Dal tipwyr gwastraff diolch i negeseuon Facebook
CAFODD dau ddyn eu herlyn am waredu gwastraff yn anghyfreithlon diolch i drywydd tystiolaeth a oedd yn cynnwys negeseuon Facebook.
Roedd bagiau du oedd yn cynnwys gwastraff o gartref wedi’u gadael ar y mynydd rhwng Cynheidre a Myrtle Hill ac fe gafon nhw eu holrhain yn ôl i dŷ ym Mhontyberem.
Wrth gyfweld â phreswylydd y tŷ, darganfu swyddogion gorfodi’r Sir ei bod hi wedi talu Stuart James Pitson o Heol y Meinciau, Pont-iets, i gael gwared ar y gwastraff o’i chartref yn Ffordd Aneurin. Ond daeth dyn arall yn ddiweddarach i fynd â’r gwastraff ymaith.
Plediodd Pitson, 34 oed, yn euog i fethu â gofalu’n ddigonol, fel brocer, bod sbwriel yn cael ei waredu’n briodol. Rhoddodd ynadon Llanelli ddirwy o £200 iddo a’i orchymyn i dalu costau o £172.40 a a gordal dioddefwr o £30.
Clywodd yr ynadon nad oedd Pitson wedi cael gwared ar y gwastraff o’r eiddo ym Mhontyberem, yn ôl y trefniant, a’i fod yn hytrach wedi trosglwyddo’r gwaith i drydydd parti a ddaeth i gasglu’r gwastraff a’i waredu. Roedd yn cynnwys bagiau du, matras, sylfaen gwely, dau deledu a bocs plastig o eitemau cist car. Aed â rhai ohonynt i’r ganolfan ailgylchu a daethpwyd o hyd i’r bagiau du wedi’u taflu yng nghefn gwlad.
Roedd yr achos yn erbyn y trydydd parti, Shane Goode o Borth Tywyn, eisoes wedi’i brofi mewn gwrandawiad cynharach ac roedd y llys wedi ymdrin â’r achos.
Dywedwyd wrth y llys fod swyddogion wedi’u harwain at Pitson diolch i negeseuon Facebook rhwng Goode a Pitson. Wrth gael ei gyfweld, dywedodd Pitson nad oedd wedi gwneud dim byd o’i le. Roedd wedi trosglwyddo’r gwastraff i’w ffrind, Goode, a gafodd wared arno.
Dywedwyd wrth Pitson ei fod, wrth drefnu i’w ffrind alw a gwaredu’r gwastraff, yn gweithredu fel brocer a’i fod yn ofynnol iddo felly sicrhau bod ei ffrind yn gludwr gwastraff trwyddedig.
Gwnaeth yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Sir dros yr amgylchedd a diogelu’r cyhoedd, y Cynghorydd Philip Hughes, ganmol swyddogion gorfodi’r awdurdod am eu gwaith dyfal wrth sicrhau bod y rhai oedd yn gyfrifol am dipio’r gwastraff yn cael eu dwyn i gyfrif.
Dywedodd: “Os ydych yn cynhyrchu, yn cludo, yn mewnforio, yn trin, yn gwaredu neu’n rheoli gwastraff ar ran pobl eraill mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i ofalu am y gwastraff hwnnw.
“Nod y dyletswydd gofal yw diogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl. Mae’r rheolau’n ddigon syml,” meddai’r Cynghorydd Hughes.
“Os ydych chi’n rhoi’ch gwastraff i berson neu fusnes arall, rhaid i chi wirio ei fod wedi’i awdurdodi’n briodol i’w dderbyn er mwyn ei gludo i safle a ganiateir, neu ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredig.”
Facebook messages trap illegal waste tippers
FACEBOOK messages were the evidential trail that eventually led to two men being convicted for improper waste disposal.
Black bags containing household waste on a hillside between Cynheidre and Myrtle Hill, were traced back to a household in Pontyberem.
Carmarthenshire County Council enforcement officers, when interviewing the householder, discovered that she had paid Stuart James Pitson, of Heol y Meinciau, Pontyates, to remove the waste from her Ffordd Aneurin home. But another man later called for the waste and took it away.
Pitson, aged 34, admitted a charge of failing in his care as a broker to ensure rubbish was disposed of properly. Llanelli magistrates fined him £200 and ordered him to pay costs of £172.40 and an additional victim surcharge of £30.
Magistrates heard that Pitson had not removed the waste from the Pontyberem property as had been arranged but passed the job on to a third party who collected the waste and disposed of it. This included black bags, a double bed mattresses, a bed base, two televisions and a plastic box of car boot items. Some was taken to the recycling centre but the black bags were found dumped in a rural setting.
The case against the third party, Shane Goode, of Burry Port, for not having a waste carriers licence had already been proven and dealt with by the court at an earlier hearing.
The court was told that Facebook messages that had passed between Goode and Pitson led to Pitson being traced. When interviewed, Pitson claimed to have done nothing wrong. He had passed the waste on to a friend, Goode, who then dumped it.
Pitson was advised that in arranging for his friend to call and remove the waste he was acting as broker and was therefore was required to ensure that his friend was a licenced waste carrier.
Executive board member for environment and public protection Cllr Philip Hughes commended the authority’s enforcement officers for diligent work in ensuring those responsible for the waste dumping were brought to account.
He said: “If you produce, carry, import, treat, dispose or manage waste for other people, you have a legal duty of care for that waste. The duty of care aims to protect the environment and human health.
“The rules are quite simple – if you give your waste to another person or business you must check they are properly authorised to accept it for delivery to a permitted site or are a registered waste carrier.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle