Amnestau Offerynnau / Instrument Amnesties

0
1699
Carmarthenshire County Big Band at County Hall launching the Instrument Amnesties. / Band Mawr Sir Gaerfyrddin yn lansio’r Amestau Offerynnol.
Band, reception, county hall, carmarthen

Amnestau Offerynnau

Rhydian Tiddy o Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, sydd wedi’i ddewis i fod yn rhan o Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain, gyda Gareth Kirby, cydlynydd y Gwasanaeth Cerdd; ac Aeron Rees, Pennaeth Cwricwlwm a lles. / Rhydian Tiddy of Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, who has been chosen for the National Youth Orchestra of Great Britain with Music Service co-ordinator Gareth Kirby, and Head of Curriculum and Wellbeing Aeron Rees,

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin ynghyd â Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin yn lansio tri Amnest Offerynnau dros yr wythnosau nesaf.

 

Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i ddod i un o’r tri lleoliad er mwyn cyfrannu unrhyw hen offerynnau cerdd neu offerynnau nad oes ar neb eu heisiau mwyach fel y gellir eu defnyddio eto yn ysgolion y sir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Os oes gennych hen drymped, ffidil, recorder, clarinét neu unrhyw offeryn cerdd arall sy’n hel llwch yn yr atig, dewch â’r offeryn i un o’r mannau hyn er mwyn helpu i sicrhau bod cerddoriaeth yn amlwg iawn yn ein sir yn y dyfodol.

 

“Bydd yr offerynnau sy’n cael eu rhoi yn cael eu dosbarthu i ddisgyblion ac i ysgolion lle y mae angen cefnogi cerddora, gan gyfoethogi bywydau pobl ifanc Sir Gaerfyrddin.”

 

Lansiwyd yr Amnestau Offerynnau drwy berfformiad gan Fand Mawr Sir Gaerfyrddin yn Neuadd y Sir ddydd Mercher.

 

Chwaraeodd y band gerddoriaeth am gyfnod byr yn y cyntedd, gan chwarae caneuon oedd yn cynnwys Mack the Knife, Birth of the Blues, On Broadway, a Night and Day.

 

Cafodd trymped oedd wedi cael ei gyfrannu at yr achos ei gyflwyno gan y Cynghorydd Glynog Davies i aelod o’r band, Rhydian Tiddy o Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, sydd wedi’i ddewis i fod yn rhan o Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain.

 

Dywedodd Rhydian sy’n bedair ar ddeg oed ac sy’n canu’r trombôn: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis. Bydd yn brofiad anhygoel.”

Y tri lleoliad yw: Amnest Offerynnau 1 – Dydd Mercher 29 Tachwedd yng nghyntedd Theatr y Lyric, Caerfyrddin o 10am tan 1pm; Amnest Offerynnau 2 – Dydd Iau 30 Tachwedd yng nghyntedd Theatr y Ffwrnes, Llanelli o 10am tan 1pm;
Amnest Offerynnau 3 – Dydd Gwener 1 Rhagfyr yn Theatr y Glowyr, Rhydaman o 10am tan 1pm.

 

Mae Amnest Offerynnau Sir Gaerfyrddin yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru.

 

Instrument Amnesties

Cllr Glynog Davies presents a donated trumpet to band member Rhydian Tiddy of Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, who has been chosen for the National Youth Orchestra of Great Britain ./ Cafodd trymped oedd wedi cael ei gyfrannu at yr achos ei gyflwyno gan y Cynghorydd Glynog Davies i aelod o’r band, Rhydian Tiddy o Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, sydd wedi’i ddewis i fod yn rhan o Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain.

Carmarthenshire County Council along with its Music Service is launching three Instrument Amnesties which will take place over the coming weeks.

 

Members of the public are being encouraged to come along to any of the three venues chosen to donate any old and unwanted musical instruments for use in the county’s schools.

 

Executive board member for education and children’s services Cllr Glynog Davies said: “If you have an old trumpet, violin, recorder, clarinet or any other musical instrument that is gathering dust in the attic, please bring it to one of the venues and help keep music thriving in our county.

 

“These donated instruments will be distributed to pupils and schools where there is a need to support music making, enriching the lives of the young people in Carmarthenshire.”

 

The Instrument Amnesties were launched with a performance from the Carmarthenshire County Big Band at County Hall on Wednesday.

 

The band played a short set in the foyer, consisting of Mack the Knife, Birth of the Blues, On Broadway, and Night and Day.

 

Cllr Glynog Davies presented a donated trumpet to band member Rhydian Tiddy of Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, who has been chosen for the National Youth Orchestra of Great Britain.

 

Fourteen-year-old Rhydian, who plays trombone, said: “I’m delighted to have been chosen. It will be an incredible experience.”

The three host venues are: Instrument Amnesty 1 – Wednesday November 29 in the foyer of the Lyric Theatre, Carmarthen from 10am-1pm; Instrument Amnesty 2 – Thursday November 30 in the foyer of the Ffwrnes Theatre, Llanelli from 10am-1pm;
Instrument Amnesty 3 – Friday December 1 in the Ammanford Miners Theatre, Ammanford, from 10am-1pm.

 

The Carmarthenshire Instrument Amnesty is part of a Welsh Government initiative.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle