Ydych chi’n ystyried gwneud cais am gyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddi cymeradwy Cyswllt Ffermio? Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer 2018 yn agor cyn bo hir. / Considering applying for funding for approved Farming Connect

0
676

Considering applying for funding for approved Farming Connect training courses?  First online application window for 2018 opens soon

 

If you want your farm business to perform at its best, is this the right time to invest time in training and personal development skills? Would your business benefit if you took some time out to find out the current best practice on topics ranging from shearing and lambing techniques to First Aid and Health & Safety? It’s the best time of year to prioritise all of these!

Are you keen to streamline or improve systems for the management and financial side of your business?Do you think training could help you or a member of your family work quicker, more efficiently, more profitably?

If you don’t know the answers to some of these questions, and you are registered with Farming Connect, you may want to consider completing a Farming Connect online ‘personal development plan’ (PDP) which will help you identify current strengths or any gaps in your knowledge. Armed with a PDP, you can set out your training goals and update the document online as you achieve each milestone. You will also know what training to apply for!

The first of three funding application windows available this year will open on Monday 5 February until Friday 2 March 2018. The next opportunity to apply for funding will be available from Monday 4 June to Friday, 29 June and this year’s third and final window will be available from Monday, 1 October to Friday, 26 October 2018.

The training element of Farming Connect’s Lifelong Learning and Development programme is delivered by Lantra Wales. Since 2015, more than 2,500 individuals have undertaken short, accredited training courses funded by up to 80%, making it an attractive and beneficial proposition for many businesses and their workers.

Director of Lantra Wales, Kevin Thomas, says the programme is already transforming both the personal and business skills of many farmers and foresters in Wales. Mr Thomas says it is particularly encouraging that there has been a steady year-on-year increase in the number of applications for business development training. He emphasised that application forms for funding can only be submitted online and said that there was a simple process to go through first.

Anyone planning to apply for funding for completing a machinery and equipment use related course will need to complete Farming Connect’s free online Health and Safety course first.

A list of all Farming Connect accredited training courses together with a list of approved training providers; information on Farming Connect’s range of fully funded e-learning courses, guidance on completing a Personal Development Plan and the funding application form are all available on the Farming Connect website.

If you want any further information about Farming Connect training, services and events which could benefit your business, contact your local development officer who will provide any support and guidance you might require. You will find their contact details at  www.gov.wales/farmingconnect

Ydych chi’n ystyried gwneud cais am gyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddi cymeradwy Cyswllt Ffermio? Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer 2018 yn agor cyn bo hir.

 

Os ydych chi eisiau i’ch busnes fferm berfformio ar ei orau, ai nawr yw’r amser i ganolbwyntio ar hyfforddi a sgiliau datblygu personol? A fydd cymryd amser i ganfod yr arfer gorau ar amrywiaeth o bynciau, o dechnegau ŵyna a chneifio i Gymorth Cyntaf ac Iechyd a Diogelwch yn fuddiol i’ch busnes? Dyma adeg gorau’r flwyddyn i flaenoriaethu’r rhain i gyd! Ydych chi’n awyddus i gyflymu a gwella systemau ar gyfer agwedd ariannol a rheolaeth y busnes? Ydych chi’n meddwl y byddai hyfforddiant yn eich helpu chi neu aelod o’ch teulu i weithio yn gyflymach, yn fwy effeithlon ac yn fwy proffidiol?

Os nad ydych chi’n gwybod yr ateb i rai o’r cwestiynau hyn a’ch bod chi wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ystyriwch gwblhau ‘cynllun datblygu personol’ (PDP) ar-lein. Bydd y PDP yn eich helpu chi i ganfod eich cryfderau neu unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth. Gallwch chi osod targedau hyfforddiant i chi eich hun gyda chymorth y PDP ac yna diweddaru’r ddogfen ar-lein wrth i chi gyrraedd pob targed. Byddwch chi hefyd yn gwybod pa hyfforddiant i ymgeisio amdano.

Mae’r cyfnod ymgeisio cyntaf o dri sydd ar gael eleni yn dechrau ar ddydd Llun 5 Chwefror tan ddydd Gwener 2 Mawrth 2018. Bydd y cyfle nesaf i ymgeisio am gyllid yn dechrau arddydd Llun 4 Mehefin tan ddydd Gwener 29 Mehefin a bydd y trydydd cyfnod, a’r un diwethaf,  yn dechrau ar ddydd Llun 1 Hydref tan ddydd Gwener 26 Hydref 2018.

Mae elfen hyfforddiant y Rhaglen Dysgu a Datblygu Gydol Oes Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Lantra Cymru. Ers 2015, mae dros 2,500 o unigolion wedi cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi achrededig byr sydd wedi cael eu hariannu hyd at 80%. Mae hyn yn gwneud y cwrs yn gynnig atyniadol a manteisiol i nifer o fusnesau a’u gweithwyr.

Mae Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, yn dweud bod y rhaglen eisoes yn trawsnewid sgiliau busnes a phersonol nifer o ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru. Mae Mr Thomas yn dweud ei fod yn galonogol bod nifer y ceisiadau ar gyfer hyfforddiant datblygu busnes wedi cynyddu bob blwyddyn. Pwysleisiodd hefyd mai ar lein yn unig y mae modd cyflwyno ffurflenni cais am gyllid a bod yna broses syml i’w gwblhau yn gyntaf.

Bydd unrhyw un sy’n gwneud cais am gyllid ar gyfer cwblhau cwrs sy’n ymwneud â defnyddio peirianwaith ac offer angen cwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch ar-lein yn gyntaf, sydd am ddim gan Cyswllt Ffermio.

Mae rhestr o holl gyrsiau hyfforddi achrededig Cyswllt Ffermio ynghyd â rhestr o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy; gwybodaeth am ystod o gyrsiau e-ddysgu Cyswllt Ffermio sydd wedi cael eu hariannu’n llawn; arweiniad ar sut i gwblhau Cynllun Datblygu Personol a’r ffurflen gais am gyllid i gyd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.

Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol am fwy o wybodaeth am hyfforddiant, gwasanaethau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio a allai fod o fudd i’ch cwmni. Bydd y Swyddog Datblygu yn medru rhoi cefnogaeth ac arweiniad ar eich cyfer. Mae’r manylion cyswllt yn www.llyw.cymru/cyswlltffermio.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle