Planning for Carmarthenshire’s future
THE future shape of Carmarthenshire will soon be considered as part of a review of Carmarthenshire’s Local Development Plan (LDP).
The LDP is a key county council document that guides decisions on the location and amount of new homes and jobs, whilst also protecting the environment.
Council has agreed that the authority prepares a revised LDP setting out the planning framework for the county through to 2033.
Throughout its preparation, the LDP will be the subject of several public consultations.
The council wants to hear from all those with an interest in the future of their communities and the county.
It is anticipated that this process will be complete by the end of 2021.
Once finished, the revised LDP will form the basis for deciding planning applications and will guide investments from other public services and infrastructure providers.
Following the council decision two consultations will shortly get underway.
The first will allow residents and interested parties to comment on the timetable for the plans publication.
The second is a call for candidate sites, allowing anyone to submit sites for inclusion within the LDP for uses such as housing, as well as requests for suggested areas to be protected from development. The sites will be assessed and considered for inclusion as part of the preparation of the LDP.
The council’s executive board member for planning, Cllr Mair Stephens, said: “The preparation of the revised LDP is an essential part of delivering a prosperous and sustainable Carmarthenshire which meets the needs of our communities whilst supporting and encouraging appropriate growth.
This plan will be subject to significant consultation and scrutiny, and will help our communities have confidence in how we guide development in the years ahead.”
- Anyone with an interest in the LDP, including putting land forward for development, should contact the council’s forward planning section and ask to be placed on a mailing list to be notified as the LDP progresses and of consultations and other key events. Email forwardplanning@carmarthenshire.gov.uk or call 01267 228818.
Cynllunio ar gyfer dyfodol Sir Gâr
BYDD ffurf Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol yn cael ei hystyried yn fuan fel rhan o adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol y sir.
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn ddogfen bwysig gan y cyngor sir sy’n llywio’r penderfyniadau o ran lleoliad a nifer y cartrefi newydd a’r swyddi a grëir ac yn diogelu’r amgylchedd ar yr un pryd.
Cytunodd y Cyngor fod yr awdurdod yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig sy’n gosod y fframwaith cynllunio ar gyfer y sir hyd 2033.
Drwy gydol y gwaith o’i baratoi bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn destun amryw o ymgyngoriadau cyhoeddus.
Mae’r cyngor am glywed gan bawb sydd â diddordeb yn nyfodol eu cymunedau a’r sir.
Disgwylir i’r broses hon gael ei chwblhau erbyn diwedd 2021.
Pan fydd wedi’i gwblhau bydd y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn sail i benderfynu ar geisiadau cynllunio a bydd yn llywio’r buddsoddiadau a wneir gan wasanaethau cyhoeddus eraill a darparwyr seilwaith.
Yn dilyn penderfyniad y Cyngor bydd dau ymgynghoriad yn cychwyn yn fuan.
Bydd y cyntaf ohonynt yn rhoi cyfle i drigolion a phartïon sydd â diddordeb gyflwyno sylwadau ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r cynlluniau.
Galwad am safleoedd ymgeisio yw’r ail gan ganiatáu i unrhyw un gyflwyno safleoedd i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol at ddibenion megis tai, ynghyd â cheisiadau am i safleoedd awgrymedig gael eu diogelu rhag datblygiad. Fel rhan o’r gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol caiff y safleoedd eu hasesu a’u hystyried ar gyfer eu cynnwys.
Dywedodd y Cynghorydd Mair Stephens, Aelod Bwrdd Gweithredol y Cyngor dros Gynllunio: “Mae’r gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn rhan hanfodol o greu Sir Gaerfyrddin ffyniannus a chynaliadwy sy’n diwallu anghenion ein cymunedau ac yn cefnogi ac yn annog twf priodol.
Bydd y cynllun hwn yn destun ymgynghori a chraffu sylweddol a bydd yn helpu ein cymunedau i gael hyder yn y modd yr ydym yn llywio datblygiadau yn y blynyddoedd sydd i ddod.”
- Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn y Cynllun Datblygu Lleol, gan gynnwys mewn rhoi tir gerbron i’w ddatblygu, gysylltu ag Adain Flaengynllunio’r Cyngor a gofyn am gael rhoi ei enw ar restr bostio er mwyn cael gwybod am gynnydd y Cynllun Datblygu Lleol ac am ymgyngoriadau a digwyddiadau allweddol eraill. E-bostiwch blaengynllunio@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 228818.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle