Carmarthenshire throws spotlight on culture in 2018 | Sir Gaerfyrddin yn rhoi sylw i ddiwylliant yn 2018

0
726

Carmarthenshire throws spotlight on culture in 2018

THE spotlight is being thrown on culture in Carmarthenshire with several awards and initiatives launching during 2018.

Carmarthenshire County Council has just announced it will host its first ever celebration of culture awards later this spring.

Plans are also gathering pace for a programme of events in Ammanford and Llansteffan, which have been named Cultural Town and Cultural Village, respectively, for the year.

Meanwhile, Llanelli is getting ready to host the Celtic Media Awards in May.

Cllr Peter Hughes Griffiths, executive board member for culture, sport and tourism, said: “We have an exciting year of activities ahead to showcase all that Carmarthenshire has to offer with a wide range of cultural activities that will appeal to all.

“It’s wonderful to see communities getting together to pull together events that will celebrate our heritage and recognise the huge talent we have on our doorstep.”

Communities in Ammanford and Llansteffan are taking the lead on planning events with several ideas already in the pipeline including schools, sporting groups, businesses and food producers.

In Ammanford, Menter Iaith Bro Dinefwr are taking the lead with a launch event at the Miner’s Theatre on January 19 with an evening of exhibitions, music and dance, which will be featured live on S4C’s nightly programme HENO.

Llansteffan follows a day later when it launches its Cultural Village project with an evening of entertainment. A packed public meeting held recently, chaired by county councillor Carys Jones, gathered lots of public support.

Further information about events will be publicised shortly.

Sir Gaerfyrddin yn rhoi sylw i ddiwylliant yn 2018

MAE Sir Gaerfyrddin yn hoelio sylw ar ddiwylliant yn ystod 2018 ac mae nifer o wobrau a mentrau’n cael eu lansio.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin newydd gyhoeddi y bydd yn cynnal ei Wobrau Dathlu Diwylliant cyntaf oll yn ddiweddarach yn y gwanwyn.

Mae’r paratoadau’n prysuro hefyd ar gyfer rhaglen o ddigwyddiadau yn Rhydaman a Llansteffan, sydd wedi cael eu henwi’n Dref Ddiwylliannol a Phentref Diwylliannol am y flwyddyn.

Yn y cyfamser, mae Llanelli’n paratoi i gynnal y Gwobrau Cyfryngau Celtaidd ym mis Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae blwyddyn gyffrous o weithgareddau o’n blaenau i arddangos yr hyn sydd gan Sir Gaerfyrddin i’w gynnig, gydag ystod eang o weithgareddau diwylliannol a fydd yn apelio at bawb.

“Mae’n wych gweld cymunedau’n dod ynghyd i drefnu digwyddiadau a fydd yn dathlu ein treftadaeth ac yn cydnabod yr holl dalent sydd gennym ar garreg ein drws.”

Mae cymunedau yn Rhydaman a Llansteffan yn arwain y ffordd o ran trefnu digwyddiadau, gyda nifer o syniadau eisoes ar y gweill sy’n cynnwys ysgolion, grwpiau chwaraeon, busnesau a chynhyrchwyr bwyd.

Yn Rhydaman, mae Menter Iaith Bro Dinefwr yn arwain y ffordd gyda digwyddiad lansio yn Theatr y Glowyr ar 19 Ionawr sy’n cynnwys noson o arddangosfeydd, cerddoriaeth a dawns. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddangos yn fyw ar HENO, sef rhaglen nosol ar S4C.

Diwrnod yn ddiweddarach bydd Llansteffan yn lansio ei brosiect Pentref Diwylliannol drwy gynnal noson o adloniant. Cafodd cyfarfod cyhoeddus llawn dop ei gynnal yn ddiweddar, wedi’i gadeirio gan y cynghorydd sir, Carys Jones, a denodd y cyfarfod hwn lawer o gefnogaeth gan y cyhoedd.

Bydd rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau’n cael ei chyhoeddi cyn bo hir.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle