20 year old man given a suspended jail term for flytipping/

0
794

20 year old man given a suspended jail term for flytipping

A 20-year-old man from Neath has been given a suspended jail term and ordered to pay costs and compensation of more than £2,000 after admitting fly tipping in places including the car parks of the Aberdulais Falls Visitors Centre, Jersey Park and a plumbing business in Skewen.

Jack Nicholas John Cole of Wesley Court, St Johns Terrace, Neath Abbey, used three different aliases – “John Bill”, “Jack Brazil” and “Jack Sales” – as he charged householders cash toremove items for them including a chest of drawers, household waste, paint and old clothes.

At Swansea Magistrates Court this month he pleaded guilty to depositing controlled waste at Sidings Terrace, Skewen,on land near Earlswood Golf Club,  Jersey Marine, in the car park of the Aberdulais Fallsvisitors centre, , and at the Mill Stream car park, Ynysmaerdy Road, Briton Ferry,  between July and November 2016.

The court heard that regarding the Sidings Terrace offence, a business with offices at Sidings Terrace, Skewen, called Neath Port Talbot Council to say waste had been deposited in the car park of Plumbwise. Not only did the waste create an eyesore, but it also presented an obstruction.  Furthermore, it subsequentlycost Plumbwise £180 to clear the waste.

The Waste Enforcement Officer who investigated the illegal deposit, which included a chest of drawers and black bags, tracedthe waste to a property in Llansamlet, Swansea, where the householder said, she had engaged with a “John Bill” via Facebook to dispose of the waste, paying him £25.

It was discovered that the man calling himself John Bill was driving avan which had been bought by a “Jack Brazil”, and it was later discovered that this was another alias Cole was using.

The court also heard, that the same Waste Enforcement Officer was on patrol in Earlswood, Jersey Marine, when he found a large deposit of waste located near the golf course.

The waste consisted of painting anddecorating items (paint, dust cloths etc.) along withgeneral household waste. The waste was traced to a house in Mumbles, Swansea, where the householder had arranged viaFacebookfor the defendant (who was using the alias John Bill) to pay £40 to have the waste removed.

Neath Port Talbot Council also received a complaint about a deposit of waste in the car park of the Aberdulais Falls Visitor Centre.  Later that day there was a further complaint about waste being left at the Mill Stream Car Park, Jersey Park on Ynysmaerdy Road, Briton Ferry.

The waste at both sites was traced to an address in Seven Sisters where the householder said she had arranged with a “Jack Sales” to pay £50 for removal of the waste.

After admitting the four offences (which fall under the Environmental Protection Act 1990 s33) the defendant received a suspended 20 week prison term, was ordered to pay compensation and also the Council’s costs amounting to £1,905.He was also ordered to undertake 15 rehabilitative sessions  in conjunction with the probation service.

Cyfnod gohiriedig yn y carchar am dipio’n anghyfreithlon i ddyn 20 mlwydd oed

Cyflwynwyd cyfnod gohiriedig yn y carchar ynghyd â gorchymyn i dalu costau ac iawndal gwerth dros £2,000 i ddyn 20 mlwydd oed o Gastell-nedd ar ôl iddo gyfaddef i dipio’n anghyfreithlon mewn lleoedd megis meysydd parcio Canolfan Ymwelwyr Rhaeadr Aberdulais, Parc Jersey a busnes plymio yn Sgiwen.

Defnyddiodd Jack Nicholas John Cole, sy’n byw yn Wesley Court, Teras Sant Ioan, Mynachlog Nedd, dri enw gwahanol gan gynnwys “John Bill”, “Jack Brazil” a “Jack Sales” wrth godi tâl ar ddeiliaid tai i gael gwared ar eitemau iddynt megis cist ddroriau, gwastraff cartref, paent a hen ddillad.

Yn Llys Ynadon Abertawe’r mis hwn, plediodd yn euog i dipio sbwriel a reolir yn Sidings Terrace, Sgiwen, ar dir ger Clwb Golff Earlswood yn Jersey Marine, ym maes parcio canolfan ymwelwyr Rhaeadr Aberdulais ac ym maes parcio Pant-y-Blawd, Heol Ynysmaerdy, Llansawel rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2016.

Mewn perthynas â’r tramgwydd yn Sidings Terrace, clywodd y llys fod busnes â swyddfeydd yn Sidings Terrace, Sgiwen, wedi ffonio Cyngor Castell-nedd Port Talbot i roi gwybod am wastraff a oedd wedi cael ei adael ym maes parcio Plumbwise. Yn ogystal ag edrych yn hyll, roedd hefyd yn peri rhwystr.  Hefyd, roedd yn rhaid i Plumbwise dalu £180 i gael gwared ar y gwastraff.

Gwnaeth y Swyddog Gorfodi Gwastraff a oedd yn ymchwilio i’r gwastraff anghyfreithlon, a oedd yn cynnwys cist ddroriau a sachau du, olrhain y gwastraff i eiddo yn Llansamlet, Abertawe, lle dywedodd ddeiliad y tŷ ei bod wedi siarad â “John Bill” ar Facebook am gael gwared ar y gwastraff, gan dalu £25 iddo.

Darganfuwyd bod y dyn a oedd yn cyfeirio at ei hun fel John Bill yn gyrru fan a brynwyd gan ddyn o’r enw “Jack Brazil”, a darganfuwyd yn y pen draw mai enw arall oedd hyn yr oedd Cole yn ei ddefnyddio.

Clywodd y llys hefyd fod yr un Swyddog Gorfodi Gwastraff ar batrôl yn Earlswood, Jersey Marine, pan ddaeth o hyd i wastraff anghyfreithlon ger y cwrs golff.

Roedd y gwastraff yn cynnwys eitemau paentio ac addurno (paent, llieiniau llwch etc.) ynghyd â gwastraff cartref cyffredinol. Cafodd y gwastraff ei olrhain i dŷ yn y Mwmbwls, Abertawe, lle’r oedd deiliaid y tŷ wedi trefnu, trwy ddefnyddio Facebook, i dalu £40 i’r diffynnydd (a oedd yn defnyddio’r enw John Bill) i gael gwared ar y gwastraff.

Derbyniodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot gŵyn hefyd am wastraff ym maes parcio Canolfan Ymwelwyr Rhaeadr Aberdulais.  Yn hwyrach y diwrnod hwnnw cafwyd cwyn arall am wastraff ym maes parcio Pant-y-Blawd, Parc Jersey, ar Heol Ynysmaerdy, Llansawel.

Cafodd y gwastraff ar y ddau safle ei olrhain i gyfeiriad ym Mlaendulais lle dywedodd y deiliaid tŷ ei bod wedi trefnu i dalu £50 i ddyn o’r enw “Jack Sales” er mwyn iddo gael gwared ar y gwastraff.

Ar ôl cyfaddef i’r pedair trosedd (sy’n berthnasol i Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a33) penderfynwyd rhoi cyfnod gohiriedig o 20 wythnos yn y carchar i’r diffynnydd, yn ogystal â gorchymyn i dalu iawndal a chostau’r cyngor gwerth £1,905.Hefyd cyflwynwyd gorchymyn iddo gwblhau 15 o sesiynau adfer gyda’r gwasanaeth prawf.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle