PROPOSAL TO ESTABLISH PORT TALBOT’S TALBOT MEMORIAL PARK AS A WORLD WAR ONE ‘CENTENARY FIELD’ APPROVED/ CYNNIG I SEFYDLU PARC COFFA TALBOT, PORT TALBOT FEL ‘CAE CANMLWYDDIANT’ Y RHYFEL BYD CYNTAF WEDI’I GYMERADWYO

0
927
Port Talbot Memorial Park

Neath Port Talbot Councilhave approved a proposal to dedicate its Talbot Memorial Park as a ‘Centenary Field’ under a national initiative to commemorate the First World War.

The initiative is being led by the Fields in Trust movement (formerly the National Playing Fields Association) and the Royal British Legion.

The Centenary Fields programme 2014-18 aims to protect at least one green space in every local authority area across England, Wales, Scotland and Northern Ireland to commemorate the centenary of World War One.

These sites can be War Memorial Parks, Recreational Grounds, Memorial Gardens and parks and recreation grounds that contain war memorials.

Alexandra Park, Penarth, was unveiled by Vale of Glamorgan Council as the first Centenary Field in Wales and other local authorities and landowners are now being invited to dedicate sites in their areas.

The Centenary Field initiative aims to secure recreational spaces in perpetuity to honour the memory of the millions of people who lost their lives in World War One.

Through this programme, landowners across the UK are encouraged to dedicate recreational space as a Centenary Field. The programme will commemorate this significant milestone in our history and create a tangible local legacy that will be valued by communities for generations to come.

It is proposed the park will be dedicated for use in the future as a recreational memorial park, for community events to be held and/or allotments.

 

Notwithstanding the dedication, the council will continue to support and acknowledge the existence of the Friends of Talbot Park group and the use of the grounds by local sports organisations.

 

The authority will also continue to allow public events that may be organised by the council, friends group or other organisations.

 

On completion, the authority will receive a Centenary Fields commemorative plaque to display on site and there will be an opportunity to have an unveiling ceremony to mark the occasion and raise awareness of the initiative.

Talbot Memorial Park is regarded as a well-preserved urban public park (established in 1925) containing a war memorial.

The commemorative character of the park is emphasised by the main gate, which is dedicated to Rupert Price Hallowes, VC (1881-1915).

Hallowes,the son of Doctor Frederick and Mary Hallowes, of Dan-y-Ffynnon, Port Talbot – assistant manager of the Mansel Tinplate Works in Port Talbot and a scout leader in the town before the war- was awarded the Victoria Cross posthumously on November 16, 1915, nearly two months after he died of shrapnel wounds during fighting in Hooge, Belgium.

According to the London Gazette, the official journal of the UK Government, Halloweswas fearless throughout, taking risks to provide intelligence on enemy positions, braving heavy shell fire to bring fresh supply of bombs and standing on an exposed parapet to urge on his men.

The London Gazette continued: “even after he was mortally wounded he continued to cheer those around him and to inspire them with fresh courage.”

Rupert Hallowes was also awarded a Military Cross for “conspicuous gallantry” at another World War One engagement in Belgium.

Deputy Leader of Neath Port Talbot Council and Chair of Friends of Talbot Memorial Park, Councillor Anthony Taylor said: “As we come up to 2018, the centenary of the final year of World War One, it is fitting we secure a recreational space in perpetuity to honour the memory of the millions of people who lost their lives in the First World War.”

“It will serve as a living legacy and tribute to the bravery of those that made the ultimate sacrifice serving their country.”

 

CYNNIG I SEFYDLU PARC COFFA TALBOT, PORT TALBOT FEL ‘CAE CANMLWYDDIANT’ Y RHYFEL BYD CYNTAF WEDI’I GYMERADWYO

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynnig i gyflwyno ei Barc Coffa Talbot fel ‘Cae Canmlwyddiant’ dan fenter genedlaethol i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r fenter yn cael ei harwain gan fudiad Meysydd Chwarae Cymru (Cymdeithas Genedlaethol y Meysydd Chwarae yn flaenorol) a’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Nod rhaglen Caeau Canmlwyddiant 2014-18 yw amddiffyn o leiaf un man gwyrdd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gall y safleoedd hyn fod yn Barciau Coffa’r Rhyfel, tiroedd hamdden, gerddi coffa a pharciau a thiroedd hamdden sy’n cynnwys cofebion rhyfel.

Cyhoeddwyd mai Parc Alexandra, Penarth yw’r Cae Canmlwyddiant cyntaf yng Nghymru gan Gyngor Bro Morgannwg ac mae awdurdodau lleol a pherchnogion tir eraill bellach yn cael eu gwahodd i gyflwyno safleoedd dynodedig yn eu hardaloedd.

“Nod y fenter Caeau Canmlwyddiant yw diogelu lleoedd hamdden am byth er mwyn anrhydeddu’r miliynau o bobl a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Drwy’r rhaglen hon, mae perchenogion tir ar draws y DU yn cael eu hannog i gyflwyno man hamdden fel Cae Canmlwyddiant. Bydd y rhaglen yn coffáu’r garreg filltir bwysig hon yn ein hanes ac yn creu etifeddiaeth gadarn leol a fydd yn cael ei gwerthfawrogi gan gymunedau am genedlaethau i ddod.”

Cynigir y bydd y parc yn cael ei gyflwyno i’w ddefnyddio yn y dyfodol fel parc coffa hamdden ar gyfer cynnal digwyddiadau cymunedol a/neu randiroedd.

 

Er yr ymrwymiad, bydd y cyngor yn parhau i gefnogi a chydnabod bodolaeth grŵp Cyfeillion Parc Talbot a defnydd o’r meysydd gan sefydliadau chwaraeon lleol.

 

Bydd yr awdurdod hefyd yn parhau i ganiatáu i ddigwyddiadau cyhoeddus gael eu trefnu gan y cyngor, grwpiau cyfeillion neu sefydliadau eraill.

 

Ar ôl cwblhau, bydd yr awdurdod yn derbyn plac coffáu Caeau Canmlwyddiant i’w arddangos ar y safle a bydd cyfle i gael seremoni ddadorchuddio er mwyn nodi’r achlysur ac i gynyddu ymwybyddiaeth o’r fenter.

Ystyrir Parc Coffa Talbot yn barc trefol cyhoeddus sy’n cael ei gadw’n dda (a sefydlwyd ym 1925) sy’n cynnwys cofeb rhyfel.

Pwysleisir cymeriad coffaol y parc drwy’r brif gât, sydd wedi’i chyflwyno i Rupert Price Hallowes, VC (1881-1915).

Gwobrwywyd Croes Fictoria i Hallowes, mab Doctor Frederick a Mary Hallowes, Dan-y-Ffynnon, Port Talbot – rheolwyr cynorthwyol Gweithfeydd Tunplat Mansel ym Mhort Talbot ac arweinydd sgowtiaid yn y dref cyn y rhyfel – ar 16 Tachwedd 1915 oddeutu deufis ar ôl iddo farw o anafiadau shrapnel yn ystod yr ymladd yn Hooge, Gwlad Belg.

Yn ôl y London Gazette, dyddlyfr swyddogol Llywodraeth y DU, roedd Hallowes yn ddi-ofn drwyddi draw, yn datrys problemau er mwyn darparu gwybodaeth am elynion, yn herio ymosodiadau trwm iawn er mwyn darparu cyflenwad newydd o fomiau, ac wedi sefyll ar barapet heb ei orchuddio wrth annog ei ddynion yn eu blaenau.

Meddai’r London Gazette,  “Hyd yn oed ar ôl iddo gael ei glwyfo’n farwol, roedd yn parhau i ysgogi’r rhai o’i gwmpas a’u hysbrydoli â dewrder newydd.”

Derbyniodd Rupert Hallowes hefyd Groes Filwrol am “ddewrder amlwg” mewn digwyddiad arall yn y Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngwlad Belg.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chadeirydd Cyfeillion Parc Coffa Talbot, y Cynghorydd Anthony Taylor, “Wrth i 2018 nesáu, canmlwyddiant blwyddyn olaf y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’n addas ein bod yn sicrhau man hamdden am byth er cof am y miliynau o bobl a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.”

“Bydd yn gymynrodd am byth ac yn deyrnged i ddewrder y rheiny a roddodd yr aberth eithaf wrth wasanaethu eu gwlad.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle