Black day for coffee machine fly tipper | Tipio anghyfreithlon ar safleoedd casglu

0
562

Black day for coffee machine fly tipper

 

MORE than 20 damaged coffee makers were illegally dumped at a bring site in Morrisons car park Llanelli following repeated incidents of fly tipping at bring sites enforcement officers found evidence that implicated a woman from the Bryn area of Llanelli costing her a total of £590 in fines and costs.

Samantha Podbury, aged 28, at the time of the offences lived at Brynmorlais, Bryn. She admitted two charges of fly tipping a total of 24 coffee makers and another of not having a waste transfer note. Podbury now lives at Noddfa, Conwyl Elfed.

The court heard Carmarthenshire Count Council enforcement officers faced a puzzling issue when the first batch of 20 coffee makers was found dumped at Morrisons car park alongside waste electrical equipment recycling bins on July 4 this year and within two weeks another four were left in the same location.

The bins provide a way for householders to dispose of waste electrical equipment for free. Signs specifically ask for equipment not to be left around the containers and warn that those offending could incur a fixed penalty or prosecution.

Officers found one of the machines was labelled showing it had originated from Argos, Ammanford. When the manager was seen by an enforcement officer he explained that the particular item had been returned to Bridgewater, Somerset, as damaged goods, and he had the paperwork to prove it.

When challenged as to how often she had dumped goods at Morrisons car park Podbury said: “I might have done it twice, but I honestly can’t recall doing it anymore.”

She confirmed she had no waste transfer notes for the past two years.

County executive board member for environmental enforcement Cllr Philip Hughes said: “I have to commend the diligence of the enforcement team for their thoroughly professional conclusion to this complex investigation.

“We provide waste electrical equipment bins at various sites for householders for small electrical or electronic equipment. But any largescale disposal such at this requires the disposer to possess a waste carriers licence and the commitment to dispose of the equipment appropriately at one of our recycling centres.”

Tipio anghyfreithlon ar safleoedd casglu

 

CAFODD dros 20 o beiriannau coffi difrodedig eu tipio’n anghyfreithlon ar safle casglu ym maes parcio Morrisons, Llanelli. Ar ôl nifer o achosion o dipio anghyfreithlon ar safleoedd casglu, daeth swyddogion gorfodi o hyd i dystiolaeth a ddangosai fod menyw o ardal y Bryn, Llanelli yn gysylltiedig â’r troseddau. Bu rhaid iddi dalu cyfanswm o £590 o ddirwyon a chostau.

Roedd Samantha Podbury, 28 oed, yn byw ym Mrynmorlais, y Bryn, ar adeg y troseddau. Cyfaddefodd ei bod hi wedi tipio’n anghyfreithlon ar ddau achlysur; cyfanswm o 24 peiriant coffi, ac nad oedd Nodyn Trosglwyddo Gwastraff ganddi. Mae Podbury bellach yn byw yn Noddfa, Cynwyl Elfed.

Clywodd y llys fod swyddogion gorfodi Cyngor Sir Caerfyrddin wedi wynebu problem syfrdanol ar 4 Gorffennaf eleni, pan welwyd bod 20 peiriant coffi wedi’u taflu ym maes parcio Morrisons, wrth ochr y biniau ailgylchu gwastraff offer trydan. O fewn pythefnos i hynny, gwelwyd pedwar peiriant arall yn yr un lleoliad.

Mae’r biniau’n darparu ffordd i breswylwyr gael gwared ar wastraff offer trydan am ddim. Mae’r arwyddion yn nodi’n benodol na ddylech adael offer trydan y tu allan i’r cynwysyddion, a bod unrhyw un sy’n anwybyddu’r rhybuddion yn gallu wynebu cosb benodedig neu erlyniad.

Gwelodd y swyddogion label ar un o’r peiriannau a ddangosodd ei fod wedi dod o Argos, Rhydaman. Pan aeth Swyddog Gorfodi i holi rheolwr y siop, esboniodd fod y peiriant wedi cael ei ddychwelyd i Bridgewater, Gwlad-yr-haf, gan ei fod wedi’i ddifrodi. Roedd ganddo’r gwaith papur i brofi hyn.

Pan ofynnwyd iddi pa mor aml yr oedd hi wedi gadael nwyddau ym maes parcio Morrisons, dywedodd Podbury: “Efallai fy mod i wedi wedi gwneud hyn ddwywaith, ond ni allaf gofio’i wneud yn fwy na hynny.”

Cadarnhaodd nad oedd Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff ganddi dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Sir dros Orfodi Materion Amgylcheddol: “Mae’n rhaid i mi ganmol diwydrwydd y tîm gorfodi am gwblhau’r ymchwiliad cymhleth hwn mewn ffordd mor broffesiynol a thrylwyr.

“Rydym yn darparu biniau gwastraff offer trydan ar safleoedd amrywiol i breswylwyr, ar gyfer offer trydan neu electronig bach. Ond mae angen Trwydded Cludo Gwastraff er mwyn gwaredu cymaint o wastraff â hyn, yn ogystal â bod yn barod i waredu’r offer yn briodol mewn un o’n canolfannau ailgylchu.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle