Parents urged to get their children vaccinated/Annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael brechiad

0
752

Routine influenza vaccine programme now includes all eight year olds for the first time

Children aged two to eight can be protected against flu with a simple, free NHS nasal spray vaccine this winter.

The vaccine, which involves no needles, is available to children who were aged between two and eight on 31 August.

Hywel Dda University Health Board is urging parents of eligible children to ensure they have the vaccine, which helps protect against catching flu as well as helping to prevent the spread of this potentially serious and highly contagious illness.

Influenza can affect children severely and in recent years in Wales, children and adults have been admitted to hospital and intensive care units with flu. The age range for children to receive this vaccine has been extended this year to include children in primary school year four, so more children will be protected this winter than ever before.

For most children the recommended flu vaccination is a nasal spray, which is quick, safe, and completely pain free.

Jenny Israel, Head of Children’s Public Health Nursing, Hywel Dda University Health Board explains why it’s so important that eligible children receive the flu nasal spray vaccine.

She said, “We are encouraging children in the eligible groups to be vaccinated to prevent the spread of flu in schools and the wider community. Flu symptoms include fever, chills, headaches and aching muscles. In young children gastrointestinal symptoms such as vomiting and diarrhoea can also occur, and can lead to some children needing admission to hospital, which can be a frightening experience for the child and the parents.  For those most at risk – the very young, vulnerable adults, pregnant women and the elderly, flu can be very serious. It can lead to serious illnesses such as bronchitis, otitis media (particularly in children), pneumonia; and in some cases meningitis and encephalitis, and even death.

“Children are super-spreaders of flu. Vaccinating children minimises the spread of flu to their family, within nurseries and schools, and in the general population, and so protects the most vulnerable from flu and its complications.”

For two and three year old children, the vaccine will generally be given at their local GP surgery, and for children in reception class and school years one, two, three and four, it will be given at their school. Parents/guardians are required to give consent before any child receives the flu nasal spray vaccine.

For most healthy children, influenza can mean several miserable days at home in bed. However, parents should be aware that flu can sometimes result in serious complications, especially for very young children and those with long term health problems, such as moderate or severe asthma, for whom it can even be life threatening.

In addition to children, other groups strongly advised to get vaccinated are pregnant women, individuals from six months of age with long term health conditions, people aged 65 and over and carers. Health and social care workers are also advised to have the flu vaccination to protect themselves and the people they care for.

Immunity wanes over time and each year the flu viruses that circulate and cause health problems can change so vaccines are also changed to match them. Getting an annual flu vaccine is the best way to protect yourself and others from catching or spreading influenza.

For further information visit www.beatflu.org or follow Beat Flu on Facebook and Twitter.

Annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael brechiad

Mae’r rhaglen frechu rhag y ffliw yn cynnwys pob plentyn wyth oed yn awr am y tro cyntaf

Gall plant rhwng dwy ac wyth oed gael eu gwarchod rhag y ffliw gyda brechiad chwistrell trwyn syml y ffliw am ddim y gaeaf yma.

Mae’r brechiad, heb unrhyw nodwydd, ar gael i blant a oedd rhwng dwy ac wyth oed ar 31 Awst.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog rhieni plant cymwys i sicrhau eu bod yn cael y brechiad, sy’n helpu i’w gwarchod rhag dal y ffliw yn ogystal â helpu i atal lledaeniad y salwch yma sy’n gallu bod yn ddifrifol ac sy’n heintus iawn.

Mae ffliw yn gallu effeithio ar blant yn ddifrifol ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, mae plant ac oedolion wedi cael eu derbyn i ysbyty ac unedau gofal dwys gyda’r ffliw. Mae’r ystod oedran i blant dderbyn y brechiad wedi cael ei hymestyn eleni i gynnwys plant ym mlwyddyn pedwar mewn ysgolion cynradd, fel bod mwy o blant nag erioed o’r blaen yn cael eu gwarchod dros y gaeaf yma.

I’r rhan fwyaf o blant, y brechiad ffliw sy’n cael ei argymell yw brechiad drwy chwistrell yn y trwyn, sy’n gyflym, yn ddiogel ac yn gwbl ddi-boen.

Mae Jenny Israel, Pennaeth Nyrsio Iechyd Cyhoeddus– Plant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn egluro pam y mae mor bwysig i blant cymwys gael y brechlyn sydd ar ffurf chwistrell trwy’r trwyn.

Meddai, “Rydym yn annog plant mewn grwpiau cymwys i gael eu brechu er mwyn atal y ffliw rhag ymledu mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach. Mae symptomau’r ffliw yn cynnwys gwres, teimlo’n oer, cur pen a chyhyrau poenus. Gall plant ifanc hefyd ddioddef symptomau gastroberfeddol megis chwydu a dolur rhydd, a gall olygu bod angen i rai plant gael eu derbyn i’r ysbyty, sy’n gallu bod yn frawychus i’r plant a’r rhieni. Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn i’r sawl sy’n wynebu’r risg fwyaf, sef plant ifanc iawn, oedolion agored i niwed, menywod beichiog a phobl hŷn. Gall arwain at salwch difrifol megis broncitis, llid y glust ganol (yn enwedig ymhlith plant) a niwmonia, ac at lid yr ymennydd ac enseffalitis mewn rhai achosion, a gall ladd hyd yn oed.

“Mae plant yn dda iawn am ledu’r ffliw. Mae brechu plant yn lleihau’r graddau y mae’r ffliw yn ymledu yn eu teuluoedd, mewn meithrinfeydd ac ysgolion ac ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol, ac mae felly’n amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed rhag y ffliw a’i gymhlethdodau.”

I blant dwy a thair oed, bydd brechiad y ffliw yn cael ei roi yn eu meddygfa leol fel rheol, ac i blant y dosbarth derbyn ac ym mlynyddoedd un, dau, tri a phedwar yn yr ysgol, bydd yn cael ei roi yn eu hysgol. Rhaid cael caniatâd rhieni / gwarcheidwaid cyn i unrhyw blentyn dderbyn brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn.

Mae gan y cyflwynydd teledu Mari Grug ddau o blant ifanc ac mae’n gefnogol iawn i’r brechiad. Dywedodd: “Rydw i’n credu ei bod yn bwysig iawn bod fy mhlant yn cael eu brechu rhag y ffliw oherwydd mae nid yn unig yn eu gwarchod nhw, ond hefyd y bobl eraill o’u cwmpas nhw, yn yr ysgol a gartref.

“Pan oeddwn i’n feichiog fe wnes i’n siŵr ’mod i’n cael y brechiad i roi’r cychwyn gorau i fy mhlant mewn bywyd ac rydw i’n croesawu’r cyfle iddyn nhw gael y brechiad eu hunain yn ystod eu blynyddoedd cynnar.”

I’r rhan fwyaf o blant iach, mae’r ffliw yn gallu golygu sawl diwrnod diflas gartref yn y gwely. Fodd bynnag, dylai rhieni ddeall bod y ffliw hefyd, weithiau, yn gallu arwain at gymhlethdodau difrifol iawn, yn enwedig i blant ifanc ac i’r rhai â phroblemau iechyd tymor hir, fel asthma cymedrol neu ddifrifol. Mae’n gallu peryglu eu bywyd hyd yn oed.

Yn ychwanegol at blant, y grwpiau eraill yr argymhellir yn gryf eu bod yn cael eu brechu yw merched beichiog, unigolion o chwe mis oed sydd â chyflyrau iechyd tymor hir, pobl 65 oed a hŷn a gofalwyr. Hefyd cynghorir gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gael brechiad y ffliw i’w gwarchod eu hunain a’r bobl yn eu gofal.

Mae’r imiwnedd yn gwanio gydag amser a bob blwyddyn mae feirysau’r ffliw sydd yn yr aer ac yn achosi problemau iechyd yn newid felly mae brechiadau’n cael eu newid hefyd i gyfateb iddynt. Cael brechiad blynyddol y ffliw yw’r ffordd orau i warchod eich hun ac eraill rhag dal neu ledaenu’r ffliw.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.curwchffliw.org neu dilynwch Curwch Ffliw ar Facebook a Twitter.

*diffinnir fel 2 i 8 oed yn gynwysedig ar 31 Awst 2017


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle