children are being encouraged to wear bright or fluorescent clothing by day and reflective by night.
Reflective materials reflect the light from car headlights and at night-time can be seen up to three times as far away as non-reflective materials. However, reflective materials are not as effective during daylight.
The council’s executive board member for environment, Cllr Hazel Evans, said: “It is really important therefore that we help our children by making sure they not only understand the risk from the dangers of traffic, but that they must be seen to be safe. Even in daylight, poor light or weather conditions can impair a driver’s view. Always wear something bright or fluorescent when walking during the day and reflective material in the night especially when out and about near roads. If you are planning to go out and about this Halloween, we want you to enjoy, but remember – just because you can see the driver, doesn’t mean the driver can see you! Be safe. Be seen!”
Advice for parents:

  • make sure your child can be easily seen, especially at night, on dark days and in bad weather;
  • explain to your child why they should always wear something bright;
  • bright or fluorescent clothes show up best by day, especially in dull or misty weather;
    in the dark, reflective material is best and shows up in car headlights. Remember, fluorescent clothing doesn’t work after dark;
  • it is an offence to cycle at night without a white front light, a red back light and a red reflector at the back, so make sure that your child’s bike is properly equipped and working.
Hawdd eich Gweld – Haws eich Osgoi
Gwisgwch yn llachar dros Galan Gaeaf, dyna’r neges gan dîm diogelwch ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin.
I gyd-fynd â throi’r clociau’n ôl ddydd Sul, 29 Hydref, mae’r tîm atal damweiniau yn lansio ei ymgyrch flynyddol, ‘gwisgwch yn llachar’
Wrth iddi dywyllu’n gynharach gyda’r nos ac mae’n dod yn fwy anodd i yrwyr weld cerddwyr, mae plant yn cael eu hannog i wisgo dillad llachar neu fflworoleuol yn ystod a dydd, a dillad adlewyrchol gyda’r nos.
Mae deunyddiau adlewyrchol yn adlewyrchu prif oleuadau’r ceir, a gyda’r nos gallent gael eu gweld o bellter hyd at deirgwaith yn fwy na deunyddiau anadlewyrchol.Fodd bynnag, nid yw deunyddiau adlewyrchol mor effeithiol yng ngolau dydd.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr aelod o’r bwrdd gweithredol dros yr amgylchedd: “Mae’n hynod bwysig felly ein bod yn helpu ein plant trwy sicrhau nid yn unig eu bod yn deall y risg am beryglon traffig, ond bod rhaid iddynt gael eu gweld er mwyn iddynt fod yn ddiogel. Hyd yn oed yng ngolau dydd, gall golau gwael neu amodau tywydd amharu ar olwg y gyrrwr. Sicrhewch eich bod yn gwisgo rhywbeth llachar neu fflworoleuol wrth gerdded yn ystod y dydd a deunyddiau adlewyrchol gyda’r nos, yn enwedig wrth gerdded wrth ymyl y ffordd. Os ydych yn bwriadu mynd allan ar gyfer Calan Gaeaf, rydym eisiau i chi fwynhau, ond cofiwch – os ydych chi’n gallu gweld y gyrrwr, nid yw hynny’n golygu bod y gyrrwr yn gallu’ch gweld chi! Hawdd eich gweld, haws eich osgoi!”
Cyngor i rieni:

 

  • gofalwch ei bod yn hawdd gweld eich plant, yn enwedig gyda’r nos, ar ddiwrnodau tywyll ac mewn tywydd garw;
  • eglurwch i’ch plentyn pam y dylai wisgo rhywbeth llachar bob amser;
  • dillad llachar neu fflworoleuol sydd i’w gweld yn fwyaf clir yn ystod y dydd, yn enwedig os yw’r tywydd yn llwydaidd neu’n niwlog;
  • gyda’r nos, deunyddiau adlewyrchol sydd orau ac sydd i’w gweld gan brif oleuadau ceir. Cofiwch nad yw dillad fflworoleuol yn gweithio wedi iddi nosi; SLA
  • mae’n drosedd beicio gyda’r nos heb olau blaen gwyn a golau cefn coch ac adlewyrchydd ôl coch. Felly gofalwch fod y cyfarpar cywir wedi’i osod ar feic eich plentyn a bod y cyfarpar hwnnw’n gweithio

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle