*Datganiad i’r Wasg* Ras yr Iaith 2018

0
916

Ras yr Iaith yn mynd o nerth i nerth

Mae Ras yr Iaith, yr unig ras drwy’r byd sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg, yn ehangu.

Eleni mi fydd y Ras, y trydydd ers ei sefydlu, yn mynd i ardaloedd newydd o Gymru gan ymweld am y tro cyntaf â’r gogledd Ddwyrain a’r de Ddwyrain. Mi fydd y Ras yn cychwyn yn Wrecsam ar Orffennaf y 4ydd a gorffen yng Nghaerffili ar Orffennaf y 6ed gan gynnig tridiau llawn o rhedeg, sŵn, egni a mwynhâd tra’n dathlu’r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru yn cynnwys Llanrwst, Bangor, Porthaethwy, Machynlleth, Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Hwlffordd, Dinbych y Pysgod, San Clêr, Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman, Ystradgynlais, Clydach, Pontardawe a Porthcawl.

.

Mae mudiadau amrywiol ar draws Cymru hefyd yn elwa o’r Ras gan y bydd y nawdd a dderbynnir ar gyfer ei gynnal yn cael ei ddosbarthu ar ffurf grantiau. Rhannwyd yr arian a godwyd gan y Ras ddiwethaf a gynhaliwyd yn 2016, rhwng tua pedwar deg pump o fudiadau Cymraeg ar draws yr ardaloedd yr ymwelwyd â hwy.

Trefnir y Ras gan Mentrau Iaith Cymru a dywed Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:

“Rydym yn hapus iawn o allu arwain ar y trefniadau er mwyn gwasgaru neges y Ras i lefydd newydd eleni. Yn 2016 fe godwyd dros £42,000 mewn grantiau er mwyn i fudiadau hyrwyddo’r Gymraeg yn eu hardaloedd. Fel rhwydwaith o endidau sy’n bodoli er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau mae’n bleser gweld y ras yn tyfu pob tro ac yn gallu gwneud gwahaniaeth dros Gymru.”

Mae croeso mawr i bawb gymryd rhan yn Ras yr Iaith, yn grwpiau ffrindiau, ysgolion, teuluoedd, mudiadau neu fusnesau a gellir cymryd rhan yn y Ras drwy redeg neu gefnogi ar ochr yr heol, drwy stiwardio, neu drwy noddi cymal o’r Ras.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.rasyriaith.cymru

 

Ras yr Iaith goes from strength to strength.

Ras yr Iaith, the only world-wide race that promotes the Welsh language is expanding. This year the race, the third since its inception, will visit new areas of Wales, and will, for the first time, visit the North East and the South East of Wales. The Race will start in Wrexham on the 4th of July and finish in Caerphilly on July 6th offering three full days of running, noise, energy and enjoyment while celebrating Welsh in communities across Wales including Llanrwst, Bangor, Menai Bridge, Machynlleth, Aberystwyth, Haverfordwest, Tenby, Siant Clears, Carmarthen, Llanelli, Ammanford, Ystradgynlais, Clydach, Pontardawe and Porthcawl.

.

Various organisations across Wales also benefit from the Race as the funding received will be distributed in the form of grants. The money raised by the last Race held in 2016 was shared, between about forty five Welsh-language organisations across the areas visited.

The Race is organized by Mentrau Iaith Cymru, Owain Gruffydd, Chair of Mentrau Iaith Cymru, says:

“We are very happy to be able to lead on the arrangements to spread the Race’s message to new places this year. In 2016 over £42,000 was raised in grants for organisations to promote the Welsh language in their areas. As a network of entities that exist to increase the use of Welsh in communities it is pleasing to see the race growing every time and can make a difference for Wales.”

 

Everyone is very welcome to take part in Ras yr Iaith, groups of friends, schools, families, organisations or businesses can take part in the Race by running or supporting on the side of the road, by stewarding, or by sponsoring part of the Race.

For more information visit http://www.rasyriaith.wales/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle