Woman filmed leaving dog mess behind/Menyw yn cael ei ffilmio yn peidio â chodi baw ci

0
773

Woman filmed leaving dog mess behind

Do you know this woman? Carmarthenshire County Council’s enforcement team are trying to track her down for not picking up her dog’s poo on a town centre pavement.

The woman was captured on CCTV walking along with her dog on John Street in Carmarthen on the morning of Saturday, December 9. The video clip shows the woman waiting for her dog to defecate and making no attempt to clear it up before walking off leaving the mess behind.

It is an offence not to clear up after your dog.

If you fail to comply with the Public Spaces Protection Order (PSPO) you are committing a criminal offence and can be issued with a fixed penalty notice of £100, reduced to £50 if paid within 10 days. The maximum fine if prosecuted in the magistrates court is £1,000.

The council’s executive board member for responsible for enforcement, Cllr Philip Hughes said: “We have a zero tolerance for dog fouling in Carmarthenshire. The majority of dog owners act responsibly by cleaning up after their pets in public places, however there is a minority who have complete disregard of the law and it’s completely unacceptable. Not only is it an unpleasant smell and the mess created when it gets on pram wheels, wheelchairs, shoes and clothing, there is a potential health risk associated with dog faeces. We will continue to use our powers to fine anyone who is caught in person or by CCTV not cleaning up after their dog. Be warned we will be watching!”

If you think you know this woman then please contact 01267 234567 during office hours or email CEContactCentre@carmarthenshire.gov.uk

If you have got evidence of someone failing to clean up after their dog then let us know by emailing CEContactCentre@carmarthenshire.gov.uk

For more information on dog fouling, visit our website http://www.carmarthenshire.gov.wales/home/residents/environmental-health/dog-orders.aspx#.Wjef_elpxPY

 

Menyw yn cael ei ffilmio yn peidio â chodi baw ci

A ydych yn adnabod y fenyw hon? Mae tîm gorfodi Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio dod o hyd i’r fenyw hon ar ôl iddi beidio â chodi baw ei chi oddi ar balmant yng nghanol y dref.

Cafodd y fenyw ei ffilmio ar deledu cylch cyfyng yn mynd â’i chi am dro ar hyd Heol Ioan yng Nghaerfyrddin fore Sadwrn, 9 Rhagfyr. Mae’r clip fideo yn dangos y fenyw yn aros i’w chi faeddu a pheidio â gwneud unrhyw ymdrech i godi’r baw cyn cerdded i ffwrdd a’i adael.

Mae’n drosedd os nad yw rhywun yn codi baw ei gi.

Os ydych yn methu â chydymffurfio a’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, rydych yn cyflawni trosedd a gallwch gael hysbysiad cosb benodedig o £100 ond os telir y ddirwy o fewn 10 diwrnod, caiff y swm ei leihau i £50. £1,000 yw’r ddirwy fwyaf os cewch eich erlyn yn y llys ynadon.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Orfodaeth: “Mae gennym bolisi ‘dim goddefgarwch’ yn Sir Gaerfyrddin o ran baw cŵn. Mae’r rhan fwyaf o berchenogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol drwy godi baw eu hanifeiliaid anwes mewn mannau cyhoeddus ond mae nifer fach iawn sy’n diystyru’r gyfraith yn llwyr ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Yn ogystal â’r arogl annymunol a’r llanast a achosir pan fyddwch yn cael baw ci ar olwyn pram, cadair olwyn, esgid neu ddillad, mae yna risg i iechyd yn gysylltiedig â baw cŵn. Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein pwerau i roi dirwy i unrhyw un sy’n cael ei ddal yn bersonol neu gan deledu cylch cyfyng yn peidio â chodi baw ei gi. Gair i gall – byddwn yn gwylio!”

Os ydych yn credu eich bod yn adnabod y fenyw hon ffoniwch 01267 234567 yn ystod oriau swyddfa neu anfon e-bost at galw@sirgar.gov.uk

Os oes gennych dystiolaeth o rywun yn methu â chodi baw ei gi, rhowch wybod inni drwy anfon e-bost at galw@sirgar.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am faw cŵn, ewch i’n gwefan http://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/preswylwyr/iechyd-yr-amgylchedd/gorchmynion-cŵn.aspx#.WjjohP54hMs

 

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle