Consultation proposed on future of secondary education in the upper Afan Valley/Cynnig i ymgynghori ar ddyfodol addysg uwchradd yng Nghwm Afan Uchaf

0
1029

Consultation proposed on future of secondary education in the upper Afan Valley

 

Neath Port Talbot Council’s Education, Skills and Culture Cabinet Board will next week (Thursday 9th November) be asked for approval to consult on the future of secondary education in the upper Afan Valley.

 

Under the proposals the pupils of Cymer Afan Comprehensive School would be transferred to the new build £30m all-through (ages 3-16) Ysgol Newydd Margam, which is currently under construction and Cymer Afan Comprehensive School would be closed.

 

Leader of Council, Councillor Rob Jones said, “We know that this proposal would be a significant change to secondary education provision in the Afan Valley. It is about giving children in the Afan Valley access to 21st century education experience and an innovative and stimulating learning environment, the benefits of which are evidenced elsewhere.

 

“The council is committed to listening carefully to people’s views and we will fully engage with the community before any final decisions are made.”

 

Councillor Peter Rees, Cabinet Member for Education, Skills and Culture said,

 

“One of this council’s key commitments is giving all of our children the best start in life and helping them be the best they can be.

 

“This proposal would provide the pupils in the Afan Valley with a wider range of teaching and learning facilities which will have a positive impact on pupil wellbeing and attainment. It will ensure that pupils have greater choices and opportunities because of the better facilities available to them.”

 

If approved, the consultation will run from Monday 11th December 2017 until Friday 26th January 2018 and a consultation report will be published prior to this with full details about how people can give their views.

Cynnig i ymgynghori ar ddyfodol addysg uwchradd yng Nghwm Afan Uchaf

 

Bydd gofyn i Fwrdd Addysg, Sgiliau a Diwylliant Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot gymeradwyo ymgynghoriad ar ddyfodol addysg uwchradd yng Nghwm Afan Uchaf yr wythnos nesaf (dydd Iau 9 Tachwedd)

 

Yn unol â’r cynigion, byddai disgyblion Ysgol Gyfun Cymer Afan yn cael eu symud i ysgol pob oed newydd (3-16 oed) gwerth £30 miliwn, Ysgol Newydd Margam, sy’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, a byddai Ysgol Gyfun Cymer Afan yn cau.

 

Meddai’r Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd y Cyngor, “Rydym yn gwybod y bydd y cynnig hwn yn newid sylweddol i ddarpariaeth addysg uwchradd yng Nghwm Afan. Mae’n ymwneud â chyflwyno addysg ac amgylchedd dysgu arloesol a chyffrous sy’n addas i’r 21ain ganrif yng Nghwm Afan, sydd wedi bod o fudd i ardaloedd eraill.

 

“Mae’r cyngor yn ymrwymedig i wrando’n ofalus ar farn pobl a byddwn yn cynnwys y gymuned yn llawn cyn i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud.”

 

Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant,

 

“Un o brif ymrwymiadau’r cyngor hwn yw rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a’u helpu i fod y gorau y gallant fod.

 

“Byddai’r cynnig hwn yn darparu ystod ehangach o gyfleusterau dysgu ac addysgu i ddisgyblion Cwm Afan, a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar les a chyrhaeddiad disgyblion. Bydd yn sicrhau bod gan ddisgyblion opsiynau a chyfleoedd gwell oherwydd y cyfleusterau gwell sydd ar gael iddynt.”

 

Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr ymgynghoriad ar agor o ddydd Llun 11 Rhagfyr 2017 tan ddydd Gwener 26 Ionawr a bydd yr adroddiad ymgynghori’n cael ei gyhoeddi cyn hyn gyda’r manylion llawn am sut y gall pobl ddweud eu dweud.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle