Cardiff to Host International Conference on Peaceful Coexistence
Three organisations will be hosting a joint conference on peaceful co-existence in December to explore how religious groups can co-operate locally and globally. The Ethical Approaches to Peaceful Coexistence Conference is being hosted by The University of Wales Trinity St David, the Muslim Council of Wales, and the Saudi-based Knowledge Exchange Program. It will bring together academics and practitioners from across Europe and the Middle-East. It will be held in Cardiff on the 5th December 2017.
The keynote speaker is the Grand Mufti Emeritus of Bosnia, Dr Mustafa Ceric, one of the most senior European Muslim scholars, who will be reflecting and sharing his experiences and lessons learned from conflict and genocide in Bosnia and Herzegovina. Other speakers include Dr Edward Kessler OBE, Director of the Woolf Institute for improving relations between religion and society, Catriona Robertson of the Muslim-Christian Forum, Rabbi Monique Mayer from Cardiff and Bristol Progressive communities, and Dr Abdullah Al Lheedan from the Knowledge Exchange Program and author of Tolerance in Islam.
The one-day conference is aimed to identify practical ways in which communities locally and globally can build on shared values. Speaking about the intention behind the conference, Saleem Kidwai, Secretary General of the Muslim Council of Wales, said “society is very polarised at the moment, and all of us have a responsibility to try and bring it together, this is an example of faith groups and academic institutions working together for that”. He continued “Islam in particular is often accused of being responsible for violence, this couldn’t be further from the truth, and this conference will have many Muslim scholars who are in position to speak authoritatively about Islamic teachings”.
Dr Catrin Williams, Reader in Theology and Religious Studies at the University of Wales Trinity Saint David notes that “scholars in Theology and Religious Studies have much to contribute to understanding and addressing many of today’s problems; this conference promises to be an opportunity to do just that”.
The conference will be opened by Lord Dafydd Elis-Thomas, and will be attended by politicians, academics, faith leaders and members of the public.
Saleem Kidwai believes that Wales is the perfect place for the conference. “Wales is leading the way on many issues. The Future Generations Act is exemplary, and the Faith Communities Forum the Welsh Government holds is a model that other countries should look to adopting. It is absolutely perfect for Cardiff to host this conference as a country that is determined to be innovative and radical in creating a fairer society”.
Cynhadledd Ryngwladol ar Gydfodolaeth Heddychlon i’w Chynnal yng Nghaerdydd
Bydd tri sefydliad yn dod at ei gilydd i gynnal cynhadledd ar gydfodoli heddychlon ym mis Rhagfyr er mwyn archwilio sut y gall grwpiau crefyddol gydweithredu’n lleol ac yn fyd-eang. Cynhelir y Gynhadledd ar Agweddau Moesegol o Gydfodolaeth Heddychlon gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, y Cyngor Mwslimaidd Cymru, a’r Knowledge Exchange Program o Saudi. Bydd yn dod ag academyddion ac ymarferwyr o ledled Ewrop a’r Dwyrain Canol ynghyd. Cynhelir y gynhadledd yng Nghaerdydd ar y 5ed o Ragfyr 2017.
Y prif siaradwr fydd y Prif Mwffti Emeritws Bosnia, Dr Mustafa Ceric, un o ysgolheigion Mwslimaidd blaenaf Ewrop. Bydd yn ystyried ac yn rhannu ei brofiadau a’r gwersi a ddysgwyd o’r ymladd a’r hil-laddiad yn Bosnia a Herzegovina. Ymhlith y siaradwyr eraill, bydd Dr Edward Kessler OBE, Cyfarwyddwr y Woolf Institute ar gyfer gwella’r berthynas rhwng crefydd a chymdeithas, Catriona Robertson o’r Muslim-Christian Forum, Rabi Monique Mayer o gymunedau cynyddgar Caerdydd a Bryste, a Dr Abdullah Al Lheedan o’r Knowledge Exchange Program, awdur y gyfrol Tolerance in Islam.
Nod y gynhadledd undydd yw adnabod ffyrdd ymarferol i gymunedau adeiladu ar y gwerthoedd maen nhw’n eu rhannu, yn lleol ac yn fyd-eang. Gan siarad am fwriad y gynhadledd, meddai Saleem Kidwai, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimaidd Cymru, “mae ein cymdeithas wedi’i phegynnu ar hyn o bryd, ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i geisio ei thynnu ynghyd. Mae hon yn enghraifft o grwpiau ffydd a sefydliadau academaidd yn gweithio gyda’i gilydd i’r perwyl hwn.” Dywedodd hefyd, “Mae Islam yn enwedig yn cael ei gyhuddo’n aml o fod yn gyfrifol am drais, ond nid yw hynny’n wir o gwbl, a bydd nifer o ysgolheigion Mwslimaidd yn y gynhadledd hon sydd mewn sefyllfa i siarad yn awdurdodol am ddysgeidiaeth Islamaidd”.
Meddai Dr Catrin Williams, Darllenydd Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, “mae gan ysgolheigion Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol lawer i’w gyfrannu at ddeall a mynd i’r afael â llawer o broblemau ein hoes; mae’r gynhadledd hon yn addo bod yn gyfle i wneud hynny”.
Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn agor y gynhadledd, a bydd gwleidyddion, academyddion, arweinwyr ffydd ac aelodau’r cyhoedd yn ei mynychu.
Cred Saleem Kidwai mai Cymru yw’r lle delfrydol i gynnal y gynhadledd. “Mae Cymru ar flaen y gad ar nifer o faterion. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhagorol, ac mae’r Fforwm Cymunedau Ffydd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru yn fodel y dylai gwledydd eraill ystyried ei fabwysiadu. Mae’n hollol berffaith bod y gynhadledd hon yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, mewn gwlad sydd yn benderfynol o fod yn arloesol ac yn radical wrth greu cymdeithas decach”.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle