Catalysis pioneer honoured by China’s oldest university
A leading Welsh scientist whose work has helped cut the use of
mercury in China’s chemical industries has been made an honorary
professor of Tianjin University.
Professor Graham Hutchings [1] has been feted worldwide for his work
on the acceleration of chemical reactions using catalysts.
Research by the Director of Cardiff Catalysis Institute [2] has led
to a cleaner method for producing polyvinyl chloride (PVC) using gold
as a catalyst, rather than harmful mercury.
Thanks to a partnership with sustainable technologies giant Johnson
Matthey [3], his work has been commercialised in China – the world’s largest producer and consumer of PVC – helping to clean up rivers
poisoned by the heavy metal.
Tianjin is China’s top university for chemical engineering. Founded
in 1895 as Peiyang University, it boasts an illustrious history,
having developed China’s first aircraft engine and its first
unmanned aerial vehicle
“I am delighted and deeply humbled to be honoured by Tianjin
University,” said Professor Hutchings.
“The university is a true world-leader with a track record of
scientific ‘firsts’. Its chemical engineering faculty alone has
7,000 students and 2,000 staff. A brand new campus, and eight
buildings dedicated to chemical engineering, make it a powerhouse for
science in China.”
“Tianjin continues to win international accolades for its
contribution to a wide range of disciplines including pharmaceuticals,
robotics, and automotive engineering,” added Professor Hutchings,
who also holds a Regius Professorship [4] – one of the UK’s highest
science honours.
Cardiff Catalysis Institute is dedicated to improving the
understanding of catalysis, developing new catalytic processes with
industry and promoting the use of catalysis as a sustainable 21st
century technology. It is due to move to a new state-of-the-art home
on Cardiff Innovation Campus [5] in 2020.
Gwyddonydd o Gaerdydd yn cael anrhydedd gan brifysgol hynaf Tsieina
Mae gwyddonydd arloesol o Gaerdydd a helpodd i leihau faint o fercwri
a ddefnyddir yn niwydiannau cemegol Tsieina wedi cael ei enwi’n athro
anrhydeddus ym Mhrifysgol Tianjin.
Mae’r Athro Graham Hutchings [8] wedi cael clod yn fyd-eang am ei
waith ar gyflymu adweithiau cemegol gan ddefnyddio catalyddion.
Mae ymchwil gan Gyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd [9] wedi
arwain at ddull glanach ar gyfer cynhyrchu clorid polyfinyl (PVC) gan
ddefnyddio aur fel catalydd yn hytrach na mercwri, sy’n niweidiol.
O ganlyniad i bartneriaeth â’r cwmni mawr technolegau cynaliadwy
Johnson Matthey [10], mae ei waith wedi cael ei fasnacheiddio yn
Tsieina – cynhyrchydd a defnyddiwr mwyaf PVC yn y byd – gan helpu
i lanhau afonydd a wenwynwyd gan y metel trwm.
Tianjin yw prifysgol orau Tsieina ar gyfer peirianneg gemegol. Cafodd
ei sefydlu ym 1895 fel Prifysgol Peiyang, ac mae ganddi hanes
disglair. Yno, cafodd injan awyrennau cyntaf Tsieina ei datblygu,
ynghyd â’i cherbyd awyr di-griw cyntaf.
“Rydw i wrth fy modd ac yn hynod falch o gael fy anrhydeddu gan
Brifysgol Tianjin,” meddai’r Athro Hutchings.
“Mae’r brifysgol ar flaen y gad yn fyd-eang, gyda hanes o
ddyfeisiadau gwyddonol. Mae ei gyfadran peirianneg gemegol yn cynnwys
7,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff. Mae campws newydd sbon, ac wyth o
adeiladau at ddefnydd peirianneg gemegol yn unig, yn ei gwneud yn
ganolbwynt ar gyfer gwyddoniaeth yn Tsieina.
“Mae Tianjin yn parhau i ennill gwobrau rhyngwladol ar gyfer ei
chyfraniad at amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys
cynhyrchion fferyllol, roboteg, a pheirianneg fodurol,” ychwanegodd yr
Athro Hutchings, sydd hefyd yn Athro Regius [11] – un o anrhydeddau
gwyddoniaeth uchaf y DU.
Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi ymrwymo i wella dealltwriaeth o
gatalysis, yn datblygu prosesau catalytig newydd gyda diwydiant ac yn
hyrwyddo defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn yr 21ain
ganrif. Bydd yn symud i gartref newydd o’r radd flaenaf ar Gampws
Arloesedd Caerdydd [12] yn 2020.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle