Major transport hub project opens in Port Talbot/Prosiect prif hwb trafnidiaeth yn agor yng Nghastell-nedd Port Talbot

0
777

This week (Monday 12 March)the Leader of Neath Port Talbot Council officially opened the new £5.6m integrated transport hub in Port Talbot.

At the event, the Leader was joined by representatives from Neath Port Talbot Council, the Welsh Government, the Welsh European Funding Office and Andrew Scott Ltd.

The new Transport Hub centralises main transport links including Port Talbot Parkway station, a new bus terminal, cycle facilities, a taxi rank and drop-off and pick-up bays in a largely pedestrianised concourse, providing easier access for all to employment and residential areas in and around the town.The Transport Hub complements the £11.3m redevelopment of Port Talbot Parkway Railway Station by Network Rail in 2016 and forms part of the Council’s wider Regeneration Programme.

The scheme has been funded by the Local Transport Fund, Vibrant & Viable Places funding and the European Regional Development Fund, through the Welsh Government.

The Transport Hub is an additional and complementary provision to Port Talbot Bus Station, where normal services will continue.

Commissioning of the Transport Hub is continuing and Taxi Services will be added shortly. Bus services are operating well and in total, there isin excess of 160 departures per day (Monday to Saturday) with reduced services on Sundays.

 

All bus operating queries for the new Transport Hub should be made to First Cymru and Ridgways direct or via Travelinecymru.org.

 

Leader of Neath Port Talbot Council, Cllr Rob Jonessaid: “We would like to thank all our partners and contractors involved in developing such an excellent Transport Hub.

 

“The new transport hub has been designed to improve the town’s connectivity and encourage greater opportunities for regeneration, investment and growth. The Hubhas brought together Bus, Rail, Taxi, Cycle and Pedestrian facilities in a safe modern environment that has created a vibrant gateway for Port Talbot town”.

 

 

Minister for Housing and Regeneration Rebecca Evans said: “We have invested in this fantastic new facility because it helps to meet our Valleys Taskforce ambitions to revitalise town centres, create jobs and improve transport infrastructure.

 

“It will improve connectivity for people locally and ensure that more people from the surrounding communities can access opportunities to learn, work and socialise in the town.”

 

Cabinet Secretary for Economy and Transport Ken Skates said:

 

“This hub will encourage the use of public transport, walking and cycling, thereby reducing congestion and improving the environment.

 

“The increased access to active travel alongside the improved public transport system will all contribute towards reducing journey times and increasing accessibility to employment, which will in turn feed into the regeneration and revitalisation of the area.”

 

Mark Bowen, Managing Director at Andrew Scott Ltd said: “As a long-established local contractor we are delighted to have been part of this hugely important but challenging project, and we would like to thank the public and local community for their patience whilst works were underway.

The Hub will play a significant part in delivering modern transport links and attracting economic development to the area and we are proud to be a part of this integral scheme”.

The project has brought many benefits to the community, including opportunities for local suppliers and contractors, generating employment and training for local people.

Pictured at the opening of Port Talbot Transport Hub (l-r): Mark Bowen, Managing Director, Andrew Scott; Cllr Anthony Taylor, Deputy Leader, Neath Port Talbot Council; Cllr Dennis Keogh, Mayor of Neath Port Talbot and Cllr Rob Jones, Leader, Neath Port Talbot Council

Prosiect prif hwb trafnidiaeth yn agor yng Nghastell-nedd Port Talbot

Agorodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot Hwb Trafnidiaeth Integredig newydd gwerth £5.6miliwn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn swyddogol yr wythnos hon.

Yn y digwyddiad, ymunodd cynrychiolwyr o Gyngor Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac Andrew Scott Ltd. â’r arweinydd.

Bydd yr Hwb Trafnidiaeth newydd yn ganolfan i brif gysylltiadau trafnidiaeth gan gynnwys Gorsaf Parcffordd Port Talbot, gorsaf fysus newydd, cyfleusterau beicio, safle tacsis a chilfachau codi a gollwng mewn cynteddfa i gerddwyr yn bennaf, gan ddarparu mynediad mwy hwylus i bob ardal gyflogaeth a phreswyl yn y dref ac o’i chwmpas. Mae’r Hwb Trafnidiaeth gwerth £5.6m yn cydweddu â’r ailddatblygiad gwerth £11.3m i Orsaf Drenau Parcffordd Port Talbot a gwblhawyd gan Network Rail yn 2016, ac mae’n rhan o Raglen Adfywio ehangach y cyngor.

Ariannwyd y cynllun gan y Gronfa Trafnidiaeth Leol, cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru.

Mae’r Hwb Trafnidiaeth yn ddarpariaeth ychwanegol ac ategol i Orsaf Fysus Port Talbot, lle bydd gwasanaethau arferol yn parhau.

Bydd yr Hwb Trafnidiaeth yn dal i gael ei gomisiynu a bydd gwasanaethau tacsis yn cael eu hychwanegu’n fuan. Mae’r gwasanaethau bysus yn gweithredu’n dda ac, mae cyfanswm o fwy na 160 o fysus yn gadael bob dydd (dydd Llun i ddydd Sul), gyda llai o wasanaethau’n gweithredu ar ddydd Sul.

 

Dylai pob ymholiad o ran gweithrediad bysus ar gyfer yr Hwb Trafnidiaeth newydd gael ei gyfeirio at First Cymru a Ridgeways yn uniongyrchol, neu drwy Travelinecymru.org.

 

Meddai Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyng. Rob Jones, “Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid a’n contractwyr sy’n rhan o ddatblygu Hwb Trafnidiaeth mor wych.

 

“Mae’r hwb trafnidiaeth newydd wedi’i gynllunio i wella cysylltedd y dref ac i annog cyfleoedd gwell ar gyfer adfywio, buddsoddiad a thyfiant. Mae’r Hwb wedi cyfuno cyfleusterau bws, trên, tacsi, beicio a cherdded mewn amgylchedd modern, diogel sydd wedi creu porth bywiog i’r dref”.

 

Meddai Rebecca Evans, y Gweinidog dros Dai ac Adfywio, “Rydym wedi buddsoddi yn y cyfleuster gwych newydd hwn am ei fod yn helpu i fodloni uchelgeisiau Tasglu’r Cymoedd i adfywio canol trefi, creu swyddi a gwella isadeiledd trafnidiaeth.

 

“Bydd yn gwella cysylltedd ar gyfer pobl leol ac yn sicrhau bod mwy o bobl o’r cymunedau cyfagos yn gallu cael mynediad i gyfleoedd dysgu, gweithio a chymdeithasu yn y dref.”

 

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth,

 

“Bydd yr hwb hwn yn annog y defnydd o gludiant cyhoeddus, cerdded a beicio, sy’n lleihau tagfeydd ac yn gwella’r amgylchedd.

 

“Bydd mwy o fynediad i deithio llesol ynghyd â system cludiant cyhoeddus well yn cyfrannu at leihau amseroedd teithio a bydd yn cynyddu mynediad i gyfleoedd gwaith a fydd yn bwydo i adfywiad yr ardal.”

Meddai Mark Bowen, Rheolwr-gyfarwyddwr Andrew Scott Ltd, “Fel contractwr lleol hirsefydlog, rydym yn falch o gael bod yn rhan o’r prosiect pwysig, ond heriol, hwn. Hoffem ddiolch i’r cyhoedd a’r gymuned leol am eu hamynedd wrth i’r gwaith gael ei wneud.

“Bydd yr hwb yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth modern a denu datblygiad economaidd i’r ardal ac rydym yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r cynllun pwysig hwn”.

Mae’r prosiect yn denu nifer o fanteision i’r gymuned, gan gynnwys cyfleoedd i gyflenwyr a chontractwyr lleol, sydd wedi cynnig cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle