Health service changes to be proposed in the spring / Newidiadau i’r gwasanaeth iechyd i’w cynnig yn y gwanwyn

0
507

NB: See our Short Annimation click here http://bit.ly/2DrgqhG (Eng)
http://bit.ly/2FW9cQ7 (Wel)

Hywel Dda University Health Board will present the public with preferred options to transform community and hospital services this spring.

The Health Board is proposing change so that it can make the most of every opportunity to improve population health and health services locally, as well as face its challenges and ensure services are the safest and highest value they can be for communities in mid and west Wales.

Following engagement with the public in summer 2017, potential options are currently being discussed, tested and narrowed down by the Health Board, in conjunction with doctors, nurses, wider staff groups, people who help provide care, patient representatives and partners.

All potential options, which are clinically-led, consider significant change to the status quo and focus on improving the health of the local population and transferring more hospital services into the community where appropriate. Some consider whether hospitals need to take on different roles, or even need to be replaced.

A fewer number of preferred options will be released publically in the spring, when the Health Board is confident they are viable, safe and an improvement on what is currently provided.

Medical Director Dr Philip Kloer said: “This is a once in a lifetime opportunity for our health service and community to work together to design an NHS which is fit for our generation and beyond. It has been acknowledged for some time across the UK that healthcare services are challenged like never before and we need significant change. Indeed this has been recognised in the recently published ‘Parliamentary Review of Health & Social Care’ here in Wales.

“We need to develop more proactive, resilient and better resourced local community services to support and improve people’s health and wellbeing, and avoid deterioration where possible. This will involve closer working with our partners, particularly colleagues in social care. We are also looking at ways of providing the most modern clinical practice, using the latest digital, technological, and new scientific developments, in fit for purpose facilities to provide better patient outcomes and experience.

“A number of our services are fragile and dependent on significant numbers of temporary staff, which can lead to poorer quality care. For us specifically in Hywel Dda, the geography we cover is large, with many scattered communities that are getting older, needing more holistic health and social care treatment and support. Because of this, we need to better resource our community based care, which is where most of our patient contact is, and help people manage their health conditions. We also need to evolve traditional ways of working and provide a more proactive approach. This should give patients – young, older and frail and everyone in between – the services they need when the need it, so people do not have to wait too long.

“This will mean changing hospital-based care, as well as community care, and we appreciate the attachment local people and our own staff have for their local hospitals. They have been cared for in them, or work in them, and they also play an important role in our wider communities. The options may propose change to a local hospital; however this is about more than the buildings. This is about investing in our communities, attracting doctors, nurses and therapists by operating a modern healthcare system and keeping hospitals for those who really need hospital care.

“We will not put in place any change that isn’t safe for our patients and population. And we will look at all the impacts from ensuring services are safer with better patient outcomes, to considering the wider impact on people, including the most vulnerable.”

Initial engagement with the public started with the Big Conversation in the summer of 2017, with public workshops and drop-ins held across the three counties of Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire.

Those views have been independently analysed and used as a basis to explore, challenge and test different scenarios, which just since Christmas has resulted in 14 additional events attended by more than 350 people.

Dr Kloer said: “The potential options are evolving, with changes to them on almost a daily basis. Many will never even reach public consultation, for a variety of reasons including safety, accessibility and affordability, or will change significantly as they are tested against population needs and healthcare standards.

“We will be coming back to the public in the spring with fewer options that have been more rigorously tested and we will open and honest about what we think our preferred option is and why. We would not, and cannot, propose something that would not be safe for our population.”

No preferred option has yet been determined and the Health Board has not signed off or agreed to any change at this stage.

Dr Kloer said: “We live in this community, use our NHS and work for our NHS and we want to work with our patients, staff, partners and public to ensure it is the best it can be.” ——————————————————————————–

Newidiadau i’r gwasanaeth iechyd i’w cynnig yn y gwanwyn

Y gwanwyn hwn, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyflwyno i’r cyhoedd yr opsiynau a ffefrir i drawsnewid gwasanaethau cymunedol ac ysbyty.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig newid fel y gall wneud y gorau o bob cyfle i wella iechyd y boblogaeth a gwasanaethau iechyd yn lleol, yn ogystal â wynebu ei heriau a sicrhau bod gwasanaethau ar eu mwyaf diogel a’r gorau y gallant fod ar gyfer cymunedau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Yn dilyn ymgysylltu â’r cyhoedd yn haf 2017, mae’r Bwrdd Iechyd, ar y cyd â meddygon, nyrsys, grwpiau staff ehangach, pobl sy’n helpu i ddarparu gofal, cynrychiolwyr cleifion a phartneriaid wrthi ar hyn o bryd yn trafod, yn profi ac yn lleihau nifer y dewisiadau.

Mae’r holl opsiynau posibl, sy’n cael eu harwain yn glinigol, yn ystyried newid sylweddol i’r sefyllfa bresennol ac yn canolbwyntio ar wella iechyd y boblogaeth leol a throsglwyddo mwy o wasanaethau ysbyty i’r gymuned lle bo’n briodol. Mae rhai yn ystyried a oes angen i ysbytai ymgymryd â rolau gwahanol, neu hyd yn oed gael eu disodli.

Bydd nifer llai o ddewisiadau a ffefrir yn cael eu rhyddhau yn gyhoeddus yn y gwanwyn, pan fydd y Bwrdd Iechyd yn hyderus eu bod yn ymarferol bosibl, yn ddiogel ac yn welliant ar yr hyn a ddarperir ar hyn o bryd.

Meddai’r Cyfarwyddwr Meddygol, Dr Philip Kloer: “Dyma gyfle unwaith mewn oes i’n gwasanaeth iechyd a’n cymuned i gyd-weithio i ddylunio gwasanaeth iechyd sy’n addas i’n cenhedlaeth ni a thu hwnt. Cydnabuwyd ers peth amser ledled y DU bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu herio fel na welwyd o’r blaen, ac mae angen newid sylweddol. Yn wir, cydnabuwyd hyn yn yr ‘Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar yma yng Nghymru.

“Mae angen i ni ddatblygu gwasanaethau cymunedol lleol sy’n fwy rhagweithiol, yn gadarnach a sydd â mwy o adnoddau i gefnogi a gwella iechyd a llesiant pobl, ac osgoi dirywiad lle bo modd. Bydd hyn yn golygu gweithio’n agosach â’n partneriaid, yn enwedig cyd-weithwyr ym maes gofal cymdeithasol. Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd o ddarparu’r arferion clinigol mwyaf modern, gan ddefnyddio’r datblygiadau digidol, technolegol a gwyddonol diweddaraf, mewn cyfleusterau a all ddarparu canlyniadau a phrofiad gwell i gleifion.

“Mae nifer o’n gwasanaethau yn fregus ac yn ddibynnol ar nifer sylweddol o staff dros dro, a all arwain at ofal o ansawdd is. I ni’n benodol yn Hywel Dda, mae ein daearyddiaeth yn fawr, gyda llawer o gymunedau gwasgaredig o bobl sy’n heneiddio, sydd angen mwy o driniaethau a chymorth iechyd a gofal cymdeithasol mwy cyfannol. Oherwydd hyn, mae angen i ni adnoddu ein gofal yn y gymuned yn well – oherwydd dyma lle mae’r rhan fwyaf o’n cysylltiad â chleifion – a helpu pobl i reoli eu cyflyrau iechyd. Mae angen i ni hefyd ddatblygu’r ffyrdd traddodiadol o weithio a darparu ymagwedd fwy rhagweithiol. Dylai hyn olygu bod cleifion – yr ifanc, yr hen a’r bregus, a phob un yn y canol – yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt pan fo’i angen, fel nad oes rhaid i bobl aros yn rhy hir.

“Bydd hyn yn golygu newid gofal mewn ysbyty, yn ogystal â gofal yn y gymuned, ac rydym yn gwerthfawrogi’r hoffter sydd gan bobl leol a’n staff ein hunain tuag at eu hysbytai lleol. Maen nhw wedi derbyn gofal ynddynt, neu’n gweithio ynddynt, ac maent hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau ehangach. Gall yr opsiynau gynnig newid i ysbyty lleol; fodd bynnag mae mwy i hyn na’r adeiladau. Mae hyn yn ymwneud â buddsoddi yn ein cymunedau, gan ddenu meddygon, nyrsys a therapyddion trwy weithredu system gofal iechyd fodern, a chadw ysbytai i’r rhai sydd wir angen gofal mewn ysbyty.

“Ni fyddwn yn gweithredu unrhyw newid nad yw’n ddiogel i’n cleifion a’n poblogaeth. A byddwn yn edrych ar yr holl effeithiau, o sicrhau bod gwasanaethau’n fwy diogel gyda chanlyniadau gwell i gleifion, i ystyried yr effaith ehangach ar bobl gan gynnwys y rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed.”

Dechreuodd yr ymgysylltu cychwynnol â’r cyhoedd gyda’r Sgwrs Fawr yn haf 2017, gyda gweithdai cyhoeddus a sesiynau galw heibio ar draws y tair sir sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r farn honno wedi cael ei dadansoddi’n annibynnol a’i defnyddio fel sail i archwilio, herio a phrofi gwahanol senarios gan 350 o bobl mewn 14 digwyddiad ychwanegol.

Meddai Dr Kloer: “Mae’r opsiynau posibl yn datblygu, gyda newidiadau bron bob dydd. Ni fydd llawer ohonynt yn cyrraedd yr ymgynghoriad cyhoeddus am amryw o resymau gan gynnwys diogelwch, hygyrchedd a fforddiadwyedd, neu byddant yn newid yn sylweddol wrth iddynt gael eu profi yn erbyn anghenion y boblogaeth a safonau gofal iechyd.

“Yn y gwanwyn, byddwn yn mynd allan i’n cymunedau i gyflwyno’r nifer llai o opsiynau sydd wedi cael eu profi’n fwy trylwyr, a byddwn yn agored ac yn onest ynghylch ein dewis ni a pham. Ni fyddem, ac ni allem, gynnig rhywbeth na fyddai’n ddiogel i’n poblogaeth.”

Nid oes dewis wedi’i ffafrio na’i benderfynu eto, ac nid yw’r Bwrdd Iechyd wedi rhoi ei gymeradwyaeth i unrhyw newid ar hyn o bryd.

Meddai Dr Kloer: “Rydym ni hefyd yn byw yn y gymuned hon ac yn defnyddio ein gwasanaeth iechyd, ac rydym am gyd-weithio â’n cleifion, ein staff, ein partneriaid a’r cyhoedd er mwyn sicrhau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gorau posibl.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle