‘Amser i Blaid Cymru wneud Cymru’r genedl y gall hi fod’ – Simon Thomas/‘Time for Plaid Cymru to make Wales the nation it can be’ – Simon Thomas

0
799

‘Amser i Blaid Cymru wneud Cymru’r genedl y gall hi fod’ – Simon Thomas

Rhoddodd Simon Thomas, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, brif araith yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru yng Nghaernarfon.

Amlinellodd weledigaeth gadarnhaol o Gymru fwy cynaliadwy, gan greu swyddi gwyrdd ac ynni glân i ailadeiladu economi Cymru yn wyneb Brexit.

Meddai Simon Thomas, AC Plaid Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Y flwyddyn nesaf, rydym yn cael y pwerau yn y Cynulliad i wahardd ffracio. Yr wythnos nesaf, byddaf yn arwain dadl ddeddfwriaethol yn y Cynulliad i wneud hynny. Ffracio yw’r hen ffordd o wneud pethau. Mae’n bryd rhoi’r gorau i atebion y gorffennol.

“Pa bwynt dinistrio amgylchedd gwlyptiroedd gwerthfawr lefelau Gwent ar gyfer traffordd dair lôn pan fo’r lobi adeiladu ffyrdd eisoes yn mynnu rhagor o lonydd cyn i adeiladu ddechrau hyd yn oed.

“Taflwch gynlluniau’r M4 newydd ar y domen a rhowch yr arian i system metro go iawn ar gyfer de Cymru.
Adeiladu rheilffordd newydd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Defnyddio technoleg celloedd hydrogen, a ddatblygwyd yma yng Nghymru, i bweru ein bysiau, a’n trenau.

“Gwneud Cymru y genedl y gall fod. Y lle mwyaf cynaliadwy’n amgylcheddol, a chyffrous i fyw. Galluogi ein pobl ifainc i ddewis aros yma drwy rannu’r dyfodol gyda nhw, heb rygnu’n ôl i’r gorffennol.

“Mae gennym y deunyddiau crai ar gyfer dyfodol gwirioneddol gynaliadwy. Gwynt, haul a llanw.
Lle’r oedd fy nghyndeidiau’n cloddio am lo ym mhwll glo Tower, mae yna bellach un o’r ffermydd gwynt mwyaf yn Ewrop: Pen y Cymoedd – gan greu swyddi gwyrdd ac ynni glân.

Yr hyn sy’n ein dal yn ôl yw agweddau diysgog, grwpiau diddordeb a gwleidyddion Llafur a Thoriaid sy’n ofni rhyddhau potensial Cymru. Pam? Wel oherwydd bod cyflawni ein potensial yn golygu dim mwy o San Steffan, dim mwy yn y DG, mae’n golygu Cymru annibynnol sy’n dangos ei wyneb gwyrdd newydd i’r byd. Arwain y ffordd heb orfod cardota brwsion o fwrdd Llundain. ”

Yn ystod ei araith i’r gynhadledd rhoddodd Simon Thomas ei gefnogaeth i brosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe. Dywedodd AC y Canolbarth a’r Gorllewin:

“Byddai Cymru sydd â rheolaeth o’i hadnoddau ei hun wedi hen symud ymlaen gyda chynlluniau’r morlyn llanw ym Mae Abertawe. Am gynnig cyffrous, trawsffurfiol, sy’n codi cenedl.

“O fewn cenhedlaeth gallai ein trydan ddod yn hawdd o wynt, solar a haul. Nid oes angen unrhyw danwydd ffosil na diwydiant niwclear wedi’i lygru gan arfau niwclear.
Mae yna gwmnïau’n barod i gyflogi cannoedd yng Nghymru i helpu i adeiladu a manteisio ar y dechnoleg hon. Dyma’r dyfodol.

“Mae’n ymddangos bod y Torïaid eisiau lladd y morlyn llanw. Dim gweithredu, dim penderfyniad, er gwaethaf adroddiad annibynnol yn dweud yn glir i fwrw ymlaen. Esgus ar ôl esgus.
Os byddant yn methu’r prosiect hwn, brad mwyaf ein hadnoddau naturiol fydd hynny ers boddi Tryweryn. ”

Ar seilwaith ychwanegodd:

“Gallwch chi yrru mewn car trydan o Gaerdydd i Orkney, ond nid o Gaerdydd i Fangor. Mae bwlch enfawr yng nghanolbarth Cymru heb seilwaith gwefru cerbydau trydan. Mae rhai o’r pwyntiau gwefru sydd gyda ni yn debyg i lenwi car petrol gyda gwniadur.
Felly, rwy’n falch iawn bod Plaid Cymru wedi sicrhau £ 2M am bwyntiau gwefru ceir trydan yn y gyllideb hon. Rwyf am weld y canolbarth a Chymru wledig yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer y datblygiad hwn. Fel arall, bydd llywodraeth y DG a’r farchnad yn ein gadael ar ôl unwaith eto, yn union fel y maent wedi gyda diffyg cyflwyno a darparu band eang.
Dywedodd Simon Thomas:
“Gall hyn fod yn ddechrau newydd i Blaid Cymru. Cryfder pwrpas newydd. Rydym yn grŵp Cynulliad unedig yn gweithio nawr ar sail y llwyddiannau a enillwyd hyd yn hyn.
Ond er bod rhaid i chi adeiladu ar y sylfeini, mae angen inni gydnabod nad oes angen Llafur arnom mwyach. Mae’n blaid sydd â gorffennol anrhydeddus wrth wasanaethu pobl sy’n gweithio yng Nghymru. Ond dim pellach. Mae ei pherfformiad diffygiol yn y llywodraeth yn glir i bawb. Problem fwy sylfaenol yw ei diffyg uchelgais ar gyfer ein cenedl.
Ie, y Torïaid sydd wedi tynnu’r plwg ar drydaneiddio rheilffyrdd i Abertawe, ond roedd Llafur yn gwrthwynebu datganoli Network Rail.
Dylai plaid sy’n pregethu diddymu ffioedd dysgu ond eisiau eu codi ar gyfer myfyrwyr Cymru ddychwelyd i’r dosbarth.
Dylai parti sy’n credu bod uwch garchar yn ddatblygiad economaidd ar gyfer cymuned ddifreintiedig wneud amser ei hun: mewn gwrthblaid ”

Daeth Mr Thomas i’r casgliad:

“Ein dyfodol yw creu dyfodol Cymru, gyda gweledigaeth go iawn o genedl werdd, glân, gynaliadwy. Lle’r ydym yn rheoli ein dŵr ac ynni. Lle’r ydym yn adeiladu ein cenedl sefydliad wrth sefydliad. Lle mae ein pobl ifanc yn cael eu gwobrwyo am astudio ac aros a gweithio yn ein gwlad. Lle’r ydym yn adeiladu tai ar gyfer y genhedlaeth nesaf sy’n rhad i’w gwresogi ac sy’n pweru eu hunain.

“Mae’n genedl annibynnol sy’n arwain y byd ar yr hyn a wnawn orau: siarad am gynaliadwyedd ag acen Gymraeg gyryf.”

‘Time for Plaid Cymru to make Wales the nation it can be’ – Simon Thomas

Shadow Cabinet Secretary for Energy, Climate Change and Rural Affairs Simon Thomas gave a keynote speech at Plaid Cymru annual conference in Caernarfon.

He outlined a positive vision of a more sustainable Wales, creating green jobs and clean energy to rebuild the Welsh economy in the face of Brexit.

Party of Wales Mid and West AM Simon Thomas said:

“Next year we get the powers in the Assembly to ban fracking. Next week, I will be leading a legislative debate in the Assembly to do just that. Fracking is the old way of doing things. It’s time to throw out the solutions of the past.

“What point is there is destroying the precious wetland environment of the Gwent levels for a three lane motorway when the roadbuilding lobby are already demanding more lanes before it’s even built.

“Scrap the new M4 and put the money into a real metro system for south Wales. Build a new railway between Aberystwyth and Carmarthen. Use hydrogen cell technology, developed here in Wales, to power our buses, coaches and trains.

“Make Wales the nation it can be. The most environmentally sustainable, exciting place to live. Give our young people the opportunity to stay here by sharing the future with them, not harking back to the past.

“We have the raw materials for a genuinely sustainable future. Wind, solar and tides. Where my forefathers dug for coal in the Tower colliery, there is a now one of the biggest windfarms in Europe: Pen y Cymoedd – creating green jobs and clean energy.

“What is holding us back is entrenched attitudes, interest groups and Labour and Tory politicians who are scared stiff of unleashing Wales’s potential. Why? Well because our potential fulfilled means no more London, no more UK, it means an independent Wales showing its new green face to the world. Leading the way not begging for crumbs from London’s table.”

During the conference speech Simon Thomas gave his backing to the Swansea Bay Tidal Lagoon project. The Mid and West AM commented:

“A Wales in control of its own resources would have long ago given the go ahead to the tidal lagoon in Swansea Bay. What an exciting, transformational, nation-building proposal.

“Within a generation our electricity could easily come from wind, solar and sun. No need for any fossil fuels or a nuclear industry corrupted by nuclear weapons.
There are companies standing ready to employ hundreds in Wales to help build and exploit this technology. It is the future.

“It seems the Tories want to kill off the tidal lagoon. No action, no decision, despite an independent report saying clearly to go ahead. Excuse after excuse.
If they fail this project it will be the biggest betrayal of our natural resources since Tryweryn.”

On infrastructure he added:

“You can drive by electric car from Cardiff to Orkney, but not from Cardiff to Bangor. There is a huge gap in mid Wales for charging infrastructure. Some of the charging points we have would be comparable to filling a petrol car with a thimble.

So I am delighted Plaid Cymru secured £2M for electric car charging in this budget. I want to see mid and rural Wales prioritised for this development. Otherwise once again the UK government and the market will abandon us, as we have experienced with broadband rollout and provision.

Simon Thomas said:
“This can be a new start for Plaid Cymru. A new firmness of purpose. We are a united Assembly group working now on the basis of achievements gained so far.
But though you have to build on foundations we need to recognise we no longer need Labour. It is a party that has an honourable past in serving the working people of Wales. But no longer. Its lacklustre performance in government is clear to everyone. A more fundamental problem is its lack of ambition for our nation.
Yes the Tories pulled the plug on rail electrification to Swansea, but it was Labour that opposed the devolution of Network Rail.
A party that preaches the abolition of tuition fees but wanted to put them up for Welsh students should go back to class.
A party that believes a super prison is economic development for a deprived community should do time itself: in opposition.”

Mr Thomas concluded:

“Our future is making Wales’s future, with a real vision of a green, clean, sustainable nation. Where we control our water and energy. Where we build our nation institution by institution. Where our young people are rewarded for studying and staying and working in our country. Where we build houses for the next generation which are cheap to heat and power themselves.

“It’s an independent nation that leads the world on what we do best: speaking sustainability with the strongest Welsh accent.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle