2018 – The year of development in Neath Port Talbot/2018 – Blwyddyn datblygiad yng Nghastell-nedd Port Talbot

0
924

2018 – Blwyddyn datblygiad yng Nghastell-nedd Port Talbot

 

Disgwylir i’r flwyddyn hon fod yn flwyddyn fawr o ran adfywio yng Nghastell-nedd Port Talbot wrth i rai prosiectau datblygu allweddol gael eu cwblhau neu eu datblygu’n sylweddol.

 

Bydd buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn ysgolion a chartrefi, yr economi fanwerthu a chludiant cyhoeddus yn helpu i foderneiddio’r fwrdeistref sirol wrth i 2018 fynd yn ei blaen. Dyma rai o’r prosiectau adfywio a fydd yn helpu i drawsnewid y fwrdeistref sirol.

 

Ysgolion yr 21ain Ganrif Newydd

 

Mae Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion y cyngor yn mynd o nerth i nerth a bydd pedwar adeilad ysgol newydd yn agor yn 2018: Ail gam Ysgol Gyfun Ystalyfera, Ysgol Cwm Brombil, Ysgol Bro Dur ac Ysgol Carreg Hir.

 

Yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yng Nghwm Tawe, mae £3.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn adeilad addysgu deulawr ar gyfer hyd at 200 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed.  Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn canol 2018. Agorodd cam cyntaf y prosiect ysgol hwn yn 2017.

 

Ysgol Cwm Brombil

 

Bydd Ysgol Cwm Brombil, ysgol pob oed newydd i ddisgyblion rhwng 3 ac 16 oed sy’n werth £30m, yn cael ei hadeiladu yn lle Ysgol Dyffryn ac Ysgol Gynradd y Groes. Caiff yr ysgol newydd ei hadeiladu ar safle presennol Ysgol Uwch Dyffryn/Ysgol Gynradd y Groes.

 

Ysgol Gymraeg Bro Dur

 

Mae Ysgol Gymraeg Bro Dur, ysgol Gymraeg newydd i ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed, yn cael ei hadeiladu ar hen safle Ysgol Gyfun Sandfields ac Ysgol Gynradd Traethmelyn. Bydd y buddsoddiad gwerth £19.3m yn darparu addysg uwchradd Gymraeg yn ne’r fwrdeistref sirol.

 

Bydd y ddarpariaeth Gymraeg newydd hon, yn ogystal ag ailddatblygiad safle presennol Ysgol Gyfun Ystalyfera, yn rhan allweddol o gynlluniau’r cyngor i gryfhau’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y fwrdeistref sirol.

 

Cynhaliwyd seremoni ‘gosod carreg gopa’ gan yr ysgol ym mis Rhagfyr ar ôl i’r contractwr, Bouygues UK, gwblhau gwaith adeileddol sylweddol.

 

Ysgol Carreg Hir

 

Mae ysgol gynradd newydd gwerth £7 miliwn hefyd yn cael ei hadeiladu yn Llansawel, sef Ysgol Carreg Hir, sydd wedi’i henwi ar ôl carreg hir eiconig a godwyd yn ystod yr Oes Efydd. Enwyd yr ysgol yn Ysgol Carreg Hir gan blant lleol er mwyn cydnabod yr heneb.

 

Bydd y monolith mawr 9 troedfedd a dwy fodfedd o uchder ar dir hen Ysgol Gyfun Cwrt Sart, lle mae’r ysgol gynradd newydd ar gyfer 420 o ddisgyblion yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd.

 

Disgwylir i’r tair ysgol, sef Ysgol Cwm Brombil, Ysgol Gymraeg Br Dur ac Ysgol Carreg Hir, agor yn yr hydref 2018.

 

Rhaglen Adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Port Talbot

 

Mae nifer o brosiectau sy’n rhan o raglen adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid y dref yn mynd rhagddynt a disgwylir iddynt gael eu cwblhau eleni. Gyda’r rhaglen hon caiff gwerth £35 miliwn ei fuddsoddi yng nghanol y dref ac o’i chwmpas, sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

 

Hwb Trafnidiaeth Integredig Port Talbot

 

Un o’r cyntaf o’r prosiectau mawr niferus sydd wedi’i gwblhau ar gyfer  2018 yw’r Hwb Trafnidiaeth newydd gwerth £5.6 miliwn ym Mhort Talbot sy’n ategu’r gwaith gwerth £11.3 miliwn a wnaed gan Network Rail yn 2016 i ailddatblygu Gorsaf Parcffordd Port Talbot.

 

Ni fydd yr Hwb Trafnidiaeth yn disodli gorsaf fysus bresennol Port Talbot ond bydd yn golygu y bydd cyfleusterau newydd tacsis, bysus, beicio a chynteddfa newydd i gerddwyr wedi’u lleoli gyda’i gilydd gyferbyn â gorsaf drenau’r dref i wella mynediad i gludiant cyhoeddus yn y dref.

 

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Drafnidiaeth Leol a chyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn ogystal ag arian cyfatebol gan yr UE i gwblhau’r prosiect.

 

Mae gwasanaethau bysys bellach yn gweithredu o’r hwb newydd. Bydd y cyfleusterau eraill yn dilyn yn y misoedd i ddod.

 

Ailddatblygu hen orsaf heddlu Port Talbot

 

Yn dilyn gwaith i ddymchwel hen orsaf heddlu Port Talbot, mae gwaith i adeiladu 30 o fflatiau newydd a thair uned fasnachol yng nghanol y dref wedi dechrau.

 

Mae’r safle, sydd yng nghanol tref Port Talbot ac sy’n agos at yr Hwb Trafnidiaeth Integredig newydd, yn cael ei ailddatblygu gan Grŵp Pobl, a disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau ym mis Hydref 2018.

 

Gwaith Ailddatblygu Tŷ Aberafan

 

Mae gwaith i drawsnewid adeilad gwag Tŷ Aberafan, sy’n edrych dros afon Afan yng nghanol Port Talbot, yn gynllun fflatiau newydd gwerth £4.7 miliwn yn datblygu’n dda.

 

Bydd y datblygiad nodedig hefyd yn gwella’r ardal gyfagos, gan gynnwys goleuadau stryd gwell, rheseli beiciau i breswylwyr, a meinciau a chelfi stryd ar hyd llwybr glan yr afon i greu man mwy diogel a chroesawgar i breswylwyr ac aelodau eraill y cyhoedd.

 

Gwnaed cynnydd sylweddol ar y tu mewn ac mae’r llawr cyntaf bron â chael ei gwblhau. Mae’r prosiect ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau erbyn haf 2018.

 

Mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno gan Hacer Developments a Grŵp Pobl.

 

Datblygiad Tai Glan Afan

 

Mae hen safle Ysgol Glan Afan ym Mhort Talbot yn cael ei ailddatblygu er mwyn paratoi ar gyfer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu gan Grŵp Tai Coastal, ac mae’r contractwyr, Jehu, yn gwneud cynnydd ardderchog.

 

Mae’r holl adeiladau ysgol bellach wedi’u dymchwel ac eithrio’r ffasâd brics coch eiconig, sy’n cael ei gadw yn y datblygiad. Disgwylir i’r datblygiad gael ei gwblhau ym mis Hydref 2018 a bydd yn darparu 47 o unedau preswyl newydd a dwy uned fasnachol.

 

Yng Nghastell-nedd, bydd nifer o ddatblygiadau yng nghanol y dref ac o’i gwmpas hefyd yn dechrau eleni, gyda’r dref yn chwarae rôl allweddol fel canolfan strategol wrth gyflwyno cynllun ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’ Llywodraeth Cymru.

 

Ailddatblygu Canol Tref Castell-nedd

 

Yn ystod gwanwyn 2018 bydd mwy o waith yn cael ei wneud ar y gwaith parhaus i ailddatblygu canol tref Castell-nedd. Bydd y gwaith yn cynnwys adeiladu pump neu chwech o unedau masnachol a 12 o fflatiau ar y llawr cyntaf a’r ail lawr, a’r cyfan y tu ôl i iard gwasanaeth Boots yng Nghastell-nedd.

 

Tai Coastal fydd yn gyfrifol am gyflwyno’r datblygiad a bydd hefyd yn cynnwys lledaenu Stryd y Dŵr a Stryd y Berllan er mwyn gwella cysylltiadau cerddwyr â Neuadd Gwyn, Gerddi Victoria a gorsaf fysus Castell-nedd.

 

Ac yn ystod Hydref 2018 disgwylir i waith ddechrau ar ddatblygiad sydd hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol yng nghanol tref Castell-nedd –  cyfadeilad siopa newydd a fydd yn cynnwys hyd at 8 o unedau canolig i fwy ar hen safle maes parcio aml-lawr canol tref Castell-nedd.

 

Nod y ganolfan fanwerthu newydd fydd darparu lle addas i enwau mawr y stryd fawr er mwyn ategu’r rheiny sydd eisoes yng Nghastell-nedd, megis Marks and Spencer, New Look, Clarks a Next.

 

Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer

Mae Castell-nedd hefyd yn croesawu’r dyfodol trwy greu datblygiad tai fforddiadwy ‘ynni cadarnhaol’ cyntaf y DU, sef ‘Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer’.

 

Mae’r datblygiad yn bartneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot, cymdeithas tai Pobl a SPECIFIC, Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth ym Mharc Ynni Baglan sydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe a phartneriaid diwydiannol strategol megis Tata Steel.

Mae’r cartrefi blaengar newydd yn cynnwys toeon solar, storfa batri a rennir a’r potensial ar gyfer gwefru cerbydau trydan. Cânt eu hadeiladu ar safle ger canol tref Castell-nedd a disgwylir i’r gwaith ddechrau yng ngwanwyn 2018.

 

Yn ogystal â’r cynllun ‘Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer’, mae cynigion eraill ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys datblygu hwb trafnidiaeth integredig sy’n debyg i’r un a gwblhawyd yng Ngorsaf Parcffordd Port Talbot yn ddiweddar.

 

 

Gwelliannau Parcio Ceir ym Mhontneddfechan

Mae gwaith ar fin cychwyn i wella darpariaeth barcio yng Ngwlad y Sgydiau, ym Mhontneddfechan, sy’n lleoliad hynod boblogaidd gydag ymwelwyr â Chastell-nedd Port Talbot a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog cyfagos.

 

Er mwyn lliniaru problemau parcio yn y gymuned leol, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau cyllid drwy Gynllun Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth Croeso Cymru i greu 43 o leoedd parcio ychwanegol oddi ar y ffordd ger y fynedfa i’r pentref.

 

Disgwylir i’r gwaith ddechrau ar y safle yn ystod yr wythnosau i ddod, a chynllunnir y datblygiad i osgoi tarfu yn ystod y cyfnodau prysuraf i ymwelwyr.

Mae’r cynllun hwn wedi derbyn cyllid gan Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 

Darparwyd arian cyfatebol i’r prosiect hwn gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

 

Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau cyn y Pasg yn 2018. Gall ymwelwyr ddefnyddio’r lleoedd parcio newydd am ddim a byddant hefyd yn cefnogi ymweliadau â busnesau lleol yn y pentref.

 

Meddai’r Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, “Mae’n wych gweld y prosiectau adfywio hyn yn digwydd yng Nghastell-nedd Port Talbot.  Dengys hyn ymrwymiad y cyngor i adeiladu dyfodol gwell ar gyfer ein bwrdeistref sirol.  Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i wneud Castell-nedd Port Talbot yn lle sydd wedi’i gysylltu’n well, sy’n well i fusnesau ac sy’n lle gwell i fyw ynddo”.

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle