Ammanford Library leads the way in digital technology
A new digital revolution is about to take Ammanford by storm.
The Makerspace project – known as Stordy Creadigol – is a state of the art creative store and is the first of its kind in Welsh libraries.
Types of technology on offer at Ammanford Library include 3D printers and 3D modelling; DVD, VHS, camera conversion hardware and software; audio recording and editing booths, midi keyboard, mixers, DJ equipment, microphones; video/Image recording and editing booths; PCs with recording and editing software and a green screen and much more.
The Stordy Creadigol will allow library users to experience technologies or activities that they may have not used and gives members access to tools, technology, and social connections that may not be easily accessible otherwise.
The project will be launched on Monday, March 19 with Culture, Sport and Tourism Minister, Lord Dafydd Elis-Thomas opening the event. Celebrations will continue with a host of activities planned over two weeks.
Users of all ages can work together, alone, or with library staff on creative projects. It is hoped the new technology will encourage non-traditional library users to make best use of all library resources, fuelling a new wave of creativity, problem solving and entrepreneurialism.
The council’s executive board member for leisure, Cllr Peter Hughes-Griffiths said: “The needs of the population of Carmarthenshire are in a continual state of change. Our tasks through libraries is to create a space for knowledge, reflection, and participation in an ever-changing world. This development also adds to the community enthusiasm shown towards Ammanford as the Cultural Town of Carmarthenshire for 2018.”
The developments at Ammanford library is part of a bigger project where the goal is to roll-out services across the county’s network of libraries through the development of partnerships and organisational stakeholders.
The council’s libraries manager, Mark Jewell said: “We are so excited to launch this project especially being the first of its kind in Wales. Makerspace will inspire creativity, innovation and product design where people of all ages and abilities can gather to co-create, share resources and knowledge, work on projects, network, and build. Libraries are more than just books as this project demonstrates. Libraries are a place for individuals and communities to grow.”
The library service wants to increase its wide range of activities by introducing Makerspace type services which will inspire creativity and innovation, a first of its kind in Wales. It is intended to encourage new people to the library, combining new and traditional core library services. Libraries are not only important for the individual, but also for society as a whole.
Llyfrgell Rhydaman yn arwain mewn technoleg ddigidol
Mae chwyldro digidol newydd ar fin creu cynnwrf yn Rhydaman.
Mae prosiect Makerspace – a elwir yn Stordy Creadigol – yn storfa greadigol gwbl gyfoes a’r cyntaf o’i fath yn llyfrgelloedd Cymru.
Ymhlith y mathau o dechnoleg sydd ar gael yn Llyfrgell Rhydaman y mae argraffwyr 3D a modelu 3D; meddalwedd a chaledwedd trosi DVD, VHS a chamera; bythau golygu a recordio sain, bysellfwrdd ‘midi’, cymysgwyr, offer DJ, meicroffonau; bythau golygu a recordio fideos/delweddau; cyfrifiaduron â meddalwedd recordio a golygu a sgrin werdd a llawer mwy.
Bydd Stordy Creadigol yn galluogi defnyddwyr y llyfrgell i roi cynnig ar dechnolegau neu weithgareddau nad ydynt o bosibl wedi eu defnyddio o’r blaen, ac mae’n rhoi mynediad i aelodau i ddulliau, technoleg, a chysylltiadau cymdeithasol eraill nad ydynt efallai yn hwylus i’w cyrchu fel arall.
Bydd y prosiect yn cael ei lansio ddydd Llun, 19 Mawrth a bydd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, sef yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn agor y digwyddiad. Bydd y dathliadau’n parhau drwy gyfrwng llu o weithgareddau a drefnir dros bythefnos.
Gall defnyddwyr o bob oedran weithio ar brosiectau creadigol gyda’i gilydd, ar eu pennau eu hunain, neu gyda staff y llyfrgell. Y gobaith yw y bydd y dechnoleg newydd yn annog pobl sy’n defnyddio’r llyfrgell o’r newydd i fanteisio i’r eithaf ar holl adnoddau’r llyfrgell, gan arwain at don newydd o greadigrwydd, datrys problemau ac entrepreneuriaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Hamdden: “Mae anghenion poblogaeth Sir Gaerfyrddin yn newid drwy’r amser. Ein nod drwy ein llyfrgelloedd yw creu llecyn i ddysgu, myfyrio a chyfranogi, a hynny mewn byd sy’n newid yn barhaus. Mae’r datblygiad hwn hefyd yn ychwanegu at y brwdfrydedd cymunedol tuag at Rydaman fel Tref Ddiwylliant Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2018.”
Mae’r datblygiadau yn Llyfrgell Rhydaman yn rhan o brosiect mwy o faint i gyflwyno gwasanaethau ar draws rhwydwaith llyfrgelloedd y sir drwy ddatblygu partneriaethau a rhanddeiliaid sefydliadol.
Dywedodd Mark Jewell, Rheolwr Llyfrgelloedd y Sir: “Rydym mor gyffrous ynghylch lansio’r prosiect hwn, yn enwedig gan taw hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. Bydd Makerpsace yn ysgogi creadigrwydd, arloesedd a dylunio cynnyrch, a gall pobl o bob oed a gallu ddod at ei gilydd i gyd-greu, rhannu adnoddau a gwybodaeth, gweithio ar brosiectau, rhwydweithio ac adeiladu. Mae llyfrgelloedd yn fwy na dim ond llyfrau, fel y dengys y prosiect hwn. Mae llyfrgelloedd yn llefydd i unigolion a chymunedau dyfu.”
Dymuna’r gwasanaeth llyfrgelloedd gynyddu ei ystod eang o weithgareddau drwy gyflwyno gwasanaethau tebyg i Makerspace a fydd yn ysbrydoli creadigrwydd ac arloesedd, y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Ei nod yw annog pobl newydd i ymweld â’r llyfrgell, gan gyfuno gwasanaethau craidd traddodiadol â rhai newydd. Yn ogystal â bod yn bwysig i’r unigolyn, mae llyfrgelloedd yn bwysig hefyd i gymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle