MAE FFERMWYR CYMRU’N CAEL EU HANNOG I SICRHAU BOD RHEOLI PRIDD YN GANOLOG I’W SYSTEMAU FFERMIO ER MWYN LLEIHAU DR FFO A LLYGREDD DROS Y GAEAF.

0
721
George, Trevor and Colin Phillips in field of rape.

Gall caeau r sy’n cael eu gadael yn llwm dros y gaeaf lygru
dyfrgyrsiau ond gall plannu cnydau gorchudd a sicrhau bod draeniau a
ffosydd yn gweithio’n effeithiol helpu ffermwyr i ddiogelu eu
priddoedd ac osgoi erlyniad posibl.

Yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio, diweddar ar fferm Church Farm
ger Rhaglan, cynghorwyd ffermwyr i fod yn rhagweithiol.

Dywed y cynghorydd ffermio manwl gywir, Ian Beecher-Jones bod sawl
cam y gallai ffermwyr eu cymryd i gadw’r pridd yn y caeau a rheoli
ychwanegiadau maetholion. “Y pridd yw’r peth pwysicaf ar y fferm,”
mynnodd.

Mae cnydau gorchudd a heuir ar l cynaeafu, cyn i gnydau gwanwyn gael
eu plannu, yn darparu gorchudd dros y gaeaf a hefyd yn gweithredu fel
‘pwmp dr’, gyda’r planhigyn yn amsugno lleithder o’r pridd ac i’r aer,
lle mae’n anweddu.

Mae cnydau gorchudd yn atal maetholion gwerthfawr rhag trwytholchi
o’r pridd. “Mae’n ddull ffermio modern sy’n ddiogel i’r amgylchedd,”
meddai Mr Beecher-Jones. “Pan fo’r tir yn llwm, mae’r gyfradd
ymdreiddiad dr yn is, felly bydd dr yn cronni ar yr wyneb.”

Mae cnydau gorchudd hefyd yn darparu tail gwyrdd i wella strwythur a
gwead y pridd.

Os bydd y cae wedi cael ei ffensio a bod modd i ddefaid bori’r cnwd,
naill ai ar sail dymhorol neu ar gyfer cynhyrchiant cartref, gellir
defnyddio’r incwm o’r ffynonellau hynny i dalu am gostau tyfu’r cnwd.

Bydd diffyg rheolaeth dr megis draeniau aneffeithiol hefyd yn arwain
at golli maetholion.

“Os mae’r draeniad yn anghywir, ni fydd y cnydau’n tyfu, a cheir
rhagor o ddr ffo,” meddai Mr Beecher-Jones.

Sefydlwyd nifer o’r draeniau yn ystod y 1970au gyda chymhorthdal
grant, ond bedair degawd yn ddiweddarach, mae ambell un wedi mynd yn
aneffeithiol gan olygu bod caeau’n mynd yn ddirlawn.

Mae Mr Beecher-Jones yn argymell defnyddio offer jetio i glirio
unrhyw rwystrau yn y draeniau. “Mae’n gostus, ond byddwch mewn gwell
sefyllfa os byddwch yn glanhau draeniau gan y bydd gennych well cae i
dyfu cnydau,” meddai wrth ffermwyr yn ystod y digwyddiad Cyswllt
Ffermio.

“Astudiwch hen gynlluniau draenio, cerddwch ar hyd ffosydd, crwch
ddraeniau twrch, ffosydd neu ddraeniau rhych dros dro os oes angen.
Mapiwch ardaloedd sydd wedi’u difrodi i’w hadfer yn ddiweddarach yn
ystod y tymor.”

Os bydd pridd wedi’i gywasgu, ni all amsugno dr. Eglurodd Mr
Beecher-Jones mai’r tro cyntaf i’r peiriant groesi wrth weithio ar gae
penodol sy’n achosi’r niwed ac yn lleihau’r gyfradd ymdreiddiad dr.

“Os allwn ni gadw traffig dros y pridd ar linellau penodol, bydd ein
priddoedd mewn gwell cyflwr, beth bynnag arall a wnawn” meddai.

Ar fferm Church Farm, mae’r teulu Phillips yn tyfu cnydau gaeaf yn
bennaf er mwyn osgoi caeau llwm dros gyfnod y gaeaf.

Maent hefyd yn hau rhygwellt ar gaeau sofl i’w pori gan ddefaid er
mwyn adeiladu ar y deunydd organig sydd ar gael yn y pridd.

Sganiwyd y caeau a’u rhoi mewn parthau yn l math o bridd, ac mae
parthau’n cael eu profi ar gyfer maetholion pob pedair blynedd; mae
potash a ffosffad yn cael eu hychwanegu ar gyfraddau amrywiol.

“Mae gennym fapiau o lefelau maetholion yn y pridd felly gwyddwn lle
bo angen ychwanegu. Mewn ambell i gae, gall yr amrywiaeth mewn
ychwanegu fod cymaint 40kg yr hectar,” meddai Colin Phillips, sy’n
ffermio gyda’i wraig Yvonne, ei dad, George, a’i nai, Trevor.

“Nid ydym yn defnyddio cymaint o botash a ffosffad mewn bagiau
bellach gan ein bod yn gwasgaru tail dofednod. Mae’r amrywiaeth mewn
dadansoddiadau rhwng llwythi’n gallu bod yn sylweddol, ac mae gennym
gelloedd pwyso ar y peiriant chwalu tail er mwyn sicrhau ei fod yn
cael ei wasgaru ar y raddfa gywir.”

Dywedodd Nichola Salter, Uwch Swyddog yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol
Cymru (CNC), bod y camau a gymerwyd gan y teulu Phillips yn enghraifft
o arfer dda.

Mae CNC wedi bod yn monitro’r Afon Troddi fel rhan o raglen ymchwil a
datblygu Cenedlaethol.

Mae’r Afon Troddi ar hyn o bryd yn methu bodloni ei safonau
Cyfarwyddeb Fframwaith Dr o ran ffosffad gyda’r canlyniadau cychwynnol
yn dangos lefelau annerbyniol o uchel o ffosffad yn y dr sy’n cyfateb
ac achosion o lawiad, gan gyfeirio at faetholion yn dianc o gaeau a
buarthau fferm.

Dywed Ms Salter gan fod patrymau glawiad wedi newid a bod caeau’n
cael eu gweithio’n galetach, mae angen i ffermwyr ail-werthuso’r modd
yr oeddent yn rheoli eu gwrteithiau organig, priddoedd a dr.

Dywedodd bod Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r
Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, wedi bod yn
allweddol er mwyn cyfathrebu cyngor i’r ffermwyr yn y modd cywir.

Dywedodd Dr Delana Davies, Swyddog Technegol r a Garddwriaeth gyda
Cyswllt Ffermio, bod rheoli’r defnydd a wneir o faetholion a rheoli
priddoedd yn rhagweithiol yn gallu lleihau’r perygl o lygredd dr yn
sylweddol.

“Gall defnyddio gwasanaethau cynghori Cyswllt Ffermio ar gyfer cyngor
rheoli maetholion ac isadeiledd helpu pob math o fferm i sicrhau’r
arfer amgylcheddol orau gan gynnig manteision ariannol i’r busnes yn
ogystal,” meddai.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle