Savoury Welsh Cakes Recipe for St David’s Day / Rysáit cacennau cri sawrus ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi

0
1508

Leek, Ham & Cheese Welsh Cakes by Beca Lyne-Pirkis

 

These savoury Welsh cakes are the perfect treat to enjoy on St David’s Day. Not only are they delicious and easy to make, but they are thrifty too, costing only 4 pence in energy. Beca says:

 

“I was taught by my mother and grandmothers how to cook and I like to think I’m pretty good at managing my own budget, especially in the kitchen. I learnt to use seasonal products, to be thrifty and create tasty dishes without waste. This is something I’m very keen to pass on to my daughters. Having a smart meter makes the energy that we use visible and shows us in pounds and pence the cost of our cooking. It has helped me develop this energy efficient, thrifty and delicious recipe.”

 

Contact your energy supplier today about getting your own smart meter installed, at no extra cost.

 

 

Leek, Ham & Cheese Welsh Cakes

 

Ingredients:

 

225g Self-Raising Flour

100g Salted Butter, cold & cubed

150g Extra Mature Cheddar, cut into 1cm cubes

70g Ham – a smoked ham will add a great flavour

½ Leek, washed and thinly sliced

Salt & Pepper

1 Egg (beaten with a little milk)

1 tablespoon Olive Oil

Butter to grease and sauté the leeks

 

Method:

 

In a small frying pan, place the sliced leek with a small knob of butter and a pinch of salt and sauté over a low heat until soft and sweet, remove from the pan to cool.

 

Place your thin based frying pan on the hobs to a low heat.

 

In a large bowl, add the flour, salt and pepper and rub the butter into the flour until the mixture looks like breadcrumbs.  Add the cubed cheese, sliced ham and softened leek and stir to evenly distribute the ingredients.

 

Add the beaten egg and olive oil and using a regular cutlery knife, bring the dough together into a ball.  Tip out the dough onto a lightly floured surface and roll out/flatten to 1cm thickness.  Cut the dough into whatever size rounds you want – 3cm is perfect for canapés.

 

Grease your frying pan with a little butter and cook your Welsh Cakes until they are a golden brown. Don’t over-crowd the pan and grease the pan in between every batch.

 

 

Beca’s energy cost: 4p

Serves: 24

Prep: 30 mins

Cook: 20 mins (set 1)

 

 

Teisennau Cri Cennin, Ham a Chaws

 

“Cefais fy nysgu gan fy mam a’n nain sut i goginio, ac rwy’n hoffi meddwl fy mod yn eithaf da yn rheoli fy nghyllid fy hun, yn enwedig yn y gegin. Dysgais sut i ddefnyddio cynhwysion tymhorol i goginio prydau diwastraff a blasus. Rwy’n awyddus awyddus i ddysgu’r un peth i fy mhlant hefyd. Mae cael mesurydd clyfar yn caniatáu i ni weld faint o ynni yr ydym yn ei ddefnyddio, gan ddangos cost ein coginio mewn punnoedd a cheiniogau. Mae’r mesurydd clyfar wedi fy helpu i ddatblygu’r ryseitiau yma sy’n ynni effeithlon, diwastraff a blasus.”

 

Cyngor cynnil Beca

“Mae’r rhain yn amrywiaeth ar rysáit cacennau cri fy Nan. Ydyn, maent yn sawrus ond yn lush! Maent hefyd yn effeithlon o ran ynni gan fy mod wedi eu gwneud yn llai o faint ac yn eu coginio wrth ddefnyddio padell ffrio denau. Maent yn coginio’n gyflym ac yn flasus wedi eu gweini gyda siytni, neu fel cinio gydag wy wedi’i botsio”

 

Cynhwysion:

225g Blawd Codi

100g Menyn Hallt, oer ac mewn ciwbiau

150g Caws Cheddar Aeddfed Iawn, wedi’i dorri mewn ciwbiau 1cm

70g Ham – bydd ham mŵg yn ychwanegu blas hyfryd

½ Cenhinen, wedi’i golchi a’i thorri’n fân

Halen a Phupur

1 Ŵy (wedi’i guro gydag ychydig o laeth)

1 llwy fawr Olew Olewydd

Menyn i seimio a ffrio’r cennin

 

Dull:

Rhowch y genhinen wedi’i thorri mewn padell ffrio fach gyda chiwb bach o fenyn a phinsiad o halen a ffriwch dros dân isel hyd nes ei bod yn feddal ac yn felys, tynnwch o’r badell a’i rhoi i oeri.

 

Rhowch eich badell ffrio denau ar y pentan dros dân isel.

 

Mewn powlen fawr, ychwanegwch y blawd, halen a phupur a rwbiwch y menyn i mewn i’r blawd hyd nes bod y cymysgedd yn edrych fel briwsion bara. Ychwanegwch y ciwbiau caws, yr ham wedi’i dorri a’r cennin wedi’u meddalu a throwch i ddosbarthu’r cynhwysion yn gyfartal.

 

Ychwanegwch yr ŵy wedi’i guro a’r olew olewydd a dewch â’r toes ynghyd mewn pêl gan ddefnyddio cyllyll cyffredin. Trowch y toes allan ar arwyneb gyda haenen o flawd arno a rholiwch allan yn wastad i drwch o 1cm. Torrwch y toes mewn cylchoedd o ba faint bynnag a fynnwch – mae 3cm yn berffaith ar gyfer canapes.

 

Seimiwch eich padell ffrio gydag ychydig o fenyn a choginiwch eich Teisennau Cri hyd nes eu bod yn lliw brown-euraidd.  Peidiwch â rhoi gormod yn y badell ar yr un pryd a seimiwch y badell rhwng pob pobiad.

 

Costau ynni Beca: 4c

Yn gwneud 24

Paratoi: 30 munud

Coginio: 30 munud


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle