The Homecare Services are preparing for Christmas/

0
848

The Homecare Services are preparing for Christmas

 

Neath Port Talbot Council’s Homecare Service and Homecare Rapid Response team are geared up to support people to spend Christmas in their own homes.

 

CouncillorPeter Richards, Cabinet Member for Adult Social Services and Health said:

 

“Most people would prefer to spend the festive season in their own homes. Staff in ourHomecare Rapid Response team and our regular Homecare Service help many people to do this, andthe care they delivery doesn’t stop for Christmas holidays.

 

“Of course there are many other people for whom Christmas is just another working day, both within the Council and in other vital sectors. Staff working in Health, the emergency services, charitable organisations and other jobs will be carrying on as usual over Christmas for the good of others.”

 

Julie Duggan Operational Manager – Homecare said:

 

The winter months are always a busy time for the health and social care sector, as hospitals work hard to get people home as soon as they are well, and GP’s do their utmost to prevent people from being admitted to hospital.

 

We are working closely with our Health Board colleagues to try and ensure that people are not in hospital unnecessarily.

 

Emma Evans, member of the Homecare Rapid Response Team said:

 

“The job has its challenges, but it is also very rewarding, especially at this time of year when you are making calls to people who, without the support of the team, would have to spend Christmas in hospital.”

Mae’r Gwasanaethau Gofal Cartref yn paratoi ar gyfer y Nadolig

 

Mae Gwasanaeth Gofal Cartref Castell-nedd Port Talbot a’r Tîm Ymateb Cyflym Gofal Cartref wedi paratoi i gefnogi pobl i dreulio’r Nadolig yn eu cartrefi eu hunain.

 

Meddai’r Cynghorydd Peter Richards, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd,

 

“Byddai’n well gan y rhan fwyaf o bobl dreulio’r Nadolig yn eu cartrefi eu hunain. Mae staff yn ein Tîm Ymateb Cyflym Gofal Cartref a’n Gwasanaeth Gofal Cartref arferol wedi helpu llawer o bobl i wneud hyn, ac nid yw’r gofal maent yn ei roi yn cymryd seibiant dros y Nadolig.

 

“Wrth reswm, i lawer o bobl, mae Dydd Nadolig yn ddiwrnod gweithio arferol, yn y cyngor ac mewn sectorau hanfodol eraill. Bydd staff ym maes iechyd, y gwasanaethau brys, sefydliadau elusennol a swyddi eraill wrthi’n gweithio’n ôl yr arfer dros y Nadolig er lles eraill.”

 

Meddai Julie Duggan, Rheolwr Gweithredol Gofal Cartref,

 

Mae misoedd y gaeaf bob amser yn amser prysur i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, wrth i ysbytai weithio’n galed i ryddhau pobl cyn gynted ag y byddant yn ddigon iach i adael, ac mae meddygon teulu’n gwneud eu gorau glas i atal pobl rhag cael eu hanfon i’r ysbyty.

 

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr o’r Bwrdd Iechyd i geisio sicrhau nad yw pobl yn yr ysbyty’n ddiangen.

 

Meddai Emma Evans, aelod o Dîm Ymateb Cyflym Gofal Cartref,

 

“Mae’r swydd yn gallu bod yn heriol, ond mae’n rhoi boddhad mawr hefyd, yn enwedig yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn pan fyddwch yn galw heibio i weld pobl a fyddai’n gorfod treulio’r Nadolig yn yr ysbyty heb gefnogaeth y tîm.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle