Commissioner faces questions about police air support
POLICE and Crime Commissioner Dafydd Llywelyn is being asked what he is doing to ensure Dyfed Powys is getting the support it needs from the National Police Air Service (NPAS).
It is one of the questions being put to him by members of the Dyfed Powys Police and Crime Panel at its meeting next week.
Independent member and vice chair of the panel Professor Ian Roffe, said that given the findings of a recent report into police air support people may conclude that Dyfed-Powys Police is not getting value for money from the service or receiving the timely support it needs.
He has submitted a question to the Commissioner, who sits on the NPAS management board, asking him to clarify what he is doing to improve the service received by Dyfed-Powys Police.
He is also asking the Commissioner to confirm what steps he is taking to explore alternative sources of air support, given that there is a centre of excellence for the use of unmanned drones at Aberporth in Ceredigion.
It is not the only question the Commissioner faces.
Chair of the panel Cllr Alun Lloyd Jones is asking what the people of Dyfed Powys receive in return for a £20,000 per annum subscription to the Association of Police and Crime Commissioners.
And Cllr Keith Evans wants to know what the Commissioner is doing to try and educate young people about the effects drink and drugs, and particularly whether issues experienced in Ceredigion are greater than any other region in the force area.
The Dyfed Powys Police and Crime Panel is due to meet at 10.30am on January 26 at the Ceredigion County Council offices in Aberaeron, and members of the public and press are welcome to attend.
Questions can be asked by members of the public, as well as the panel, but should be submitted in advance either in writing or via the panel website www.dppoliceandcrimepanel.wales
Cwestiynau i’r Comisiynydd am gymorth awyr yr heddlu
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, yn cael ei holi ynghylch yr hyn y mae’n ei wneud i sicrhau bod Dyfed-Powys yn cael y cymorth angenrheidiol gan Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu.
Dyma un o’r cwestiynau a gyflwynir iddo gan aelodau o Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn eu cyfarfod yr wythnos nesaf.
Dywedodd yr Athro Ian Roffe, aelod annibynnol ac is-gadeirydd y panel, y gallai pobl ddod i’r casgliad, yn sgil canfyddiadau adroddiad diweddar ar gymorth awyr yr heddlu, nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cael gwerth am arian gan y gwasanaeth nac yn derbyn y cymorth amserol sydd ei angen arno.
Mae ef wedi cyflwyno cwestiwn i’r Comisiynydd, sy’n rhan o fwrdd rheoli Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, yn gofyn iddo egluro’r hyn y mae’n ei wneud i wella’r gwasanaeth a dderbynnir gan Heddlu Dyfed-Powys.
Mae hefyd yn gofyn i’r Comisiynydd gadarnhau pa gamau y mae’n eu cymryd i archwilio ffynonellau cymorth awyr eraill, o ystyried bod yna ganolfan ragoriaeth ar gyfer defnyddio dronau di-griw yn Aber-porth yng Ngheredigion.
Nid dyma’r unig gwestiwn y mae’r Comisiynydd yn ei wynebu.
Mae Cadeirydd y panel y Cynghorydd Alun Lloyd Jones yn gofyn beth mae pobl Dyfed-Powys yn ei gael yn gyfnewid am danysgrifiad gwerth £20,000 y flwyddyn i Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Ac mae’r Cynghorydd Keith Evans am gael gwybod beth mae’r Comisiynydd yn ei wneud i geisio addysgu pobl ifanc am effeithiau alcohol a chyffuriau, ac yn benodol p’un a yw’r materion sy’n codi yng Ngheredigion yn fwy nag mewn unrhyw ranbarth arall yn ardal yr heddlu.
Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i fod i gwrdd am 10.30am ar 26 Ionawr yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion yn Aberaeron, ac mae croeso i aelodau o’r cyhoedd a’r wasg ddod i’r cyfarfod.
Gall aelodau o’r cyhoedd ofyn cwestiynau yn ogystal â’r panel, ond dylid eu cyflwyno o flaen llaw, naill ai’n ysgrifenedig neu drwy wefan y panel www.panelheddluathroseddudp.cymru
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle