We are pleased that we have filled the evening and overnight GP Out-of-Hours shifts at Prince Philip Hospital tonight, meaning the service can run as usual.
However, despite our significant efforts, we have not been able to fill the GP Out-of-Hours 6.30pm-11.30pm shift at Glangwili Hospital, Carmarthen, this evening. Anyone who is unwell should contact 111 as usual, where you will be advised on the best form of care for your need. A GP will be available to provide telephone advice, and the Minor Injury Unit at the hospital remains open until 10pm.
From 11.30pm onwards, Out of Hours GPs will be available at both Glangwili Hospital and Prince Philip Hospital. Regardless of rotas anyone in Carmarthenshire who is unwell and needs to see a GP should call 111.
Deputy Chief Executive and Director of Operations Joe Teape said: “I would like to apologise for any concern or inconvenience caused due to ongoing staffing issues in the Out of Hours GP service. This is currently a familiar trend among other health boards across the country. We know that all of our staff and GPs are working really hard to provide safe services for our patients and we appreciate this. We are working together across the whole health board area and across different services to provide a safety net for our patients.”
In the instance of rotas not being filled, other health care services such as minor injury units, 111 and community pharmacy, continue to be available. If after a telephone based GP assessment has been completed and someone needs to see a GP face to face they may be asked to travel to a neighbouring county within the Hywel Dda region to see the nearest available GP (the nearest available GP which may be Glangwili or Prince Philip Hospital if one of the rotas can be filled, or Withybush General Hospital, Haverfordwest, or their nearest alternative GP as instructed by 111 operators).
The health board continues to work closely with GP partners across the area to try and resolve this situation. Currently none of the rotas at our other hospitals have any additional capacity to offer. We will work closely with partners such as the Welsh Ambulance Service and the 111 service, who will be able to advise any patients who call according to their clinical needs.
If you live in Carmarthenshire and are unwell out of hours during the evenings and weekend you can do a number of things:
• for health information and advice, including online symptom checkers, please visit NHS Direct Wales: www.nhsdirect.wales.nhs.uk
• call 111 – they can help to signpost you to the right service, for example a GP, nurse, pharmacist or Minor Injury Unit, they also provide health information on a wide range of conditions for self care if appropriate
• use your community pharmacy, some of these have enhanced services like ‘triage and treat’ for treatment of minor conditions, including Burry Port Pharmacy
• for a minor injury, you can visit Prince Philip Hospital’s Minor Injury Unit, which is open 24/7
• ONLY in an emergency for serious or life-threatening conditions should you dial 999 Mr Teape added:
“The public’s health is our number one priority and although we sometimes cannot achieve everything that we want to achieve, we are doing our utmost to ensure that we can continue to provide services that are safe and robust for our local communities.”
————————————————————————————-
Rydym yn falch ein bod wedi llenwi sifftiau min nos a thros nos y Gwasanaeth Meddyg Teulu Tu-Allan-i-Oriau yn Ysbyty Tywysog Philip heno, sy’n golygu y bydd y gwasanaeth yn rhedeg fel arfer.
Fodd bynnag, er ein hymdrechion di-flino, nid ydym wedi gallu llenwi sifft 6.30pm-11.30pm y Gwasanaeth Meddyg Teulu Tu-Allan-i-Oriau yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Dylai unrhyw un sy’n sâl ffonio 111 fel arfer, a chael eich cynghori ar y gofal gorau ar gyfer eich angen. Bydd Meddyg Teulu ar gael i ddarparu cyngor dros y ffôn, ac mae Uned Mân Anafiadau yr ysbyty yn parhau ar agor tan 10pm.
O 11.30pm ymlaen, bydd Gwasanaeth Meddyg Teulu Tu-Allan-i-Oriau ar gael yn Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Tywysog Philip. Waeth beth fo’r sefyllfa gyda rotas, dylai unrhyw un yn Sir Gaerfyrddin sy’n sâl ac mewn angen gweld Meddyg Teulu, ffonio 111.
Meddai Joe Teape, Cyfarwyddwr Gweithrediadau BIP Hywel Dda: “Dymunaf ymddiheuro am unrhyw bryder neu anghyfleustra a achosir oherwydd materion staffio parhaus yn y Gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau. Ar hyn o bryd, mae hon yn duedd gyfarwydd ymhlith byrddau iechyd eraill ar draws Cymru. Gwyddom fod pob aelod o’n staff a’n meddygon teulu yn gweithio’n galed iawn i ddarparu gwasanaethau diogel ar gyfer ein cleifion a rydym yn gwerthfawrogi hyn. Rydym yn cyd-weithio ar draws ardal gyfan y bwrdd iechyd ac ar draws gwasanaethau gwahanol i ddarparu rhwyd ddiogelwch ar gyfer ein cleifion.”
Mewn achosion lle nad yw rota wedi’i lenwi, mae gwasanaethau gofal iechyd eraill megis unedau mân anafiadau, llinell 111 a fferyllfeydd cymunedol yn parhau i fod ar gael. Os oes angen i rywun weld Meddyg Teulu wyneb-yn-wyneb yn dilyn asesiad gan feddyg teulu dros y ffôn, efallai bydd gofyn iddynt deithio i sir gyfagos o fewn ardal Hywel Dda i weld y Meddyg Teulu agosaf sydd ar gael (gallai hyn fod yn Ysbyty Glangwili neu Ysbyty Tywysog Philip os bydd un o’r rotas yn cael ei lenwi, neu Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd neu Feddyg Teulu arall yn unol â chyfarwyddid gweithredwr gwasanaeth llinell 111).
Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i weithio’n agos gyda Meddygon Teulu partner ar draws yr ardal er mwyn ceisio datrys y sefyllfa hon. Ar hyn o bryd, nid oes gan unrhyw un o’r rotas yn ein hysbytai eraill gapasiti ychwanegol i’w gynnig. Byddwn yn cyd-weithio’n agos â phartneriaid megis Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaeth llinell 111, a all gynghori cleifion ar yr hyn i’w wneud yn ôl eu hanghenion clinigol.
Os ydych chi’n byw yn Sir Gaerfyrddin ac yn sâl tu allan i oriau dyda’r nos a’r penwythnos, gallwch wneud nifer o bethau:
• am wybodaeth a chyngor iechyd, yn cynnwys gwiriwr symptomau ar-lein, trowch at Galw Iechyd Cymru: www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk
• ffonio 111 – gall y gwasanaeth hwn helpu eich cyfeirio at y gwasanaeth cywir, er enghraifft Meddyg Teulu, nyrs, fferyllydd neu Uned Mân Anafiadau, mae hefyd yn darparu gwybodaeth iechyd ar hunan-ofal ar gyfer ystod eang o gyflyrau, os yw’n briodol • defnyddio fferyllfa gymunedol – mae gan rai o’r rhain wasanaethau ychwanegol megis ‘brysbennu a thrin’ ar gyfer trin mân gyflyrau, yn cynnwys Fferyllfa Porth Tywyn
• mân anaf – gallwch ymweld ag Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip, sydd ar agor 24/7
• DIM OND mewn argyfwng ac mewn cyflwr difrifol sy’n bygwth bywyd y dylech ffonio 999 Ychwanegodd Mr Teape:
“Iechyd y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth ac er na allwn weithiau gyflawni popeth yr ydym yn dymuno ei gyflawni, rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n ddiogel a chadarn i’n cymunedau lleol.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle