Neath Port Talbot Council supports National Safeguarding Week

0
863

Neath Port Talbot Council is supporting a week long public awareness campaign to raise the profile of child and adult safeguarding in the local area.

The campaign begins on Monday 13th November and will highlight a wide range of current issues to do with Safeguarding.

To raise awareness, a communications campaign has been launched across local radio stations and new webpages have been developed by the Western Bay Safeguarding Boards. The Boards work with partner organisations across Bridgend, Neath Port Talbot and Swansea to safeguard and promote the welfare of children and adults.

The purpose of the website is to provide accessible information to residents and professional across the whole region. The website is accessible via www.wbsb.co.uk .

There will be also be themed days running throughout the week, starting on Monday with Child Sexual Exploitation. Tuesday will focus on modern slavery, Wednesday on mental health & resilience, online abuse & exploitation on Thursday, and violence against women, domestic abuse & sexual violence on Friday.

Councillor Peter Richards, Cabinet Member for Adult Social Services and Health, said:

“Safeguarding the vulnerable within our community is a key priority for Neath Port Talbot Council. We will be communicating with local residents, care providers, schools and the community to ensure that people are aware of the issues surrounding safeguarding and know how to access support.

“It is important that we get the message across that everyone has a duty towards safeguarding and anyone can raise concerns about someone’s wellbeing.”

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Diogelu

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus, sy’n para wythnos, i gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelu plant ac oedolion yn yr ardal leol.

Bydd yr ymgyrch, sy’n dechrau ddydd Llun 13 Tachwedd, yn tynnu sylw at amrywiaeth eang o faterion presennol sy’n gysylltiedig â diogelu.

Er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth, mae ymgyrch gyfathrebu wedi’i lansio ar draws gorsafoedd radio lleol ac mae byrddau diogelu Bae’r Gorllewin wedi datblygu gwe-dudalennau newydd. Mae’r byrddau’n gweithio gyda sefydliadau partner ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion.

Diben y wefan yw darparu gwybodaeth hygyrch i breswylwyr a gweithwyr proffesiynol ar draws yr holl ranbarth. Mae’r wefan ar gael yn www.wbsb.co.uk.

Cynhelir diwrnodau ar themâu drwy gydol yr wythnos, gan ddechrau ddydd Llun gyda Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Bydd dydd Mawrth yn canolbwyntio ar gaethwasiaeth fodern; thema dydd Mercher fydd iechyd meddwl a gwytnwch; cam-drin a chamfanteisio ar bobl ar-lein fydd yn dwyn y sylw ddydd Iau; a cham-drin domestig a thrais rhywiol fydd thema dydd Gwener.

Meddai’r Cynghorydd Peter Richards, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd,

“Mae diogelu pobl ddiamddiffyn yn ein cymuned yn flaenoriaeth allweddol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Byddwn yn cyfathrebu â phreswylwyr lleol, darparwyr gofal, ysgolion a’r gymuned i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r materion sy’n gysylltiedig â diogelu ac yn gwybod sut i gael cefnogaeth.

“Mae’n bwysig ein bod yn cyflwyno’r neges fod diogelu’n ddyletswydd i bawb a gall unrhyw un fynegi pryderon am les rhywun.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle