Caban Siôn Corn a charw go iawn ym Mharc Gwledig Pen-bre/Real reindeer and Santa’s woodland cabin at Pembrey Country Park

0
1010

Caban Siôn Corn a charw go iawn ym Mharc Gwledig Pen-bre

 

MAE Rwdolff a’i gyfeillion wedi cyrraedd Parc Gwledig Pen-bre er mwyn helpu Siôn Corn i baratoi ar gyfer cyfnod prysur y Nadolig.

Bydd teuluoedd yn gallu ymweld â Siôn Corn yn ei gaban pren a’i helpu i fwydo’i garw go iawn yn ystod Ffair Nadolig draddodiadol sy’n cael ei chynnal yn y parc ddydd Sul, 3 Rhagfyr.

Yn ogystal bydd pabell grefftau ac anrhegion er mwyn i bobl brynu anrhegion ar gyfer teulu a ffrindiau a bydd canu carolau hefyd er mwyn i bobl fynd i ysbryd yr ŵyl.

Dywedodd Neil Thomas, Rheolwr yr Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir Caerfyrddin ei fod yn gobeithio y bydd y ffair yn denu cannoedd o bobl i’r parc.

“Rydym yn parhau i ddatblygu ein hystod o ddigwyddiadau ac mae’n bleser gennym gynnal digwyddiad Nadoligaidd traddodiadol ym Mharc Gwledig Pen-bre yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig,” dywedodd.

“Bydd Siôn Corn yn bresennol mewn caban pren yn ein coetir a bydd plant yn gallu ymweld ag ef a’i wylio’n bwydo ei garw go iawn yn ystod y prynhawn.

“Mae Parc Gwledig Pen-bre a Thraeth Cefn Sidan yn llefydd penigamp i ymweld â nhw ar ddiwrnod oer o aeaf a bydd y digwyddiad hwn yn siŵr o wneud ichi deimlo’n Nadoligaidd.”

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 3.30pm ddydd Sul, 3 Rhagfyr. Bydd modd bwydo’r ceirw gyda Siôn Corn am 12pm ac am 2pm.

Mae mynediad am ddim i’r digwyddiad ond codir ffi o £2 fesul car am barcio wrth y gât ar gyfer pobl nad ydynt yn ddeiliaid tocyn tymor.

Codir ffi o £5 am ymweld â chaban Siôn Corn a rhoddir anrheg i bob plentyn ond mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw yn y Ganolfan Ymwelwyr – ffoniwch 01554 742424.

Mae dal i fod ambell le ar ôl ar gyfer stondinwyr – e-bostiwch ORTevents@carmarthenshire.gov.uk neu ffoniwch 01554 742368 i gael rhagor o wybodaeth.

 

 

Real reindeer and Santa’s woodland cabin at Pembrey Country Park

 

RUDOLPH and his reindeer friends have landed at Pembrey Country Park to help Father Christmas prepare for a busy festive season.

Families will be able to visit Santa in his woodland log cabin and help him feed his real reindeer during a traditional Christmas fayre at the park on Sunday, December 3.

A craft and gift marquee will also be there for people to pick up gifts for friends and family, and there will be carol singing to get everyone in the festive spirit.

Carmarthenshire County Council’s senior outdoor recreation manager Neil Thomas said he hoped the fayre will bring hundreds of people into the park.

“We are continuing to build our range of events and are pleased to be bringing a traditional festive event to Pembrey Country Park in the run-up to Christmas,” he said.

“Father Christmas will be present in a log cabin in our woods and children can visit him and watch him feed his real reindeer during the afternoon.

“Pembrey Country Park and Cefn Sidan Beach is a beautiful place to explore on a crisp winter’s day, and this event will bring an added touch of Christmas spirit.”

The event will run from 10am-3.30pm on Sunday December 3. Reindeer feeding with Father Christmas takes place at 12pm and 2pm.

Entry to the event is free, with parking at £2 per car at the gate for non-season ticket holders.

Visits to Santa’s cabin are £5 with a gift for every child, but must be booked in advance at the Visitor Centre – call 01554 742424.

A few places remain for stallholders – email ORTevents@carmarthenshire.gov.uk or call 01554 742368 for further information.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle