Not disposing rubbish correctly lands woman in court/ Dynes yn y llys am waredu sbwriel yn anghyfreithlon

0
968

Not disposing rubbish correctly lands woman in court

A Llanelli woman has admitted failing to properly dispose of her rubbish.

Pamela Clement, of Adulam Row in Felinfoel, pleaded guilty at Llanelli Magistrates Court for giving household waste to an unregistered waste carrier, which ended up being dumped in Trosserch Woods.

The court heard the 64-year-old had given two black and four blue bags to a male who was driving a white transit van at the rear of her home on a Sunday afternoon.

Clement said she was cleaning her garden in Felinfoel when she was approached by the man who offered to take her waste. She claimed he was taking them to the recycling centre in Trostre and knew nothing about them being dumped in Llangennech. She claimed no payment was exchanged and she was unaware that anyone transporting her waste needed to be licensed.

Clements was given an absolute discharge and ordered to pay £468 costs.

The council’s executive board member for public protection, Cllr Philip Hughes said: “If residents have excess household waste to dispose of, it’s their job to make sure that anyone they use to remove that waste is properly authorised to carry it. I hope this serves notice that anyone who doesn’t check their waste is being transported by a registered carrier and it is found fly tipped then they too can and will be prosecuted.”

The council has a number of sites throughout the county for disposing of household waste and recycling and also operates a bulky waste collection service. For further information visit the council website or call Carmarthenshire Direct on 01267 234567.

Dynes yn y llys am waredu sbwriel yn anghyfreithlon

Mae dynes o Lanelli yn cyfaddef iddi fethu â chael gwared â’i sbwriel yn y modd cywir.

Plediodd Pamela Clement, Adulam Row, Felinfoel, yn euog yn Llys Ynadon Llanelli am roi gwastraff cartref i gludwr gwastraff anghofrestredig, cafodd y gwastraff ei adael yng Nghoedwig Troserch.

Clywodd y llys fod y ddynes 64 mlwydd oed wedi rhoi dau fag du a phedwar bag glas i ddyn a oedd yn gyrru fan wen y tu ôl i’w chartref ar brynhawn Sul.

Dywedodd Clement ei bod yn clirio’r ardd yn Felinfoel pan ddaeth dyn ati a chynnig mynd â’r gwastraff. Honnodd ei fod yn mynd â’r gwastraff i’r ganolfan ailgylchu yn Nhrostre ac nid oedd hi’n gwybod dim am y gwastraff yn cael ei adael yn Llangennech. Honnodd na chafodd unrhyw daliad ei gyfnewid ac nid oedd yn ymwybodol bod angen trwydded ar unrhyw un sy’n cludo gwastraff.

Cafodd Clements ryddhad diamod a gorchmynnwyd iddi dalu costau o £468.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Os oes gan breswylwyr wastraff cartref i’w waredu, mae’n gyfrifoldeb arnynt i sicrhau bod trwydded briodol gan unrhyw un sy’n cael ei ddefnyddio i gludo’r gwastraff. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn tynnu sylw at y ffaith y gellir erlyn pobl os nad ydynt yn gwirio bod eu gwastraff yn cael ei drosglwyddo gan gludwr cofrestredig a bod y gwastraff hwnnw o ganlyniad yn cael ei dipio’n anghyfreithlon.”

Mae gan y Cyngor nifer o safleoedd ledled y sir ar gyfer gwaredu gwastraff cartref ac ailgylchu ac mae hefyd yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y cyngor neu ffoniwch Galw Sir Gâr ar 01267 234567.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle