Mystery man dumps rubbish at recycling centre/ Dirgel ddyn yn dympio sbwriel mewn canolfan ailgylchu

0
1027

Carmarthenshire County Council’s enforcement team are trying to track down a man who dumped rubbish at a recycling bank.

The man was seen carrying black rubbish bags from his car and disposing them in Abergwili’s recycling site on Friday, August 11 around 7.30pm.

It is an offence to leave waste on the ground at recycling banks.

Recycling banks are for waste that can be recycled and not for general waste
Enforcement officers are cracking down on litter louts at community recycling sites which have become a hotspot for fly-tipping in recent months.

The council’s executive board member for responsible for enforcement, Cllr Philip Hughes said: “We have a zero tolerance for littering and fly tipping in Carmarthenshire. People should ensure all waste is disposed of in the correct manner, using the correct containers provided at these site. It is completely unacceptable that people think it is okay to dump their rubbish on the floor expecting someone else to clean it up for them. Be warned we will use our powers to ensure we clean up these sites, so if you know this man or saw him unloading waste from his car then please get in touch with us. By working together we can clean up Carmarthenshire.”

If you think you know this man then please contact 01267 234567 during office hours or email CEContactCentre@carmarthenshire.gov.uk

If your local bring recycling bank is full email CEContactCentre@carmarthenshire.gov.uk or call us on 01267 234567

Dirgel ddyn yn dympio sbwriel mewn canolfan ailgylchu

Mae tîm gorfodi Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio dod o hyd i ddyn a ddympiodd sbwriel wrth fanc ailgylchu.

Gwelwyd y dyn yn cario bagiau sbwriel du o’i gar ac yn eu gwaredu yn safle ailgylchu Abergwili ar ddydd Gwener, Awst 11, tua 7.30pm.

Mae gadael gwastraff ar y llawr wrth fanc ailgylchu yn drosedd.
Mae banciau ailgylchu yn cael eu darparu ar gyfer gwastraff y gellir ei ailgylchu yn hytrach nag ar gyfer gwastraff cyffredinol.

Mae swyddogion gorfodi wrthi’n gweithredu’n llym yn erbyn rapsgaliwns rybish mewn safleoedd ailgylchu cymunedol lle mae tipio anghyfreithlon wedi dod yn gyffredin yn ystod y misoedd diwethaf.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Orfodaeth: “Mae gennym bolisi ‘dim goddefgarwch’ yn Sir Gaerfyrddin o ran taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon. Dylai pobl sicrhau fod pob darn o sbwriel yn cael ei daflu yn y modd cywir, gan ddefnyddio’r cynwysyddion cywir sy’n cael eu darparu yn y safleoedd hyn. Mae’n gwbl annerbyniol fod pobl yn meddwl ei fod yn iawn i adael eu sbwriel ar y llawr a disgwyl i rywun arall lanhau ar eu hôl. Gair i gall – byddwn yn defnyddio ein pwerau i lanhau’r safleoedd hyn felly os ydych yn adnabod y dyn hwn neu wedi’i weld yn llwytho’r gwastraff o’i gar, cysylltwch â ni. Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn gadw Sir Gâr yn lân.”

Os ydych yn credu eich bod yn adnabod y dyn hwn ffoniwch 01267 234567 yn ystod oriau swyddfa neu e-bostiwch galw@sirgar.gov.uk

Os yw eich banc ailgylchu lleol yn llawn e-bostiwch galw@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle