West Wales nurse to grace Buckingham Palace / Nyrs o Orllewin Cymru ar ei ffordd i Balas Buckingham

0
804
Rowena Jones

A west Wales nurse – who has helped care for our area’s most unwell children – is looking forward to visiting to Buckingham Palace in June after being overwhelmed to be included in this year’s New Year’s Honours list.

Rowena Jones has been awarded the Member of the Order of the British Empire (MBE) for her service to sick and disabled children, and particularly for her contribution to the setting up of a service to allow children at the end of their life to be cared for at home.

Rowena works as a paediatric oncology outreach specialist nurse for Hywel Dda University Health Board, caring for hundreds of children and supporting their families from all corners of Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire.

She has been a nurse for more than 40 years, having worked in the community and on wards in Bronglais, and Glangwili Hospitals, as well as having worked closely with the Children’s Cancer Unit in Cardiff.

Most recently, and with a close colleague paediatric palliative care nurse Jayne Thomas, she set up the Palliative Nurse Bank for children’s services, which has allowed more nurses to be trained in caring for children at the end of their life. This means nurses can care for children over a 24 hour day, meaning they can return home to their own environments and in the bosom of their families.

Rowena, from Aberaeron, said: “It was a real surprise to be contacted by the Palace and I have been totally overwhelmed with the response from friends, family, colleagues and the families of children I have worked with.

“I love being a nurse and working with families but it is all a team approach. If having this helps the service, then I’m delighted.”

The health board had an overwhelming response from the public when it announced Rowena’s recognition. The response reached 33,773 people, with almost 2,500 engagements including lots of comments from appreciative families in the area.

Rowena, who has close affiliations also with children’s cancer charities LATCH and Clic Sargent, is now looking forward to a trip to the Palace and meeting the Queen later in the year.

Director of Nursing, Quality and Patient Experience Mandy Rayani said: “Rowena is an exemplary member of our nursing staff who has a wealth of skills, knowledge, and experience in her specialist field. She also has the ability to really connect with children and their families providing excellent patient experience as well as excellent nursing care.”
Nyrs o Orllewin Cymru ar ei ffordd i Balas Buckingham

Mae nyrs o orllewin Cymru – sydd wedi helpu i ofalu am y plant mwyaf tost yn ein hardal – yn edrych ymlaen at ymweld â Phalas Buckingham ym mis Mehefin ac wrth ei bodd ei bod hi wedi cael ei chynnwys ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd eleni.

Mae Rowena Jones wedi cael ei gwobrwyo â MBE am ei gwasanaeth i blant tost ac anabl, ac yn enwedig am ei chyfraniad wrth sefydlu gwasanaeth i alluogi plant i gael gofal yn eu cartrefi ar ddiwedd eu hoes

Mae Rowena’n nyrs allgymorth oncoleg bediatrig arbenigol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan ofalu am gannoedd o blant o bob cwr o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ynghyd â chefnogi eu teuluoedd.

Mae hi wedi bod yn nyrs am dros 40 mlynedd, gan weithio yn y gymuned ac ar wardiau yn Ysbytai Bronglais a Glangwili, ynghyd â gweithio’n agos gyda’r Uned Ganser i Blant yng Nghaerdydd.

Yn fwyaf diweddar, sefydlodd Gronfa Nyrsys Lliniarol ar gyfer gwasanaethau plant gyda chydweithiwr agos iddi, sef Jayne Thomas sy’n nyrs gofal lliniarol pediatrig. Mae hyn wedi galluogi mwy o nyrsys i gael hyfforddiant i ofalu am blant ar ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn golygu bod nyrsys yn gallu gofalu am blant dros ddiwrnod 24 awr, ac felly maen nhw’n gallu dychwelyd adref i’w hamgylchedd eu hunain a bod yng nghwmni eu teuluoedd

Dywedodd Rowena, sydd o Aberaeron: “Cefais syndod mawr pan gysylltodd rhywun o’r Palas â mi, ac mae ymateb ffrindiau, teulu, cydweithwyr a theuluoedd y plant rydw i’n gweithio gyda nhw yn drech na mi.
“Rwyf wrth fy modd yn nyrsio a gweithio gyda theuluoedd, ond rydyn ni i gyd yn gweithredu fel tîm. Os yw cael yr anrhydedd hwn yn helpu’r gwasanaeth, yna rwyf ar ben fy nigon.”

Cafodd y bwrdd iechyd ymateb ysgubol gan y cyhoedd pan gyhoeddodd gydnabyddiaeth Rowena. Cyrhaeddodd y cyhoeddiad 33,773 o bobl, gyda bron 2,500 o bobl yn ymgysylltu ag ef, gan gynnwys llawer o sylwadau gan deuluoedd gwerthfawrogol yn yr ardal.

Dywedodd Rowena, sydd hefyd â chysylltiadau agos â’r elusennau canser i blant, LATCH a Clic Sargent, ei bod yn edrych ymlaen yn awr at fynd ar daith i’r Palas a chwrdd â’r Frenhines yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Mae Rowena yn aelod rhagorol o’n staff nyrsio sydd â chyfoeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn ei maes arbenigol. Mae ganddi hefyd y gallu i gysylltu â phlant a’u teuluoedd gan ddarparu profiad claf arbennig yn ogystal â gofal nyrsio rhagorol.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle