Concern about cavity wall insulation cold callers

0
708

Concern about cavity wall insulation cold callers

Carmarthenshire’s Trading Standards team is urging people to think twice before providing their details to cold callers after dealing with a spate of local complaints relating to cavity wall insulation.

The team has spoken to several people concerned about doorstep callers claiming to be able to assist with claims associated with incorrectly installed cavity wall insulation or disrepair.

Householders are being encouraged to sign up for a claim, and provide personal details.

The Trading Standards team is now re-issuing advice to help protect the public, and is urging anyone with information or concerns to contact them immediately on 03454 04 05 06.

The advice includes:

  • If in doubt, keep them out
  • Always ask for an identity card and look up the organisation to check the salesperson’s identity is correct
  • Don’t get taken in by sales banter and high pressure selling techniques, or sign on the spot for work to be undertaken
  • Think very carefully before you agree to a trader starting any work straight away – talk to someone you trust for a second opinion
  • Always shop around for the best price
  • Read the small print and double check the facts
  • Avoid handing over any money before work is started
  • Trust your instincts – if it sounds too good to be true, it probably is!
  • It is okay to say no. Remember, it’s your doorstep and your decision. If you feel pressured for any reason, ask the person to leave
  • Finally – report any suspicious activity

Carmarthenshire Trading Standards and Dyfed Powys Police work together to protect people from cold callers, particularly on schemes such as the No Cold Calling Zones.

The council’s executive board member for public protection, Cllr Philip Hughes said: “These claims are potentially misleading and any householders experiencing problems they believe to be attributed to their cavity wall insulation should in the first instance contact the company responsible for the installation or guarantee.”

Anyone who has received a visit from representatives of such businesses is advised to contact Trading Standards also via 03454 04 05 06.

 

Gwerthwyr inswleiddio waliau yn galw heb wahoddiad

Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog pobl i feddwl eilwaith cyn rhoi eu manylion i alwyr digroeso ar ôl iddynt ddelio â llu o gŵynion yn lleol ynglŷn ag inswleiddio waliau ceudod.

Mae’r tîm wedi siarad ag amryw o bobl sy’n bryderus ynghylch pobl sy’n galw ar stepen y drws yn honni eu bod yn gallu helpu â hawliadau sy’n ymwneud ag achosion o inswleiddio waliau ceudod yn anghywir neu ddirywiad yn y gwaith inswleiddio.

Caiff preswylwyr eu hannog i gofrestru am hawliad ac i roi manylion personol.

Mae’r tîm Safonau Masnach bellach yn ailgyhoeddi cyngor i helpu i amddiffyn y cyhoedd, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon i gysylltu â nhw ar unwaith ar 03454 04 05 06.

Mae’r cyngor yn cynnwys:

  • Cadwch y tacle allan o’ch cartre
  • Gofynnwch bob tro am garden adnabod a chwiliwch am fanylion y sefydliad i gadarnhau pwy yw’r gwerthwr
  • Peidiwch â chael eich twyllo gan y cleber gwerthu a thechnegau gwerthu sy’n rhoi pwysau arnoch, a pheidiwch ag arwyddo yn y fan a’r lle i’r gwaith gael ei wneud
  • Meddyliwch yn ofalus iawn cyn ichi gytuno i fasnachwr ddechrau unrhyw waith ar unwaith – siaradwch â rhywun y gallwch ymddiried ynddo i gael barn arall
  • Chwiliwch bob amser am y pris gorau
  • Darllenwch y print mân a gwirio’r ffeithiau
  • Peidiwch â rhoi unrhyw arian cyn i’r gwaith ddechrau
  • Dilynwch eich greddf – os yw’n swnio’n rhy dda i’w gredu, da chi peidiwch â’i gredu!
  • Mae’n iawn dweud ‘na’. Cofiwch, chi sy’n byw yno a chi biau’r penderfyniad. Os ydych yn teimlo dan bwysau am unrhyw reswm, gofynnwch i’r unigolyn adael
  • Yn olaf – rhowch wybod am unrhyw weithgaredd amheus

Mae tîm Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin a Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio gyda’i gilydd i amddiffyn pobl rhag galwyr digroeso, yn enwedig trwy gynlluniau megis Parthau Dim Galw Heb Wahoddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae’r hawliadau hyn yn gamarweiniol o bosibl a dylai unrhyw breswylwyr sy’n cael problemau sydd, yn eu barn nhw, yn ymwneud ag inswleiddio waliau ceudod gysylltu â’r cwmni sy’n gyfrifol am y gwaith gosod neu’r warant yn gyntaf.”

Cynghorir unrhyw un sydd wedi cael ymweliad gan gynrychiolwyr o fusnesau o’r fath i gysylltu â Safonau Masnach hefyd drwy ffonio 03454 04 05 06.

 

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle