Deadline to apply for new S4C show in two weeks

0
760
L-R Sioned Quirke Dr Ioan Rees Lisa Gwilym Rae Carpenter

Deadline to apply for new S4C show in two weeks

 

S4C is encouraging the people of Wales to overhaul their lifestyles in its new show, as the deadline for applications nears.

 

S4C is offering a once-in-a-lifetime opportunity for five enthusiastic people to follow a fit and healthy lifestyle in the new FFIT Cymru series.

 

This is a unique opportunity for someone to gain from the services of a professional personal trainer, dietician and psychologist who will support and advise them every step of the way – and who are dedicated to making sure they reach their goal.

 

If you’re keen to get involved, you can register now on the s4c.cymru/ffitcymru website. The closing date is on 2 February 2018.

 

The producer of the series from Cwmni Da urges you to go for it. Siwan Haf, from Cwmni Da says;

 

“Forget joining an expensive gym, this is the chance to start living healthily with the help of our team of enthusiastic experts. Where else can you have access to your own professional trainer, dietician and psychologist free of charge?

 

“On FFIT Cymru we will support you every step of the way. By taking small steps and making changes in your everyday life, you can make a big change to your body and mind. You don’t need to spend hours on the treadmill; you will not have to starve yourself every day – together we can change our way of life and inspire others to do the same.

 

“At the beginning of the year, our thoughts will turn to making resolutions and pledging to eat healthily and to do more exercise. Now is the time to go for it!”

 

FFIT Cymru will be shown on S4C in April 2018. The series will be presented by Lisa Gwilym along with the team of experts; personal trainer from Penarth Rae Carpenter, a dietitian Sioned Quirke who lives in Pont-y-clun and psychologist Dr Ioan Rees, who lives in Pen Llŷn.

 

For more information go online to s4c.cymru/ffitcymru

 

 

Dyddiad cau i ymgeisio am raglen newydd S4C ymhen wythnos

 

Mae S4C yn annog pobl i drawsnewid eu ffordd o fyw yn ei rhaglen newydd, wrth i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i gymryd rhan agosáu.

 

Mae S4C yn cynnig cyfle unigryw i bum person brwdfrydig i fyw bywyd ffit ac iach yn y gyfres newydd FFIT Cymru.

 

Dyma gyfle unigryw i rywun fanteisio ar gael gwasanaeth hyfforddwr personol, dietegydd a seicolegydd fydd yn cefnogi ac yn cynghori bob cam o’r ffordd – ac yn gwneud yn siŵr bod y nod yn cael ei gyrraedd.

 

Os ydych chi’n awyddus i gymryd rhan, gallwch gofrestru nawr ar wefan s4c.cymru/ffitcymru.  Y dyddiad cau yw 2 Chwefror 2018.

 

Mae cynhyrchydd  y gyfres, o gwmni teledu  Cwmni Da, yn eich annog i fynd amdani. Meddai Siwan Haf, Cwmni Da;

 

“Anghofiwch am ymaelodi â champfa ddrud, dyma’r cyfle gorau i ddechrau byw yn iach gyda help ein tîm o arbenigwyr brwdfrydig. Ble arall y gallwch chi fanteisio ar hyfforddwr, dietegydd a seicolegydd proffesiynol yn rhad ac am ddim?

 

“Ar FFIT Cymru byddwn ni ‘n eich cefnogi chi ar hyd y daith. Drwy gymryd camau bychain, a newidiadau yn eich bywyd bob dydd, gallwch wneud newid mawr i’ch corff a’ch meddwl. Does dim angen treulio oriau ar y peiriant rhedeg; does dim rhaid llwgu bob dydd – gyda’n gilydd gallwn newid ein ffordd o fyw ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.

 

“Ar ddechrau’r flwyddyn, mi fydd llawer ohonom ni’n meddwl am yr adduned flynyddol i fwyta’n iach ac i wneud mwy o ymarfer corff. Felly rŵan ydi’r amser i fynd amdani!”

 

Bydd FFIT Cymru ar S4C ym mis Ebrill 2018. Yn cyflwyno mae Lisa Gwilym ac yn gwmni iddi hi bydd yr hyfforddwr personol o Benarth  Rae Carpenter, y dietegydd Sioned Quirke sy’n byw ym Mhont-y-clun a’r seicolegydd Dr Ioan Rees o Ben Llŷn.

 

Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein i s4c.cymru/ffitcymru

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle