Appeal helping more smile through Christmas | Mwy o bobl yn elwa o apêl y Nadolig

0
1052
Toybox Appeal, County Hall, Carmarthen

Appeal helping more smile through Christmas

 

LET’S put a smile on a lot more faces this Christmas by being generous to those less fortunate across the county.

That’s the appeal from Carmarthenshire council’s executive board member for community engagement, Cllr Cefin Campbell, in launching the council’s Toybox and hamper appeal.

Residents county-wide are being asked to help to brighten Christmas for the deserving by donating new presents or food items for the seventh annual appeal.

Cllr Campbell said the aim was to provide presents for hundreds of boys and girls from birth age to 16-year-olds from families who cannot afford to buy food, gifts or toys for their offspring.

Council deputy leader, Cllr Mair Stephens, said the Toybox and Christmas gift appeal was growing in strength year by year. Last year they provided parcels of multiple gifts for 662 children and young people and a total of 257 food hampers in a massive undertaking.

“This is all down to the generosity of residents county-wide who donate new presents appropriate for babies through to teenagers.”

Informing full council of the 2017 appeal launch Cllr Stephens said: “We all recognise and appreciate Christmas is a time for giving and receiving. Unfortunately there are families that face difficult times and perhaps, sometimes, by providing gifts for their children, they go into debt.

“We have a small but hard working team who ensure that recipients are vetted to as being appropriately in need. From collection to storage and wrapping it is all a massive undertaking.

“I would like to take this opportunity to thank businesses for their generosity and support, in particular Nolan, which has allowed the appeal to be hosted at their premises in Johnstown.”

There are collection points for gifts across Carmarthenshire, including County Hall, Carmarthen; Ty Elwyn, Llanelli and Ammanford Town Hall.

 

Video…

Cllr Mair Stephens (English): https://vimeo.com/238762044

Cllr Cefin Campbell (English): https://vimeo.com/238761945

Mwy o bobl yn elwa o apêl y Nadolig

 

GALLWCH helpu i godi gwên ar lawer mwy o wynebau y Nadolig hwn trwy roi anrhegion neu fwyd i bobl sy’n llai ffodus ledled y Sir.

Dyna beth y mae’r Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ymgysylltu Cymunedol, yn ei ofyn i chi, wrth iddo lansio Apêl Teganau a Hamper y Cyngor.

Ar gyfer y seithfed apêl flynyddol, gofynnir i breswylwyr ledled y Sir i helpu’r rhai sydd mewn angen trwy roi anrhegion newydd neu eitemau bwyd y Nadolig hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Campbell mai’r nod yw rhoi anrhegion i gannoedd o fechgyn a merched, o blant newydd-anedig hyd at rai 16 mlwydd oed, sy’n dod o deuluoedd na allant fforddio prynu bwyd, anrhegion neu deganau i’w plant.

Dywedodd y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, fod yr Apêl Teganau a Hamper yn tyfu mewn maint bob blwyddyn. Y llynedd, rhoddwyd anrhegion i 662 o blant a phobl ifanc yn ogystal â 257 o hamperi bwyd mewn apêl enfawr.

“Mae hyn i gyd yn bosibl oherwydd haelioni ein preswylwyr ledled y Sir sy’n rhoi anrhegion newydd a phriodol i fabanod, plant a phobl ifanc yn eu harddegau.”

Dyma beth ddywedodd y Cynghorydd Stephens wrth y Cyngor Llawn am lansio Apêl 2017: “Rydym i gyd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi bod y Nadolig yn amser i roi anrhegion a’u cael. Yn anffodus mae yna deuluoedd sy’n wynebu adegau anodd, a weithiau maent yn mynd i ddyled er mwyn rhoi anrhegion i’w plant.

“Mae gennym dîm bach sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod y rhai sy’n derbyn anrhegion yn gymwys ac mewn angen priodol. O gasglu i storio a lapio, mae’r cyfan yn gamp enfawr.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i fusnesau am eu haelioni a’u cefnogaeth, yn enwedig Nolan, sydd wedi caniatáu i’r apêl gael ei chynnal ar eu safle yn Nhre Ioan.”

Mae yna fannau casglu ar gyfer anrhegion ar draws Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Neuadd y Sir, Caerfyrddin; Tŷ Elwyn, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman.

 

Fideo…

Cyng Mair Stephens (Cymraeg): https://vimeo.com/238761996

Cyng Cefin Campbell (Cymraeg): https://vimeo.com/238761905


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle