Diffoddwch y golau a helpwch i ddiogelu ein planed/Switch off and protect our planet

0
530
Emlyn Dole

Switch off and protect our planet

The Leader of Carmarthenshire County Council is urging people to switch off their lights as part of Earth Hour day.

Cllr Emlyn Dole is once again backing WWF Cymru’s one hour lights out on Saturday, March 24 at 8.30-9.30pm.

The worldwide initiative, now in its 11th year, is the world’s largest demonstration of support for action on climate change. Each year, millions of people around the world come together not only to save electricity but also to bring people together to celebrate the planet and how we need to protect it.

Carmarthenshire County Council is committed to reducing its environmental footprint – something which is reflected in reductions in energy consumption, increased recycling rates, investment in renewable energy and deployment of electric vehicles.

Last year over 280,000 people in Wales switched off including all local authorities and 300 Welsh schools.

Iconic landmarks switched off for the hour, including the Senedd, Principality Stadium, Caernarfon Castle, National Library of Wales and National Waterfront Museum. Companies showed their support for the campaign too, including Ikea Cardiff, Admiral, St David’s Shopping Centre, John Lewis, Arriva Trains Wales and Howies.

Cllr Emlyn Dole: “Carmarthenshire County Council is pleased to support Earth Hour once again. We have supported this campaign over recent years in Carmarthenshire and will be making arrangements to ensure all unnecessary building lighting is switched off from 8.30pm-9.30pm on March 25.

“By taking action and making simple changes to reduce our carbon footprint we can all make a huge difference to help protect our planet for future generations.”

Research shows our reliance on high carbon fossil fuel like coal, oil and gas is over-heating the atmosphere and affecting the climate.

If you want to take part then register at wwf.org.uk/earthhour

 

The list of building taking part will be:

  • County Hall, Carmarthen SA31 1JP
  • Spilman Street, Carmarthen, SA31 1LE
  • Parc Myrddin, Carmarthen, SA31 1DS
  • St. David`s Park, Jobs Well road, Carmarthen, SA31 3HB
  • Llanelli Town Hall, Llanelli, SA15 3AH
  • Ammanford Town Hall, Ammanford, SA18 3BE
  • Municipal Buildings, Llandeilo, SA19 6HW
  • East Gate, Llanelli, SA15 3YF (Please note:- Only the council offices will be partially unlit – Careline offices operate 24 hours and will need to remain lit).

Diffoddwch y golau a helpwch i ddiogelu ein planed

Mae Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog pobl i ddiffodd eu goleuadau fel rhan o ddiwrnod yr Awr Ddaear.

Mae’r Cynghorydd Emlyn Dole unwaith eto yn cefnogi ymgyrch WWF Cymru i ddiffodd goleuadau am awr ddydd Sadwrn, 24 Mawrth am 8.30pm-9.30pm.

Mae’r fenter fyd-eang yn un ar ddeg oed eleni a dyma’r mynegiant mwyaf yn y byd o blaid gweithredu ar fater newid hinsawdd. Bob blwyddyn, daw miliynau o bobl ynghyd ar draws y byd nid yn unig i arbed trydan ond hefyd i ddathlu’r blaned ac i roi sylw i sut y dylwn ei gwarchod.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymroi i leihau ei ôl troed amgylcheddol, a hynny drwy leihau’r defnydd o ynni, cynyddu cyfraddau ailgylchu, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a defnyddio cerbydau trydan.

Y llynedd roedd dros 280,000 o bobl yng Nghymru wedi diffodd eu golau, gan gynnwys yr holl awdurdodau lleol a 300 o ysgolion Cymru.

Diffoddwyd goleuadau tirnodau eiconig am yr awr honno, gan gynnwys y Senedd, Stadiwm y Principality, Castell Caernarfon, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dangosodd cwmnïau eu cefnogaeth i’r ymgyrch hefyd, gan gynnwys Ikea Caerdydd, Admiral, Canolfan Siopa Dewi Sant, John Lewis, Trenau Arriva Cymru a Howies.

Y Cynghorydd Emlyn Dole: “Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o gefnogi’r Awr Ddaear unwaith eto. Rydym wedi cefnogi’r ymgyrch hon dros y blynyddoedd diwethaf yn Sir Gaerfyrddin a byddwn ni’n gwneud trefniadau er mwyn sicrhau bod holl oleuadau diangen ein hadeiladau yn cael eu diffodd rhwng 8.30pm a 9.30pm ar Fawrth 25.

“Drwy gymryd camau a gwneud newidiadau syml i leihau ein hôl troed carbon gallwn i gyd wneud gwahaniaeth enfawr i helpu i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dengys gwaith ymchwil fod ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil sy’n cynnwys llawer o garbon, megis glo, olew a nwy, yn gorgynhesu’r amgylchedd ac yn effeithio ar yr hinsawdd.

Os ydych chi’n dymuno cymryd rhan, cofrestrwch drwy fynd i wwf.org.uk/earthhour

Dyma’r adeiladau sy’n cymryd rhan:

  • Neuadd y Sir, Caerfyrddin SA31 1JP
  • Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE
  • Parc Myrddin, Caerfyrddin, SA31 1DS
  • Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB
  • Neuadd y Dref, Llanelli, SA15 3AH
  • Neuadd y Dref, Rhydaman, SA18 3BE
  • Adeiladau’r Cyngor, Llandeilo, SA19 6HW
  • Porth y Dwyrain, Llanelli, SA15 3YF (Nodwch:- Dim ond yn swyddfeydd y Cyngor bydd y golau’n cael ei ddiffodd yn rhannol – mae swyddfeydd y Llinell Gofal ar agor bob awr o’r dydd a’r nos a bydd angen iddynt gael goleuadau drwy’r amser).

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle