The Wales Pension Partnership is the first LGPS investment pool to appoint a pool operator
THE Wales Pension Partnership (WPP) today announces the appointment of Link Fund Solutions Ltd (Link) to establish and run a collective investment vehicle for the sole use of the Local Government Pension Scheme (LGPS) funds in Wales.
The appointment of Link as the FCA authorised operator follows a rigorous procurement process run by the WPP and its advisors, Hymans Robertson and Burges Salmon. This will enable the pooling of circa £15bn of assets across a range of asset classes. The passive mandates of all 8 LGPS funds in Wales are already jointly invested, delivering estimated fee savings of over £2m per annum on assets in excess of £3bn. The appointment of Link represents another key milestone in the pooling process, working towards the Westminster Government’s April 2018 target date.
Link will establish and run an Authorised Contractual Scheme (a tax efficient UK collective investment vehicle) on behalf of the WPP. The ACS will have sub-funds in a range of asset classes that will meet the needs of the investing authorities, enabling them to execute their differing asset allocation strategies. With the support of Russell Investments, and in consultation with the eight individual local authority funds, Link will begin the process of appointing a number of investment manager firms, while the LGPS funds will retain full control over strategic asset allocation decisions. By using fewer investment manager firms with larger mandates, it is expected that the pool will deliver fee savings, one of the primary aims of Government policy.
The WPP’s Joint Governance Committee was established earlier in 2017 and is responsible for oversight of the pool’s operator, Link, and the services it delivers to the LGPS funds in Wales.
Councillor Stephen Churchman, Chairman of the Joint Governance Committee: “After a rigorous selection process, we are delighted to announce the appointment of Link as the operator company for the LGPS investment pool for Wales. The LGPS administering authorities in Wales have a long and successful history of collaboration. We are on track to have the pool operational in early 2018 delivering further investment manager fee savings that will benefit all of the LGPS funds in Wales.”
Carmarthenshire County Council acts as Host Authority, liaising day to day with the operator, Link, on behalf of all of the LGPS funds in Wales.
Chris Moore, Director of Corporate Services at Carmarthenshire County Council (Host Authority for the WPP): “The appointment of Link is a significant milestone in the establishment of a £15bn investment pool for the LGPS funds in Wales. We look forward to working with Link to deliver the benefits of investment pooling for the LGPS in Wales.”
The Wales Pension Partnership (WPP) comprises of the following LGPS funds: Cardiff and Vale of Glamorgan, City and County of Swansea, Clwyd, Dyfed, Greater Gwent (Torfaen), Gwynedd, Powys and Rhondda Cynon Taf.
Partneriaeth Pensiwn Cymru yw cronfa fuddsoddi gyntaf y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i benodi gweithredwr cronfa
MAE Partneriaeth Pensiwn Cymru heddiw yn cyhoeddi penodiad Link Fund Solutions Ltd (Link) i sefydlu a chynnal cyfrwng buddsoddi cyfunol at ddefnydd cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn unig.
Penodwyd Link yn weithredwr awdurdodedig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn dilyn proses gaffael drylwyr gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a’i hymgynghorwyr, Hymans Robertson a Burges Salmon. Bydd hyn yn galluogi cyfuno tua £15 biliwn o asedau ar draws ystod o ddosbarthiadau ased. Mae mandadau goddefol pob un o 8 cronfa’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru eisoes wedi’u buddsoddi ar y cyd, gan roi bod i arbedion ffi amcangyfrifedig o fwy na £2 filiwn y flwyddyn ar asedau o fwy na £3 biliwn. Mae penodiad Link yn garreg filltir arall yn y broses gyfuno, gan weithio tuag at ddyddiad targed y Llywodraeth Westminster ym mis Ebrill 2018.
Bydd Link yn sefydlu ac yn cynnal Cynllun Contractiol Awdurdodedig (cyfrwng buddsoddi cyfunol treth-effeithlon yn y DU) ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Bydd gan y Cynllun Contractiol Awdurdodedig is-gronfeydd mewn amryw o ddosbarthiadau ased a fydd yn diwallu anghenion yr awdurdodau buddsoddi, gan eu galluogi i roi eu gwahanol strategaethau dyrannu asedau ar waith. Gyda chymorth Russell Investments ac mewn ymgynghoriad â’r wyth cronfa awdurdod lleol unigol,
bydd Link yn dechrau’r broses o benodi gwmnïau rheolwyr buddsoddi tra bydd cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cadw rheolaeth lawn dros benderfyniadau dyrannu asedau strategol. Drwy ddefnyddio llai o gwmnïau rheolwr buddsoddi â mandadau mwy, disgwylir y bydd y gronfa’n rhoi bod i arbedion ffi, un o brif nodau polisi’r Llywodraeth.
Cafodd Pwyllgor Cyd-lywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ei sefydlu’n gynharach yn 2017 ac mae’n gyfrifol am oruchwylio gweithredwr y gronfa, Link, a’r gwasanaethau mae’n eu darparu i gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Y Cynghorydd Stephen Churchman, Cadeirydd y Pwyllgor Cyd-lywodraethu: “Ar ôl proses ddethol drwyadl, rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Link fel y gweithredwr ar gyfer cronfa fuddsoddi Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer Cymru. Mae gan awdurdodau gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru hanes hir a llwyddiannus o gydweithredu. Rydym ar y trywydd iawn i gael y gronfa’n weithredol yn gynnar yn 2018, gan ddarparu arbedion ffi pellach o ran rheolwr buddsoddi, a fydd o fudd i bob cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.”
Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r Awdurdod Cynnal, gan gysylltu o ddydd i ddydd â’r gweithredwr, Link, ar ran holl gronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru): “Mae penodi Link yn garreg filltir arwyddocaol o ran sefydlu cronfa fuddsoddi £15 biliwn ar gyfer cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Link i sicrhau bod y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn elwa ar gyfuno buddsoddiadau.”
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cynnwys y cronfeydd canlynol: Caerdydd a Bro Morgannwg, Dinas a Sir Abertawe, Clwyd, Dyfed, Gwent Fwyaf (Torfaen), Gwynedd, Powys, a Rhondda Cynon Taf.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle