People with long term health conditions urged to protect themselves from influenza / Annog pobl â chyflyrau iechyd hirdymor i ddiogelu eu hunain rhag influenza

0
682

People with long term health conditions urged to protect themselves from influenza / Annog pobl â chyflyrau iechyd hirdymor i ddiogelu eu hunain rhag influenza

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog unrhyw un o chwe mis oed a chanddynt gyflwr iechyd hirdymor i gael eu diogelu rhag ffliw trwy gael brechiad GIG yn rhad ac am ddim.

Mae pobl a chanddynt gyflyrau meddygol cronig yn wynebu mwy o risg nac eraill o gymhlethdodau ffliw, gan gynnwys niwmonia.
Mae’r cyflyrau all olygu fod pobl yn wynebu mwy o risg yn cynnwys diabetes, clefyd y galon a’r aren, cyflyrau niwrolegol megis strôc neu strôc ysgafn a phroblemau resbiradol fel COPD. Mae pobl nad yw eu dueg yn gweithio’n iawn, a phobl sy’n ddifrifol ordew, hefyd yn wynebu mwy o risg.

Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn a bob blwyddyn mae pobl yng Nghymru yn gorfod mynd i’r ysbyty neu unedau gofal dwys gyda ffliw.

Mae gan Robert Lee o Gaerdydd ddiabetes ac mae’n esbonio pam mae’r brechiad ffliw yn hanfodol iddo ef: “Yn fuan ar ôl cael diagnosis o diabetes bum yn wael iawn gyda ffliw. Gallaf ddweud a’m llaw ar fy nghalon ei fod gyda’r salwch gwaethaf a gefais erioed. Roeddwn yn fy ngwely am 10 diwrnod, yn teimlo’n ofnadwy a phrin y gallwn symud o’m gwely. Roedd yn gyfnod digon brawychus, yn enwedig gan fod fy nhad wedi dod yn agos at farw oherwydd ffliw.

“Da chi trefnwch gael eich brechiad ffliw – mae’n broses rwydd a chyflym, ac ni ddylai gymryd mwy nac ychydig funudau. Dydw i ddim yn mentro peidio cael fy mrechiad ffliw ac ni ddylech chithau chwaith .”

Mae’r firysau ffliw sy’n cylchredeg ac yn creu salwch bob gaeaf yn newid, ac felly mae’r brechlyn ffliw yn cael ei newid bob blwyddyn er mwyn ceisio ymateb i’r straeniau sy’n cylchredeg a chynnig cymaint o ddiogelwch â phosib. Dyna pam ei bod yn bwysig cael brechlyn ffliw bob blwyddyn.

Mae’r rhan fwyaf o frechlynnau GIG yn cael eu rhoi mewn meddygfeydd, ond mae’r brechiad hefyd ar gael i oedolion mewn nifer fawr o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru.

Mae oedolion difrifol ordew (y sawl a chanddynt BMI dros 40) yn gymwys i gael brechiad ffliw GIG rhad ac am ddim ac mae Caroline Bovey, Cadeirydd Bwrdd Cymru Cymdeithas Dieteteg Prydain yn awyddus i’w hannog i fanteisio arno:

“Mae ffliw yn salwch difrifol a achosir gan firws sy’n effeithio’r ysgyfaint a’r llwybrau anadlu. Mae symptomau’n tueddu ymddangos yn sydyn, a gallant gynnwys twymyn, oerni, cur pen/pen tost, peswch, cyhyrau’n gwynegu a lludded. Ar gyfer pobl sy’n ddifrifol ordew, gall y system imiwnedd gael ei heffeithio, ac o’r herwydd gall ffliw fod yn ddifrifol iawn a gall weithiau fod yn farwol.

”Peidiwch â mentro – gofalwch eich bod yn cael eich pigiad ffliw heddiw.”

Caiff firws y ffliw ei wasgaru trwy ddiferion sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian. Mae cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebau a heintiwyd hefyd yn gallu gwasgaru’r haint. Gall ledu’n gyflym iawn, yn enwedig felly mewn cymunedau caeëdig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion.

Dywedodd y Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Bob blwyddyn mae firysau ffliw yn cylchredeg, ac yn gwneud llawer o bobl yn sâl/dost a rhai i wynebu sefyllfaoedd sy’n peryglu eu bywydau. Y llynedd mewn unedau gofal dwys yng Nghymru roedd 74 o gleifion yn dioddef o’r ffliw.

“Mae’r firysau ffliw sy’n cylchredeg ac yn creu salwch bob gaeaf yn newid yn rheolaidd, ac mae gwarchodaeth y brechlyn yn gwanhau gydag amser, ac os ydych felly mewn grŵp risg ac os cawsoch y brechlyn y llynedd, mae’n dal yn bwysig ichi gael eich brechu eleni er mwyn cynnig y diogelwch gorau ichi’ch hun.

“Gall ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig felly i bobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Cael eich brechu sy’n cynnig y warchodaeth orau, felly gofalwch ei fod ar frig eich rhestr pethau i’w gwneud y gaeaf hwn.”

Cewch wybod mwy trwy fynd i www.curwchffliw.orgn neu www.beatflu.org neu trwy ddod o hyd i Curwch Ffliw neu Beat Flu ar Twitter a Facebook.

Hywel Dda University Health Board is urging anyone from the age of six months upwards with a long term health condition to get protected against flu with a free NHS vaccination.

People with chronic medical conditions are more at risk than others from complications of flu, including pneumonia.

Conditions that can put people more at risk include diabetes, heart and kidney disease, neurological conditions such as stroke and mini stroke and respiratory problems like COPD. People whose spleen doesn’t work properly, and those who are morbidly obese, are also more vulnerable.

Flu can be very serious and every year people in Wales end up in hospital or intensive care units with flu.

The influenza viruses that circulate and cause illness each winter change and therefore each year the flu vaccine is changed to try and match the circulating strains, in order to give best protection. That is why it is important to have a flu vaccine each year.

Most NHS flu vaccines are given in GP surgeries, but the vaccination is also widely available for adults in many community pharmacies across Wales.

Morbidly obese adults (those with a BMI over 40) are eligible to have a free NHS flu jab and Caroline Bovey, Chair of the British Dietetic Association’s Wales Board is keen to encourage them to take advantage of it:

“Influenza is a serious illness caused by a virus that affects the lungs and airways. Symptoms generally come on suddenly, and can include fever, chills, headache, cough, muscle aches and fatigue. For those with severe obesity, the immune system can be affected and as a result influenza can be very serious and can sometimes be deadly.

”Don’t risk it – ensure you have your jab today.”

The influenza virus is spread via droplets which are sprayed into the air when an infected person coughs or sneezes. Direct contact with contaminated hands or surfaces can also spread infection. It can spread rapidly, especially in closed communities such as hospitals, residential homes and schools.

Dr Richard Roberts, Head of the Vaccine Preventable Disease Programme at Public Health Wales, said:

“Each year influenza viruses circulate, causing many people to be ill and some to face life-threatening situations. Last year in intensive care units in Wales there were 74 patients with confirmed influenza.

“The influenza viruses that circulate and make people ill each winter change regularly, and vaccine protection fades over time, so if you are in a risk group and had the vaccine last year, it is still important to get vaccinated this year to best protect yourself.

“Influenza can be serious, particularly to those with long term health conditions. Getting vaccinated offers the best protection, so make sure it is top of your to-do list this winter.”

Find out more by visiting www.beatflu.org or www.curwchffliw.org or finding Beat Flu or Curwch Ffliw on Twitter and Facebook.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle