Neath Port Talbot’s Waste Enforcement Team lead the way in bringing flytippers to task!/Tîm Gorfodi Gwastraff Castell-nedd Port Talbot yn arwain y ffordd wrth gosbi pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon

0
1011

 

Neath Port Talbot’s Waste Enforcement Team lead the way in bringing flytippers to task!

 

Neath Port Talbot Council has successfully prosecuted an individual for illegally depositing controlled waste in Tonmawr.  Following a complaint concerning land near to the former Water Treatment Works, Tonmawr a Waste Enforcement Officer attended and found two LBS bags of builder’s waste. An investigation led to enquiries being made at a business premises in Morriston which were in the process of being refurbished.

On Tuesday 14 November 2017 at Swansea Magistrates Court, 51 year old Mr Gary Locke of Vivian Terrace, Aberavon pleaded guilty to illegally depositing waste, contrary to s33 of the Environmental Protection Act 1990. He was ordered to pay a £1000 fine, £477 in costs and a £100 victim surcharge; totalling £1577.

It was also announced at the same time by ‘Stats Wales’ that Neath Port Talbot’s Waste Enforcement Team, again lead the way in bringing flytippers to task last year.

Cabinet Member for Streetscene and Engineering, Councillor Ted Latham, said: “These latest prosecutions, send out a clear message to anyone contemplating dumping waste illegally, the Council takes a zero-tolerance approach to fly tipping

“As well as being a blight on the landscape and completely unacceptable, it is also costly to clear up rubbish dumped illegally. Residents can be assured that we will take legal action whenever possible to tackle fly tipping. We are determined to keep our communities safe and clean of illegal waste.”

Fly tipping of waste is a serious criminal offence which carries an unlimited  fine and/or imprisonment of up to 12 months (or an unlimited fine and up to 5 years’ imprisonment if indicted to the Crown Court). Any vehicles involved in incidents of fly tipping may also be seized.

Tîm Gorfodi Gwastraff Castell-nedd Port Talbot yn arwain y ffordd wrth gosbi pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi erlyn unigolyn yn llwyddiannus am dipio gwastraff wedi’i reoli yn Nhonmawr. Ar ôl cŵyn a oedd yn ymwneud â thir ger yr hen Waith Trin Dŵr Gwastraff yn Nhonmawr, aeth swyddog Gorfodi Gwastraff i’r safle a dod o hyd i ddwy sach LBS llawn gwastraff adeiladu. O ganlyniad i ymchwiliad, bu ymholiadau yn safle busnes yn Nhreforys a oedd wrthi’n cael ei adnewyddu.

Ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2017 yn Llys Ynadon Abertawe, plediodd dyn 51 oed, Mr Gary Locke, o Deras Vivian, Aberafan yn euog i dipio gwastraff yn anghyfreithlon, yn groes i a33 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Gorchmynnwyd iddo dalu dirwy gwerth £1,000, £477 mewn costau a gordal dioddefwr gwerth £100, cyfanswm o £1,577.

Hefyd, cyhoeddodd Stats Cymru ar yr un pryd fod Tîm Gorfodi Castell-nedd Port Talbot wedi arwain y ffordd eto wrth fynd i’r afael â phobl a oedd yn tipio’n anghyfreithlon y llynedd.

Meddai Aelod y Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg, y Cynghorydd Ted Latham, “Mae’r erlyniadau diweddaraf hyn yn anfon neges glir at unrhyw un sy’n ystyried gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon fod gan y cyngor ymagwedd dim goddefgarwch at dipio anghyfreithlon.

“Yn ogystal â bod yn bla ar y dirwedd ac yn gwbl annerbyniol, mae’n ddrud i glirio sbwriel sy’n cael ei waredu’n anghyfreithlon. Gall preswylwyr fod yn sicr y byddwn yn cymryd camau cyfreithlon lle bynnag y bo modd i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon. Rydym yn benderfynol o gadw ein cymunedau’n ddiogel ac yn lân, heb wastraff anghyfreithlon.”

Mae tipio gwastraff yn anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol a gall arwain at ddirwy ddiderfyn a/neu hyd at 12 mis yn y carchar (neu ddirwy ddiderfyn a hyd at 5 mlynedd yn y carchar os cyfeirir yr achos at Lys y Goron). Hefyd, gellir meddiannu unrhyw gerbydau sy’n gysylltiedig ag achosion o dipio’n anghyfreithlon.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle