Event Organisers Circle signs up its youngest member
CARMARTHENSHIRE’S Event Organisers Circle is helping a new generation of event organisers, signing up its youngest member yet.
Seventeen-year-old Ffion Fox joined the network, which aims to improve the county’s events programme through a range of activities, after she and two friends re-kindled their local carnival.
Ffion, together with 17-year-old Celyn Jones and 14-year-old Cerys Roberts took over the once well-established Johnstown carnival in August following a five year gap.
After securing sponsorship from local chartered accountants, Clay Shaw Butler, the event was a huge success with around 300 people taking part.
Ffion said: “The annual carnival was a big part of my childhood growing up here in Johnstown and we were sad to see it not take place after 2012.
“It was always a great way of bringing the community together and also of bringing people to the area who may not have otherwise visited. So my friends and I decided we’d bring it back.
“There were also other things we wanted to do for our community, such as raise money for a defibrillator and this event was a great way of achieving that. In the end we raised £250.
“We are delighted to be a part of the Event Organisers Circle and look forward to the benefits it will bring as we grow and develop our carnival and any other events we may launch.”
The Carmarthenshire Event Organisers Circle, which aims to help people develop their events by encouraging greater networking, joint working and providing upskilling activities, was launched after receiving funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020 (RDP), which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.
Cllr Peter Hughes Griffiths, executive board member for culture, sport and tourism, said: “It’s great to hear what Ffion and her friends have done for their community. They are fantastic role models for young people everywhere and we look forward to our Event Organisers Circle helping them and many others like them in developing the events programme in Carmarthenshire.”
For more information on the event organisers circle and its activities, search ‘events’ at www.carmarthenshire.gov.wales
Event organisers – volunteers need you!
A NEW campaign to promote volunteering opportunities at events across Carmarthenshire is being launched.
The initiative forms part of Carmarthenshire County Council’s Event Organisers Circle project, which aims to improve the events programme in Carmarthenshire through a series of actions.
The event volunteering campaign seeks to match volunteers looking for opportunities with event organisers needing more hands on deck.
Officers on the scheme are also working with Carmarthenshire Association of Voluntary Services (CAVS) and Communities First who keep a database of volunteers and are also looking at initiatives such as time credits with the aim of creating a volunteering package.
Cllr Peter Hughes Griffiths, executive board member for culture, sport and tourism, said: “With an estimated £48billion value to the UK by 2020 in addition to them being a positive contributor to communities, events are hugely significant.
“Volunteers are a key part of the delivery of events in our county. With many event organisers dependent on them, it is important that we do all we can to support this. ”
The Event Organiser Circle has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020 (RDP), which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.
Event organisers who may be looking for volunteers to help at their event can email marketing@carmarthenshire.gov.uk for more information.
For more information on the event organisers circle and its activities, search ‘events’ at www.carmarthenshire.gov.wales
Aelod ieuengaf i gofrestru â’r Cylch Trefnwyr Digwyddiadau
MAE Cylch Trefnwyr Digwyddiadau Sir Gaerfyrddin yn helpu cenhedlaeth newydd o drefnwyr digwyddiadau, ac mae ei aelod ieuengaf erioed wedi ymaelodi’n ddiweddar.
Nod y Cylch yw gwella rhaglen ddigwyddiadau’r sir trwy gynnal amrywiaeth o weithgareddau. Ymunodd Ffion Fox, sy’n ddwy ar bymtheg mlwydd oed, â’r rhwydwaith wedi iddi hi a dau ffrind iddi adfywio eu carnifal lleol.
Aeth Ffion, ynghyd â Celyn Jones, 17 oed a Cerys Roberts, 14 oed, ati i redeg carnifal Tre Ioan ym mis Awst. Arferai’r carnifal fod yn boblogaidd iawn ond roedd bwlch o bum mlynedd cyn eleni.
Ar ôl sicrhau nawdd gan y cyfrifyddion siartredig lleol, Clay Shaw Butler, roedd y digwyddiad yn llwyddiant enfawr gydag oddeutu 300 o bobl yn cymryd rhan ynddo.
Dywedodd Ffion: “Roedd y carnifal blynyddol yn rhan fawr o’m plentyndod yma yn Nhre Ioan ac roeddem yn drist nad oedd e’n cael ei gynnal ar ôl 2012.
“Roedd e bob amser yn ffordd wych o ddod â’r gymuned at ei gilydd a hefyd denu pobl i’r ardal na fyddent wedi ymweld â hi fel arall. Felly, penderfynodd fy ffrindiau a fi ei ailddechrau.
“Roedd yna hefyd bethau eraill yr oeddem am eu gwneud ar gyfer ein cymuned, megis codi arian ar gyfer diffibriliwr, ac roedd y digwyddiad hwn yn ffordd wych o gyflawni hynny. Yn y diwedd codwyd £250 gennym.
“Rydym yn falch iawn i fod yn rhan o’r Cylch Trefnwyr Digwyddiadau ac edrychwn ymlaen at y buddion a fydd yn dod wrth i ni dyfu a datblygu ein carnifal ac unrhyw ddigwyddiadau eraill y gallem eu lansio.”
Lansiwyd Cylch Trefnwyr Digwyddiadau Sir Gaerfyrddin ar ôl derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 (RDP), sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Nod y Cylch yw helpu pobl i ddatblygu eu digwyddiadau gan annog mwy o rwydweithio, cydweithio, a darparu cyfleoedd uwchsgilio.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n wych cael clywed beth mae Ffion a’i ffrindiau wedi’i wneud dros eu cymuned. Maent yn esiamplau rhagorol i bobl ifanc ym mhobman ac edrychwn ymlaen at gael gweld ein Cylch Trefnwyr Digwyddiadau yn eu helpu nhw a llawer o bobl eraill debyg iddynt wrth ddatblygu’r rhaglen ddigwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Cylch Trefnwyr Digwyddiadau a’i weithgareddau, chwiliwch am ‘digwyddiadau’ yn www.sirgar.llyw.cymru
Chi drefnwyr digwyddiadau – mae ar wirfoddolwyr eich angen!
CAIFF ymgyrch newydd ei lansio er mwyn hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae’r fenter yn rhan o brosiect Cylch Trefnwyr Digwyddiadau Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd â’r nod o wella’r rhaglen ddigwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin trwy gyfres o gamau gweithredu.
Mae’r ymgyrch gwirfoddoli mewn digwyddiadau yn ceisio paru gwirfoddolwyr sy’n chwilio am gyfleoedd â threfnwyr digwyddiadau y mae angen mwy o help arnynt.
Mae swyddogion y cynllun hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) a Cymunedau yn Gyntaf, sy’n cadw cronfa ddata o wirfoddolwyr, ac maent hefyd yn ystyried mentrau megis credydau amser gyda’r nod o greu pecyn i wirfoddolwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Amcangyfrifir y bydd digwyddiadau’n dod â gwerth £48 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig erbyn 2020 a hynny’n ychwanegol at eu cyfraniad cadarnhaol i gymunedau, ac felly maent o bwys enfawr.
“Mae gwirfoddolwyr yn rhan allweddol o ddarparu digwyddiadau yn ein sir. Gyda llawer o drefnwyr y digwyddiadau yn dibynnu arnynt, mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi hyn. ”
Mae’r Cylch Trefnwyr Digwyddiadau wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 (RDP), sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Gall trefnwyr digwyddiadau a allai fod yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu yn eu digwyddiad anfon e-bost i marketing@sirgar.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cylch Trefnwyr Digwyddiadau a’i weithgareddau, chwiliwch am ‘digwyddiadau’ yn www.sirgar.llyw.cymru
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle