Carmarthenshire County Council has been shortlisted for a national award for its approach in tackling homelessness.
The local authority has been announced as a finalist in the UK Housing Awards 2018.
Last year Carmarthenshire County Council’s Housing Options Team provided advice to 3,229 households, directly preventing 1,277 households from becoming homeless.
The awards, run by the Chartered Institute of Housing and Inside Housing, showcase the very best the housing sector has to offer.
Prior to a recent review of the service more than 500 households were determined as statutorily homeless compared to 135 last year.
To tackle the issue, the team brought together a number of external partners to look at the challenge of preventing homelessness from a customer’s point of view.
Alongside working with Care and Repair, Shelter, Pobl and The Walich, the council has also improved relationships with private landlords by developing its own lettings agency, Gosod Syml – Simple Lettings.
They have also created a ‘hub’ of specialist advisors and partners, including housing advisors who undertake in-depth advice and support to prevent homelessness or find alternative accommodation; occupational therapists who support re-housing disabled people and those with serious health issues; private sector support officers and environmental health officers to support tenants and landlords in the private rented sector; and home improvement officers to support keeping people in their own home.
Cllr Linda Davies Evans, executive board member responsible for housing, said: “It’s encouraging that our housing team’s forward-thinking approach has been recognised nationally and I would like to wish them all the best of luck in the awards ceremony. The work they are doing is already making a significant difference in improving lives of those in the county.”
The awards take place in London on May 2.
Cyngor yn anelu am wobr genedlaethol wrth frwydro digartrefedd
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol oherwydd ei ddull o fynd i’r afael â digartrefedd.
Cyhoeddwyd bod yr Awdurdod Lleol wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Tai’r Deyrnas Unedig 2018.
Y llynedd darparodd Tîm Dewisiadau Tai Cyngor Sir Caerfyrddin gyngor i 3,229 o aelwydydd, gan atal 1,277 o aelwydydd yn uniongyrchol rhag mynd yn ddigartref.
Mae’r gwobrau, a gaiff eu cynnal gan y Sefydliad Tai Siartredig ac Inside Housing, yn arddangos y gorau oll sydd gan y sector tai i’w gynnig.
Cyn mynd ati i adolygu’r gwasanaeth yn ddiweddar, pennwyd mwy na 500 o aelwydydd yn rhai digartref yn statudol o gymharu â 135 y llynedd.
I fynd i’r afael â’r mater, daeth y tîm â nifer o bartneriaid allanol ynghyd i edrych ar yr her o atal digartrefedd o safbwynt y cwsmer.
Ochr yn ochr â gweithio gyda Gofal a Thrwsio, Shelter, Pobl a The Wylwch, mae’r Cyngor hefyd wedi bod yn gwella’r berthynas gyda landlordiaid preifat trwy ddatblygu ei asiantaeth osod ei hun, Gosod Syml – Simple Lettings.
Maent hefyd wedi creu ‘canolbwynt’ o ymgynghorwyr a phartneriaid arbenigol, gan gynnwys ymgynghorwyr tai sy’n rhoi cyngor a chymorth cynhwysfawr er mwyn atal digartrefedd neu ddod o hyd i lety arall; therapyddion galwedigaethol sy’n cynorthwyo pobl anabl a rheiny sydd â materion iechyd difrifol i symud i gartref newydd; swyddogion cymorth o’r sector preifat a swyddogion iechyd yr amgylchedd i gynorthwyo tenantiaid a landlordiaid yn y sector rhentu preifat; a swyddogion gwella cartrefi i gynorthwyo i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, yr aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am dai: “Mae’n galonogol bod dull blaengar ein tîm tai wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt i gyd yn y seremoni wobrwyo. Mae’r gwaith y maent yn ei wneud eisoes yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol wrth wella bywydau pobl yn y sir.”
Cynhelir y gwobrau yn Llundain ar 2 Mai.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle