February Half Term Family Activities / Gweithgareddau Hanner Tymor mis Chwefror

0
624

February Half Term Family Activities

 

Fun Family activities are lined up at Margam Park and Neath Port Talbot Libraries next week for the half term holidays.

 

There will be a range of activities to choose from–storytelling in the Castle with Fi and her amazing puppets, make a funky foam keyring on Tuesday

along with lots of other exciting and creative activities to keep you and your family entertained.

 

’Zoolab’ will be visiting the park on Wednesday21st February to give a talk about ‘Animals in Winter’ that will give us an insight into the world of hibernation, migration and survival. Session times are 11.00am, 12.15pm, 1.45pm and 3.00pm. Sessions last approximately 45 minutes. Tickets are priced at £3 per child. We ask for all visitors to meet in the Castle before each sessions begins.

 

Cabinet Member for Education Skills and Culture, Cllr Peter Rees, said “It is a joy to see so many opportunities for families to have fun in Neath Port Talbot during February half term. The range of country parks and indoor attractions in Neath Port Talbot really do have something to offer residents and visitors all year round.”

 

If the outdoors isn’t for you, you may want to consider a choice of free activities that have been organised in many of our libraries.  One activity that is extremely popular is the lego club in Neath Library. However there are many other arts and crafts sessions available in our libraries and throughout the county borough.

 

If you’re not looking for organised activities, why not take advantage of the fantastic countryside in the county borough. 75% of the area is covered in tranquil forests and hills, with excellent walking and world class bike trails which vary from relaxing to extremely challenging.

 

 

If you want to have fun in your own home and borrow play equipment, the Playworks Team offers a FREE play resource loan scheme for parents and childcare providers. The Play Takeaway initiative has over 20 themed boxes to help children have a variety of play experiences.

 

You can borrow up to 2 boxes at a time for up to one month.  You will need to register to use the Play Takeaway service.  Once registered you can start borrowing and will receive monthly email updates packed with play ideas and suggestions for using your Takeaway boxes.You can register online: www.npt.gov.uk/playtakeaway, or by downloading a leaflet and sending it back in the post.

 

There’s lots to do in and around Neath Port Talbot.To find out more visit www.margamcountrypark.co.uk, www.visitnpt.co.uk, www.npt.gov.uk/librariesor www.cycleswanseabay.org.uk/

Gweithgareddau Hanner Tymor mis Chwefror

 

Mae gweithgareddau hwyl i’r teulu wedi’u trefnu ym Mharc Margam a llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot ar gyfer y gwyliau hanner tymor.

 

Bydd amrywiaeth o weithgareddau iddewis ohonynt, adrodd straeon yn y castell gyda Fi a’i phypedau gwych. Ar ddydd Mawrth gwnewch gylch allweddi gwych allan o ewyn, a bydd nifer mawr o weithgareddau cyffrous a chreadigol llawn hwyl eraill i chi a’ch teulu eu mwynhau.

 

Bydd ‘Zoolab’ yn ymweld â’r parc ddydd Mercher 21 Chwefror i gynnal trafodaeth ar ‘Anifeiliaid yn y Gaeaf’ a fydd yn esboniogaeafgysgu, mudo a goroesi i ni. Amserau’r sesiynau yw 11.00am, 12.15pm, 1.45pm a 3.00pm. Bydd y sesiynau’n para am oddeutu 45 o funudau. Pris tocynnau yw £3 y plentyn. Rydym yn gofyn i ymwelwyr gwrdd yn y castell cyn i bob sesiwn gychwyn.

 

Meddai’r Cyng. Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, “Mae’n hyfryd gweld cynifer o gyfleoedd i deuluoedd gael hwyl yng Nghastell-nedd Port Talbot dros hanner tymor mis Chwefror. Mae gan yr amrywiaeth o barciau gwledig ac atyniadau dan do yng Nghastell-nedd Port Talbot lawer i’w gynnig i breswylwyr ac ymwelwyr drwy’r flwyddyn.”

 

Os nad yw’r awyr agored at eich dant chi, efallai y byddwch am ddewis un o’r gweithgareddau am ddim sydd wedi’u trefnu yn llawer o’n llyfrgelloedd.  Un gweithgaredd sy’n hynod boblogaidd yw’r clwb Lego yn Llyfrgell Castell-nedd. Fodd bynnag, mae llawer o sesiynau celf a chrefft eraill ar gael yn ein llyfrgelloedd ac ar draws y fwrdeistref sirol.

 

Os nad ydych chi’n chwilio am weithgareddau trefnedig, beth am fanteisio ar gefn gwlad bendigedig y fwrdeistref sirol? Mae 75% o’r ardal yn cynnwys fforestydd a bryniau llonydd gyda llwybrau cerdded gwych a llwybrau beicio mynydd penigamp sy’n amrywio rhwng yr hamddenol a’r heriol.

 

 

Os ydych chi eisiau cael hwyl yn eich cartref eich hunan a benthyg offer chwarae, mae’r Tîm Chwarae’n Gweithio yn cynnig cynllun benthyg adnoddau chwarae AM DDIM i rieni a darparwyr gofal plant. Mae’r fenter Benthyca a Chwarae’n cynnig dros 20 blwch thema i roi amrywiaeth o brofiadau chwarae i blant.

 

Cewch fenthyg hyd at 2 flwch ar y tro am hyd at fis.  Bydd angen i chi gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth Benthyca a Chwarae.  Ar ôl cofrestru, gallwch ddechrau benthyca a chewch e-byst misol yn llawn gyda’r newyddion diweddaraf, syniadau chwarae ac awgrymiadau ar gyfer defnyddio’ch blychau Benthyca a Chwarae. Gallwch gofrestru ar-lein: www.npt.gov.uk/playtakeaway, neu lawrlwytho taflen a’i hanfon yn ôl yn y post.

 

Mae llawer i’w wneud yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r cyffiniau. Am fwy o wybodaeth ewch i www.margamcountrypark.co.uk, www.visitnpt.co.uk, www.npt.gov.uk/libraries neu www.cycleswanseabay.org.uk/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle