Events focus groups to be held across Carmarthenshire | Grwpiau ffocws yn cael eu cynnal ledled Sir Gaergyrddin

0
433

Events focus groups to be held across Carmarthenshire

FOCUS groups are to be held across Carmarthenshire to look at ways that businesses and communities can get involved in, and benefit from, local events.

Carmarthenshire County Council’s Marketing and Media team is running three focus groups as part of its RDP LEADER funded Event Organisers Circle which has been set up to help event organisers grow and improve their events.

Executive board member for culture, sport and tourism, Cllr Peter Hughes Griffiths, said: “Events can have a significant impact on the economy of a town.

“This can be enhanced further if all the different groups that make up the town are involved in their local events and this can also greatly enhance the visitor experience. We look forward to seeing as many businesses, groups and individuals come along to the focus groups as possible, to look at ways we can work together going forward.”

The focus group meetings will take place at Cawdor Hall (The Clocktower), Newcastle Emlyn, on Monday February 26; Yr Atom, King Street, Carmarthen, on Thursday March 1, and Castle Hotel, Llandovery, on Tuesday March 6. All events take place 6-8pm, with experienced community event organisers as guest speakers.

All events are free of charge. Anyone who wants to attend should email marketing@carmarthenshire.gov.uk

 

Carmarthen: http://bit.ly/2nstd9n

Llandovery: http://bit.ly/2EzmNwJ

Carmarthen: http://bit.ly/2nstd9n

Llandovery: http://bit.ly/2EzmNwJ

Grwpiau ffocws yn cael eu cynnal ledled Sir Gaergyrddin

 

BYDD grwpiau ffocws yn cael eu cynnal ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn ystyried y ffyrdd y gall busnesau a chymunedau gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol ac elwa arnynt.

Mae tîm Marchnata a’r Cyfryngau Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal tri grŵp ffocws fel rhan o’i Gylch Trefnwyr Digwyddiadau a ariennir gan Raglen LEADER y Cynllun Datblygu Gwledig, a sefydlwyd er mwyn helpu trefnwyr digwyddiadau i sicrhau bod eu digwyddiadau’n gwella ac yn tyfu.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae digwyddiadau’n gallu cael effaith sylweddol ar economi tref.

“Gellir manteisio ar hyn ymhellach os bydd yr holl wahanol grwpiau sy’n rhan o’r dref yn cymryd rhan yn eu digwyddiadau lleol, a gall hyn hefyd wella profiad ymwelwyr yn fawr. Edrychwn ymlaen at weld cynifer o fusnesau, grwpiau ac unigolion ag sy’n bosibl yn dod i’r grwpiau ffocws, er mwyn ystyried y ffyrdd y gallwn weithio gyda’n gilydd wrth symud ymlaen.”

Cynhelir cyfarfodydd y grwpiau ffocws yn Neuadd Cawdor (Tŵr y Cloc), Castellnewydd Emlyn, ddydd Llun 26 Chwefror; Yr Atom, Stryd y Brenin, Caerfyrddin, ddydd Iau 1 Mawrth, a Gwesty’r Castell, Llanymddyfri, ddydd Mawrth 6 Mawrth. Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 6pm ac 8pm, a’r siaradwyr gwadd fydd trefnwyr digwyddiadau cymunedol profiadol.

Mae’r holl ddigwyddiadau am ddim. Os hoffech fynychu, dylech anfon neges e-bost at marketing@sirgar.gov.uk

 

Caerfyrddin: http://bit.ly/2nstd9n

Llanymddyfri: http://bit.ly/2EzmNwJ

Caerfyrddin: http://bit.ly/2nstd9n

Llanymddyfri: http://bit.ly/2EzmNwJ

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle