Ffermwyr defaid o Grymych yn cydnabod cyfraniad Cyswllt Ffermio at eu llwyddiant newydd fel gwneuthurwyr caws artisan/Crymych sheep farmers credit Farming Connect with their new found success as artisan cheesemakers

0
775

Some businesses start with a dream, others with a plan. For cheesemakers Nick and Wendy Holtham it was a combination of both.

For many years, the couple had been making ewe’s milk cheese for their own consumption and were aware of a commercial demand for this niche dairy product.

But it wasn’t until Wendy visited a cheese-making business with a Farming Connect women’s discussion group that the seed was sown for her own future as an artisan cheesemaker. Farming Connect, which is delivered by Menter a Busnes, is funded by the Welsh Government and the European Agricultural Fund for Rural Development.

Five year later, when Nick retired from his office job at a haulage company, the time seemed right to take that bold next step into commercial production.

“It took retiring and the safety of a salary being removed to take that plunge. We thought what better way to blow the rest of our pension than starting a business!’’ laughs Nick.

“If it hadn’t been for Farming Connect we would never have started the business, it was that Farming Connect visit to Caws Cenarth that was the catalyst.’’

That was in 2013. Caws Cenarth was keen to produce a sheep’s milk cheese so agreed to buy the milk. The Holthams established their flock on 23 acres of land they bought at Crymych and invested £12,500 in a six-point parlour.

They now milk around 120 mostly Friesland ewes and, in addition to the land they own at Dolwerdd, they rent a further 30 acres of land.

For nearly four years, they were solely milk producers but that changed when they attended a Farming Connect marketing surgery at Aberaeron last January.

At this, they had a one-hour, one-to-one meeting with business consultant, Jeremy Bowen Rees of Landsker Business Solutions. “We had thought that we would have a go at making our own cheese to sell, so we were really grateful for his sound marketing advice combined with an injection of enthusiasm. He pointed us in the right direction,’’ says Wendy.

“The guidance received was instrumental in helping us to take our business a step further and also ensured we retain control over production and the future direction of the business.’’

Jeremy recalls it was clear Nick and Wendy were passionate about pursuing their new venture.

“Through thorough research and trial and error, they were both already pretty well informed about what they were going to do and focused on what they wanted to achieve.”

The couple enrolled in courses in cheese making and food hygiene at Food Centre Wales, Horeb where they developed recipes for their own range of Defaid Dolwerdd cheeses, including Aur Preseli, a hard cheese, and a halloumi called Halwmi.

They now process 20% of their milk themselves, making the cheeses twice a month at Food Centre Wales. The cheeses are sold at numerous farm shops and farmers’ markets, including St Dogmaels and Aberystwyth. Supported by Cywain, the Holthams’ products also attracted significant buyer interest at this year’s Royal Welsh Show and they also attended last month’s Llandovery Sheep Festival.

Caws Cenarth continues to make soft cheeses from their milk, including the best-selling creamy blue, Dol-Las.

Each ewe produces on average a litre of milk daily; it takes five litres of this to produce 1kg of cheese, half the volume needed for cheese made from cow’s milk. This is because of the milk’s high butterfat and protein content – Nick and Wendy’s flock produce milk at an average of 5.31% protein and 6% butterfat.

The flock lambs three times a year, in January, April and June, to provide a consistent supply of milk, although the flock is dry in December and January.

The Friesland ewes are crossed to a Romney to produce a lamb with good conformation to sell as stores at Crymych market, and to produce wool for the hand spun yards and woollen products, including socks, gloves and hats, which Wendy produces. Last year she won the prize for the champion fleece at the Pembrokeshire County Show.

Cheese-making is just the start of Nick and Wendy’s journey with their ewes’ milk. They are planning to produce fudge and yogurt, even soap.

Their foray into yogurt-making has already been met with approval. “I had nothing to do on the Sunday afternoon before we went to the Royal Welsh Show this year so I made some natural yogurt,’’ says Nick.

“We entered it into a competition at the show, in an unbranded, plain pot. We were up against the big boys and were thrilled to get a bronze.’’

Farming Connect are hosting two Diversification Seminars in February. To attend, or for more information, contact Farming Connect on 08456 000 813.

21/02/2018 –Fforest Inn, Presteigne

22/02/2018 – The Hand Hotel, Llangollen

Ffermwyr defaid o Grymych yn cydnabod cyfraniad Cyswllt Ffermio at eu llwyddiant newydd fel gwneuthurwyr caws artisan

Bydd rhai busnesau yn cychwyn â breuddwyd, eraill â chynllun.Yn achos y gwneuthurwyr caws, Nick a Wendy Holtham, roedd yn gyfuniad o’r ddau.

Roedd y pâr wedi bod yn cynhyrchu caws llaeth defaid ers blynyddoedd at eu defnydd eu hunain, ac roeddent yn ymwybodol o alw masnachol am y cynnyrch llaeth arbenigol hwn.

Ond ni wnaeth Wendy hau hadau’r syniad o ddyfodol fel gwneuthurwr caws nes iddi hi ymweld â busnes cynhyrchu caws fel rhan o ymweliad a drefnwyd gan Cyswllt Ffermio. Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dilyn ymddeoliad Nick o’i swydd yn gweithio mewn swyddfa cwmni cludiant, roedd hi’n ymddangos yn adeg briodol i fentro i faes cynhyrchu masnachol.

“Ymddeol a cholli’r sicrwydd a ddaw gyda chyflog misol oedd y sbardun i fentro.Fe wnaethom ni feddwl, pa well ffordd o wario gweddill ein pensiwn na chychwyn busnes!” meddai Nick, gan chwerthin.

“Heb wasanaeth Cyswllt Ffermio, ni fyddem ni wedi cychwyn y busnes; ymweliad â Chaws Cenarth a drefnwyd gan Cyswllt Ffermio oedd y sbardun.”

Digwyddodd hynny yn 2013. Roedd Caws Cenarth yn awyddus i gynhyrchu caws llaeth defaid, felly fe wnaethant gytuno i brynu’r llaeth. Sefydlodd Nick a Wendy eu diadell ar 23 erw o dir yr oeddent wedi’i brynu yng Nghrymych, ac fe wnaethant fuddsoddi £12,500 mewn parlwr chwe phwynt.

Bellach, maent yn godro 120 o ddefaid o frid Friesland yn bennaf, ac yn ogystal â’r tir sy’n eiddo iddynt yn Nolwerdd, maent yn rhentu 30 erw ychwanegol.

Am bedair blynedd bron iawn, roeddent yn gynhyrchwyr llaeth yn unig, ond newidiodd hynny wedi iddynt fynychu cymhorthfa marchnata Cyswllt Ffermio yn Aberaeron ym mis Ionawr.

Yn ystod y digwyddiad hwnnw, cawsant gyfarfod unigol awr o hyd gyda’r ymgynghorydd busnes, Jeremy Bowen Rees, o Landsker Business Solutions. “Roeddem ni wedi ystyried rhoi cynnig ar gynhyrchu ein caws ein hunain i’w werthu, felly roeddem yn ddiolchgar iawn am ei gyngor doeth ynghylch marchnata a’i frwdfrydedd hefyd. Fe wnaeth ein tywys i’r cyfeiriad iawn,” yn ôl Wendy.

“Roedd yr arweiniad a gawsom yn allweddol o ran ein cynorthwyo i fynd â’n busnes gam ymhellach, ac fe wnaeth sicrhau mai ni sy’n dal i reoli’r cynhyrchu a chyfeiriad y busnes i’r dyfodol”.

Yn ôl Jeremy, roedd hi’n amlwg bod Nick a Wendy yn frwdfrydig ynghylch gwireddu eu menter newydd.

“Trwy gyfrwng ymchwil trylwyr a symud ymlaen trwy brofi a methu, roedd ganddynt syniad eithaf da beth oedd eu bwriad ac roeddent yn canolbwyntio ar eu nod”.

Cofrestrodd y ddau i fynychu cyrsiau cynhyrchu caws a hylendid bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru, Horeb, ac yno, aethant ati i ddatblygu ryseitiau ar gyfer eu dewis eu hunain o gawsiau Defaid Dolwerdd, yn cynnwys Aur Preseli, sy’n gaws caled, a Halloumi o’r enw Halwmi.

Erbyn hyn, maent yn prosesu 20% o’u llaeth eu hunain, ac yn cynhyrchu’r cawsiau ddwywaith y mis yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Gwerthir y cawsiau mewn nifer o siopau ffermydd a marchnadoedd ffermwyr, yn cynnwys Llandudoch ac Aberystwyth. Gyda chymorth Cywain, fe wnaeth cynhyrchion Nick a Wendy hefyd ddenu diddordeb sylweddol gan brynwyr yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, ac fe wnaethant fynychu GĹľyl Ddefaid Llanymddyfri’r mis diwethaf hefyd.

Mae Caws Cenarth yn parhau i ddefnyddio eu llaeth i gynhyrchu cawsiau meddal, yn cynnwys y caws glas hufennog hynod lwyddiannus, Dol-Las.

Bydd pob dafad yn cynhyrchu litr o laeth bob dydd ar gyfartaledd; bydd angen pum litr o’r llaeth hwn i gynhyrchu 1kg o gaws, sef hanner y cyfanswm sydd ei angen i gynhyrchu 1kg o gaws llaeth gwartheg. Y rheswm dros hynny yw’r canrannau uchel o fraster menyn a phrotein sydd yn eu llaeth – mae diadell Nick a Wendy yn cynhyrchu llaeth sydd â 5.31% o brotein a 6% o fraster menyn ar gyfartaledd.

Bydd y ddiadell yn ŵyna deirgwaith y flwyddyn, yn Ionawr, Ebrill a Mehefin, i sicrhau cyflenwad di-dor o laeth, ond mae’r ddiadell yn sych yn Rhagfyr ac Ionawr.

Caiff y defaid Friesland eu croesi â hwrdd Romney i gynhyrchu ŵyn sydd â chydffurfiad da i’w gwerthu fel ŵyn stôr ym mart Crymych, ac i gynhyrchu cnuoedd ar gyfer gwlân wedi’i nyddu â llaw a chynhyrchion gwlân, yn cynnwys sanau, menig a hetiau, sy’n cael eu cynhyrchu gan Wendy. Y llynedd, fe enillodd wobr am y cnu gorau yn Sioe Sir Benfro.

Cynhyrchu caws yw man cychwyn taith Nick a Wendy â llaeth eu defaid. Maent yn bwriadu cynhyrchu cyffug ac iogwrt, a sebon hyd yn oed.

Mae eu hymgais i gynhyrchu iogwrt eisoes wedi’i’ gymeradwyo. “Roeddwn i’n segur y prynhawn Sul cyn i ni fynd i Sioe Frenhinol Cymru eleni, felly fe wnes i gynhyrchu rhywfaint o iogwrt naturiol,” meddai Nick.

“Fe wnaethom ni roi cynnig arno mewn cystadleuaeth yn y sioe, mewn pot plaen heb unrhyw enw arno. Roeddem ni’n cystadlu yn erbyn rhai o’r prif gynhyrchwyr, ac roeddem ni wrth ein bodd ar ôl ennill gwobr efydd”.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal dau Seminar Arallgyfeirio yn mis Chwefror. Am ragor o wybodaethneu I fynychu, cysylltwch a Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

21/02/2018 – Fforest Inn, Llanfihangel-Nant-Melan

22/02/2018 – The Hand Hotel, Llangollen


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle