Police and Crime Panel discusses underage drinking | Panel Heddlu a Throseddu yn trafod yfed dan oed

0
608

Police and Crime Panel discusses underage drinking

 

THE Police and Crime Commissioner for Dyfed Powys says he is committed to reducing youth offending and has invested more funding to tackle the issue.

Dafydd Llywelyn spoke at a recent meeting of the Dyfed Powys Police and Crime Panel to quash concerns that alcohol fuelled crime is more prevalent in Ceredigion than in other areas across the force.

A question was put to him by Cllr Keith Evans, who was seeking reassurance following an incident involving underage drinking in his area over the New Year.

Mr Llywelyn said the issue was not confined to specific areas, but was a national issue which he is keen to address.

“Alcohol is a significant contributory factor to crime across the whole of the Dyfed Powys area,” he said.

“We are educating our young people through our schools liaison programme, and highlighting to them that alcohol can lead to more risky behaviour.

“I have increased funding to youth offending in each local authority area, and there’s also a pilot in Carmarthenshire and Fishguard where detached officers are working with our youth clubs.

“We are looking forward to seeing how that develops to see if we roll it out to other areas.”

The Dyfed Powys Police and Crime Panel is made of up of members nominated by the four councils in the force area: Carmarthenshire, Ceredigion, Pembrokeshire and Powys; and at least two independent members. Carmarthenshire County Council is the lead authority for the panel.

The meetings are open to the press and public, and with the prior permission of the chair, people can ask questions or make a statement in relation to a matter being considered by the panel, with the exception of personnel matters.

Questions can also be submitted to the panel either in writing or via the website contact form.

Information about the panel, agendas, meeting dates, membership and news is available online at http://www.dppoliceandcrimepanel.org.uk/

Panel Heddlu a Throseddu yn trafod yfed dan oed

 

DYWEDODD Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys ei fod yn ymrwymo i leihau troseddau ieuenctid a’i fod yn buddsoddi rhagor o arian i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Siaradodd Dafydd Llywelyn yng nghyfarfod diweddar Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i dawelu pryderon bod troseddau a sbardunir gan alcohol yn fwy cyffredin yng Ngheredigion nag yn unrhyw ardal arall ar draws yr Heddlu.

Gofynnwyd cwestiwn iddo gan y Cynghorydd Keith Evans, a oedd yn gofyn am sicrwydd yn dilyn digwyddiad yn ei ardal a oedd yn ymwneud ag yfed dan oed, yn ystod y Flwyddyn Newydd.

Dywedodd Mr Llywelyn nad yw’r broblem yn gyfyngedig i ardaloedd penodol, ond yn hytrach ei fod yn broblem genedlaethol y mae’n awyddus i ymdrin â hi.

“Mae alcohol yn ffactor pwysig sy’n cyfrannu at droseddau ledled ardal gyfan Dyfed-Powys,” meddai Mr Llywelyn.

“Rydym yn addysgu ein pobl ifanc drwy ein hysgolion a’n rhaglen cyswllt ysgolion, ac yn tynnu sylw at y ffaith bod alcohol yn gallu arwain at ymddygiad sy’n fwy peryglus.

“Rwyf wedi cynyddu’r cyllid ar gyfer y materion sy’n ymwneud â throseddau ieuenctid ym mhob awdurdod lleol, ac mae peilot ar waith hefyd yn Sir Gaerfyrddin ac Abergwaun, lle y mae swyddogion datgysylltiedig yn gweithio gyda’n clybiau ieuenctid.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd hynny’n datblygu, er mwyn gweld a fyddwn yn ei roi ar waith yn ardaloedd eraill.”

Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys; ac o leiaf ddau aelod annibynnol. Cyngor Sir Caerfyrddin yw awdurdod arweiniol y Panel.

Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r wasg a’r cyhoedd, ac os cânt ganiatâd ymlaen llaw gan y cadeirydd, gall pobl ofyn cwestiynau neu wneud datganiad ynghylch mater sy’n cael ei ystyried gan y panel, ac eithrio materion personĂŠl.

Hefyd, gellir cyflwyno cwestiynau i’r panel yn ysgrifenedig neu drwy’r ffurflen gyswllt ar y wefan.

Mae gwybodaeth am y panel, agendâu, dyddiadau cyfarfodydd, aelodaeth a newyddion ar gael ar-lein: http://panelheddluathroseddudp.cymru/cartref/

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle