Rough sleepers urged to get help during cold snap/Cymorth i bobl sy’n cysgu allan yn ystod yr oerfel

0
699

PEOPLE sleeping rough in Carmarthenshire are being urged by the council to come forward for shelter and support.

The call comes as the UK is gripped by extreme winter weather blowing in from the east.

Carmarthenshire County Council’s housing team has implemented its cold weather procedures, and have arranged temporary accommodation for people who present themselves as homeless.

The procedures kick in when temperatures fall to zero degrees for two nights or more.

Although the most recent rough sleeper count in November identified just one person, the council is aware that there may be other homeless people sleeping on the streets who usually refuse support.

“We are urging rough sleepers to come forward,” said Cllr Linda Evans, executive board member for housing.

“Homelessness is something we work hard to prevent every day of the year, but despite the support we offer the reality is that some people don’t want it and are often very difficult to engage with”.

“However, in these extreme conditions we are encouraging people to come to us so we can get a roof over their head and a warm bed”.

“If anyone knows of someone sleeping rough, and knows where they are, we’d appreciate information being passed to them, or given to us so we can offer temporary accommodation, even if only for a few nights.”

  • People can identify themselves as needing housing or temporary accommodation support at any of the council’s main offices. Alternatively, call 01554 899389 or SCHOptions@carmarthenshire.gov.uk

Cymorth i bobl sy’n cysgu allan yn ystod yr oerfel

 

MAE pobl sy’n cysgu allan yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog gan y Cyngor i ofyn am gymorth i gael llety a chefnogaeth.

Daw hyn wrth i’r Deyrnas Unedig ddioddef tywydd oer gaeafol o’r dwyrain.

Mae TĂŽm Tai Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithredu ei weithdrefnau ar gyfer y tywydd oer ac wedi trefnu llety dros dro i bobl sy’n ddigartref.

Mae’r gweithdrefnau hyn yn cael eu rhoi ar waith pan fydd y tymheredd yn gostwng i sero gradd am ddwy noson neu fwy.

Er bod y cyfrif diwethaf o ran pobl ddigartref ym mis Tachwedd wedi cofnodi un person yn unig, mae’r Cyngor yn ymwybodol y gallai fod pobl ddigartref eraill yn cysgu allan ar y strydoedd sydd fel arfer yn gwrthod cymorth.

“Rydym yn annog y rheiny sy’n cysgu allan i ofyn am gymorth,” meddai’r Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai.

“Mae digartrefedd yn rhywbeth rydym yn gweithio’n galed i’w atal bob dydd o’r flwyddyn, ond er gwaethaf y cymorth rydym yn ei gynnig, gwirionedd y sefyllfa yw nad yw rhai pobl eisiau’r cymorth hwnnw ac yn aml, mae’n anodd iawn ymgysylltu â nhw.

“Fodd bynnag, yn y tywydd eithafol hwn, rydym yn annog pobl i ddod atom er mwyn i ni allu rhoi to uwch eu pennau a gwely cynnes iddyn nhw.

“Os ydych yn gwybod am rywun sy’n cysgu allan ac yn gwybod lle maen nhw, byddem yn gwerthfawrogi petaech yn rhoi’r neges hon iddyn nhw neu’n rhoi gwybod i ni er mwyn inni allu cynnig llety dros dro iddyn nhw, am ychydig nosweithiau hyd yn oed.”

  • Gall pobl nodi eu bod angen cymorth o ran tai neu lety dros dro yn unrhyw un o brif swyddfeydd y Cyngor. Neu, ffoniwch 01554 899389 neu e-bostiwch SCHOptions@sirgar.gov.uk

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle