Hywel Dda University Health Board Staff Nurse, Tammy Bowen, is announced Winner of the “Hospital Champion” Award at the Paul Ridd Foundation Awards / Nyrs Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Tammy Bowen, yw Enillydd y Wobr “Hyrwyddwr Ysbyty” yng Ngwobrau Sefydliad Paul Ridd

0
749
Tammy Bowen, winner of the “Hospital Champions” Award at the Paul Ridd Foundation Learning Disability Awards.

Hywel Dda University Health Board are proud to announce that Staff and Learning Disability Link Nurse for critical care, Tammy Bowen, recently won the “Hospital Champions” Award at the Paul Ridd Foundation Learning Disability Awards.

The award recognised Tammy’s relentless efforts to educate and disseminate information about learning disabilities and her caring approach to patients who are in needs of her specialist knowledge and expertise.

Established in 2016, the Paul Ridd Foundation was created to support adults with a learning disability and their families and carers when needing secondary health care. Their aim is to make a difference for people with a learning disability by raising general awareness of the issues they face when accessing good health care.

Tammy, who is based in Glangwili General Hospital, said “I was shocked and surprised to be nominated for the award and even more shocked when I won.  Part of me was in disbelief, but I was also ecstatic and proud to have won the award and hope that the work I have done in regards to learning disabilities, can hopefully help motivate others to achieve similar things”.

Commenting on Tammy and her award Liz Carroll, Head of Nursing, Mental Health and Learning Disabilities said “Tammy is a real credit not only to the organisation but more importantly to those patients and their relatives/carers who will benefit from her sensitive and understanding approach.

“Tammy’s approach in the dissemination of information to colleagues also raises the awareness of others to take into consideration the vulnerability and fear that people will experience when they come into contact with environments that they are unfamiliar with. The learning from and the transferability of Tammy’s approach would be beneficial to a large cross section of patients who may be vulnerable and distressed when they access secondary health care services.”

_______________________________________________

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gyhoeddi bod y Nyrs Gyswllt Staff ac Anableddau Dysgu ar gyfer Gofal Critigol, Tammy Bowen, wedi ennill y wobr “Hyrwyddwyr Ysbyty” yng Ngwobrau Anableddau Dysgu Sefydliad Paul Ridd yn ddiweddar.

Roedd y wobr yn cydnabod ymdrechion diflino Tammy i addysgu a lledaenu gwybodaeth am anableddau dysgu, yn ogystal â’i hagwedd ofalgar at gleifion y mae arnynt angen ei gwybodaeth arbenigol.

Crëwyd Sefydliad Paul Ridd, a sefydlwyd yn 2016, i gefnogi oedolion ag anabledd dysgu, yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr, pan fo angen gofal iechyd eilaidd. Ei nod yw gwneud gwahaniaeth i bobl ag anabledd dysgu trwy godi ymwybyddiaeth gyffredinol o’r materion y maent yn eu hwynebu o ran cael gofal iechyd da.

Dywedodd Tammy, sy’n gweithio yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, “Cefais sioc a syndod pan glywais fy mod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr, a hyd yn oed mwy o sioc pan enillais.  Roedd rhan ohonof yn methu’n lân â chredu, ond roeddwn hefyd wrth fy modd ac yn falch o ennill y wobr, a gobeithio y gall y gwaith rydw i wedi’i wneud o ran anableddau dysgu helpu i ysgogi eraill i gyflawni pethau tebyg”.

Wrth sôn am Tammy a’i gwobr, dywedodd Liz Carroll, Pennaeth Nyrsio, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu “Mae Tammy yn glod gwirioneddol nid yn unig i’r sefydliad ond, yn bwysicach, i’r cleifion hynny a’u perthnasau/gofalwyr a fydd yn elwa o’i hagwedd sensitif a’i dealltwriaeth.

“Trwy ledaenu gwybodaeth i gyd-weithwyr, mae Tammy hefyd yn codi ymwybyddiaeth pobl eraill, er mwyn iddynt ystyried y bregusrwydd a’r ofn y bydd pobl yn eu teimlo pan fyddant yn dod i gysylltiad ag amgylcheddau anghyfarwydd. Byddai’r hyn y gallwn ei ddysgu o ffordd Tammy o weithio yn fuddiol i groestoriad mawr o gleifion a allai fod yn teimlo’n fregus ac yn ofidus wrth gael gofal iechyd eilaidd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle